Penderfyniadau tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau
34.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad sy'n dyfarnu ynghylch cais.
(2) Os cynhaliwyd gwrandawiad, ceir cyhoeddi'r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.
(3) Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad sy'n dyfarnu'n derfynol ynglŷn â chais, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad sy'n datgan penderfyniad y tribiwnlys (“dogfen penderfyniad”).
(4) Rhaid i'r ddogfen penderfyniad—
(a)bod wedi ei llofnodi a'i dyddio gan berson priodol;
(b)nodi—
(i)y penderfyniad a wnaed gan y tribiwnlys;
(ii)y rhesymau pam y cyrhaeddwyd y penderfyniad hwnnw;
(iii)dyddiad y penderfyniad;
(iv)unrhyw gamau y mae'n rhaid i unrhyw barti yn yr achos eu cymryd, ac erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cymryd y camau hynny; ac
(c)rhoi esboniad o hawl parti i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(5) Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi ei llofnodi a'i dyddio gan y person priodol, gywiro unrhyw wallau clerigol mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau neu amwyseddau sy'n digwydd ynddi oherwydd llithriad neu hepgoriad damweiniol.
(6) Rhaid anfon copi at bob un o'r partïon, o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (5).
(7) Yn y rheoliad hwn ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—
(a)Cadeirydd y tribiwnlys; neu
(b)yn absenoldeb neu analluogrwydd Cadeirydd y tribiwnlys, aelod arall o'r tribiwnlys.