xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2GWEITHDREFNAU TRIBIWNLYS EIDDO PRESWYL

Ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn gofyn i dribiwnlys, fel mater brys—

(a)ymdrin â chais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) (gwerthu neu roi cartref symudol) o'r Bennod honno; neu

(b)penderfynu, o dan adran 4(2) (awdurdodaeth tribiwnlys) o Ddeddf 1983, y cwestiwn pa un a oedd yn rhesymol i'r perchennog wrthod cymeradwyo person at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.

(2Os bodlonir tribiwnlys, ar sail tystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).

(3Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—

(a)naill ai—

(i)nad yw perchennog y safle wedi ymateb i'r hysbysiad a gyflwynwyd i berchennog y safle ar gyfer cymeradwyo person o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o'r Bennod honno; neu

(ii)nad yw perchennog y safle wedi rhoi ei gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae'r ceisydd o'r farn bod gwrthodiad perchennog y safle yn afresymol;

(b)bod y person y gofynnodd y ceisydd i berchennog y safle ei gymeradwyo o dan baragraff 8 neu 9 yn barod, yn fodlon ac yn abl i fod yn feddiannydd y cartref symudol;

(c)bodlonwyd y tribiwnlys y cwblheir pryniant y cartref symudol, neu y caiff ei roi a'i aseinio i'r person hwnnw gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd, os rhoddir cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9; ac

(ch)bod y ceisydd wedi darparu tystiolaeth i'r tribiwnlys, sy'n dynodi—

(i)bod perchennog y safle, yn flaenorol, wedi gwrthod yn afresymol rhoi cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â chartref symudol ar safle a ddiogelir a oedd yn eiddo i'r perchennog safle hwnnw; neu

(ii)bod person, yn flaenorol, wedi peidio â mynd ymlaen â phrynu neu roi cartref symudol ar y safle a ddiogelir y lleolir y cartref symudol arno, a hynny o ganlyniad i weithredoedd neu eiriau perchennog y safle.

(4Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—

(a)yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;

(b)y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;

(c)unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac

(ch)y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.

(5Rhaid pennu dyddiad y gwrandawiad llafar brys cyntaf ddim llai na 4 diwrnod, a dim mwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.

(6Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—

(a)os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu

(b)os na fodlonir y tribiwnlys felly—

(i)gohirio'r gwrandawiad; a

(ii)rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(7Os gohirir gwrandawiad llafar brys a bennwyd o dan baragraff (5), ni chaiff y dyddiad nesaf a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad dilynol fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad y gohiriad blaenorol.

(8Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—

(a)rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a

(b)rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).

(9Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—

(a)arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a

(b)penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.