Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 531 (Cy.83)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

Gwnaed

23 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Chwefror 2012

Yn dod i rym

21 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddynt(1) gan adran 250(2)(a) o Ddeddf Tai 2004(2) ac Atodlen 13 i'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(3) mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012. Deuant i rym ar 21 Mawrth 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion gerbron tribiwnlysoedd eiddo preswyl ar gyfer penderfynu ceisiadau mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “annedd” yr un ystyr a roddir i “dwelling” yn adran 322 o Ddeddf 1985;

ystyr “ATLl” (“LHA”) yw awdurdod tai lleol(4);

ystyr “cais” (“application”) yw cais neu apêl i dribiwnlys o dan—

(a)

Deddf 2004;

(b)

Rhan 9 o Ddeddf 1985; neu

(c)

Deddf 1983 (gan gynnwys unrhyw gais a wneir yn dilyn trosglwyddo unrhyw fater yn codi o gais a wnaed i'r llys o dan y Ddeddf honno),

ac y mae i “ceisydd” (“applicant”) ystyr cyfatebol;

ystyr “cais awdurdodi GRhI” (“IMO authorisation application”) yw cais am awdurdodiad i wneud gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004(5);

mae i “cartref symudol” yr un ystyr a roddir i “mobile home” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983;

ystyr “cymdeithas preswylwyr gymwys” (“qualifying residents' association”) yw cymdeithas sy'n bodloni'r gofynion a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983;

ystyr “cynhadledd rheoli achos” (“case management conference”) yw adolygiad cyn treial neu unrhyw gyfarfod arall a gynhelir gan dribiwnlys i'r diben o reoli'r achos mewn perthynas â chais;

ystyr “datganiad o resymau” (“statement of reasons”) yw datganiad o resymau a baratowyd gan yr ATLl o dan adran 8 o Ddeddf 2004 (rhesymau dros benderfyniad i gymryd camau gorfodi);

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983(6);

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985(7);

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Tai 2004;

ystyr “GRhAG” yw gorchymyn rheoli annedd gwag ac mae iddo yr un ystyr a roddir i “EDMO” yn adran 132 o Ddeddf 2004;

mae i “llain” yr un ystyr a roddir i “pitch” ym Mhennod 1 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983;

ystyr “mangre” (“premises”) yw—

(a)

mewn unrhyw gais ac eithrio cais a wneir o dan Ddeddf 1983, yr annedd y mae'r cais yn ymwneud â hi neu'r adeilad y mae'n ymwneud ag ef; a

(b)

mewn unrhyw gais a wneir o dan Ddeddf 1983, y llain, y safle a ddiogelir neu'r cartref symudol y mae'r cais yn ymwneud ag ef;

ystyr “meddiannydd” (“occupier”), mewn perthynas â chais a wneir o dan Ddeddf 1983, yw'r person sydd â hawl i leoli'r cartref symudol ar dir sy'n ffurfio rhan o'r safle a ddiogelir, ac i feddiannu'r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa'r person hwnnw, o dan gytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo;

mae i “perchennog safle” mewn perthynas â safle a ddiogelir, yr un ystyr a roddir i “owner” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983;

ystyr “person â buddiant” (“interested person”) mewn perthynas â chais penodol yw—

(a)

person, ac eithrio'r ceisydd, a fyddai wedi bod â hawl o dan Ddeddf 2004 neu Ddeddf 1985 (yn ôl fel y digwydd) i wneud y cais;

(b)

person y mae'n rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad o'r cais iddo yn unol â darpariaethau canlynol Deddf 2004—

(i)

paragraff 11(2) o Atodlen 1; neu

(ii)

paragraff 14(2) o Atodlen 3;

(c)

person y mae'n rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle iddo gael ei glywed yn unol â'r darpariaethau canlynol—

(i)

adran 34(4) o Ddeddf 2004; neu

(ii)

adran 317(2) o Ddeddf 1985;

(ch)

ac eithrio mewn perthynas â chais a wneir o dan Ddeddf 1983, yr Awdurdod Tai Lleol pan nad yw'n barti i'r cais;

(d)

y person y mae'r meddiannydd yn dymuno gwerthu neu roi cartref symudol iddo o dan baragraffau 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983; ac

(dd)

cymdeithas preswylwyr gymwys;

mae i “safle a ddiogelir” yr un ystyr a roddir i “protected site” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983;

ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl(8), ac ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) mewn perthynas â chais yw'r tribiwnlys sydd i benderfynu'r cais;

mae i “tŷ annedd” yr un ystyr a roddir i “dwelling-house” yn adran 183 o Ddeddf 1985; ac

ystyr “yr ymatebydd” (“the respondent”), mewn perthynas â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, yw'r person neu'r personau, neu un o'r personau, a bennir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.

RHAN 2GWEITHDREFNAU TRIBIWNLYS EIDDO PRESWYL

Y prif amcan a dyletswydd y partïon i gydweithredu â'r tribiwnlys

3.—(1Pan fo tribiwnlys—

(a)yn arfer unrhyw bŵer o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)yn dehongli unrhyw reoliad,

rhaid i'r tribiwnlys geisio rhoi effaith i'r prif amcan o ymdrin yn deg a chyfiawn â'r ceisiadau sydd i'w penderfynu ganddo.

(2Mae ymdrin yn deg a chyfiawn â chais yn cynnwys—

(a)ymdrin â'r cais mewn ffyrdd sy'n gymesur â chymhlethdod y materion sy'n codi ynddo ac ag adnoddau'r partïon;

(b)sicrhau, hyd y bo'n ymarferol, fod y partïon ar yr un gwastad â'i gilydd o safbwynt y weithdrefn ac y gallant gymryd rhan gyflawn yn yr achos;

(c)cynorthwyo unrhyw barti gyda chyflwyno achos y parti hwnnw heb argymell pa lwybr y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn;

(ch)defnyddio arbenigedd neilltuol y tribiwnlys yn effeithiol; a

(d)osgoi oedi, i'r graddau y mae hynny'n gydnaws â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.

(3Rhaid i'r partïon—

(a)cynorthwyo'r tribiwnlys i hyrwyddo'r prif amcan; a

(b)cydweithredu â'r tribiwnlys yn gyffredinol.

Gofyn am estyn yr amser a ganiateir ar gyfer gwneud cais

4.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person yn gofyn i dribiwnlys am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn Neddf 2004 neu Ddeddf 1983 fel y cyfnod mae'n rhaid gwneud y cais oddi mewn iddo.

(2Yn achos cais am estyniad y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid—

(a)gwneud y cais am estyniad mewn ysgrifen;

(b)rhoi'r rhesymau pam na wnaed y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw ac esbonio unrhyw oedi pellach a ddigwyddodd ers hynny;

(c)cynnwys datganiad bod y person sy'n gwneud y cais am estyniad yn credu bod yr holl ffeithiau a fynegir yn y cais am estyniad yn wir; ac

(ch)dyddio a llofnodi'r cais am estyniad.

(3Pan wneir cais am estyniad fel y crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i'r ceisydd ar yr un pryd anfon at y tribiwnlys y cais cyflawn y gofynnir am yr estyniad mewn perthynas ag ef.

(4Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel(9) ganiatáu neu wrthod cais am estyniad a wneir o dan baragraff (1).

Terfyn ar nifer y lleiniau, cartrefi symudol neu gyfeiriadau mewn cais unigol o dan Ddeddf 1983

5.—(1Pan fo cais i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, ni chaiff y cais gyfeirio at fwy nag un ddarpariaeth o Ddeddf 1983.

(2Ni chaiff cais, a wneir i dribiwnlys ar gyfer penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983, ymwneud â mwy nag 20 o leiniau neu gartrefi symudol.

Manylion cais

6.—(1Rhaid i gais fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)enw a chyfeiriad yr ymatebydd, os yw'r manylion hynny'n hysbys i'r ceisydd, neu, os nad ydynt yn hysbys, disgrifiad o gysylltiad yr ymatebydd â'r fangre;

(c)cyfeiriad y fangre;

(ch)cysylltiad y ceisydd â'r fangre;

(d)rhesymau'r ceisydd dros wneud y cais, gan gynnwys pa rwymedi a geisir;

(dd)os ydynt yn hysbys i'r ceisydd, enw a chyfeiriad unrhyw berson â buddiant;

(e)datganiad bod y ceisydd yn credu bod y ffeithiau a fynegir yn y cais yn wir;

(f)llofnod y ceisydd a'r dyddiad; ac

(ff)mewn perthynas â phob cais y mae paragraff yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo, y dogfennau a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.

(2Ceir hepgor unrhyw rai o'r gofynion ym mharagraff (1) neu eu lliniaru os bodlonir y tribiwnlys—

(a)bod y manylion a'r dogfennau a gynhwysir gyda chais yn ddigonol i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys; a

(b)na fyddid yn rhagfarnu, neu nad yw'n debygol y byddid yn rhagfarnu, unrhyw barti i'r cais o ganlyniad i hepgor neu liniaru felly.

(3Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).

Ceisiadau yn dilyn trosglwyddo cais a wnaed o dan Ddeddf 1983 o'r llys i dribiwnlys

7.—(1Pan fo llys yn trosglwyddo i dribiwnlys unrhyw fater sy'n codi o gais a wnaed i'r llys o dan Ddeddf 1983, rhaid i'r ceisydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â'r gofynion a gynhwysir yn rheoliad 6(1), gynnwys yn y cais gopi o'r gorchymyn llys a drosglwyddodd y mater.

(2Caiff y tribiwnlys hepgor neu liniaru unrhyw rai o'r gofynion a gynhwysir ym mharagraff (1) os bodlonir y tribiwnlys ei fod wedi cael manylion a dogfennau digonol gan y llys i ddangos bod y cais yn un y caniateir ei wneud i dribiwnlys.

(3Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).

Cydnabod derbyn cais a hysbysu ynghylch cais gan dribiwnlys

8.—(1Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael y cais, rhaid i'r tribiwnlys—

(a)anfon at y ceisydd i gydnabod bod y cais wedi dod i law; a

(b)anfon copi o'r cais ac o bob dogfen a gyflwynwyd gyda'r cais at yr ymatebydd.

(2Ac eithrio mewn achos y mae rheoliad 10 neu 11 yn gymwys iddo, rhaid i'r tribiwnlys anfon hefyd hysbysiad at yr ymatebydd sydd—

(a)yn pennu erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i'r ymatebydd anfon yr ateb a grybwyllir yn rheoliad 9;

(b)yn pennu bod rhaid i unrhyw ymateb gynnwys—

(i)datganiad pa un a yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais ai peidio;

(ii)os na chynhwyswyd hwy eisoes yn y cais, enwau a chyfeiriadau pob person â buddiant sy'n hysbys i'r ymatebydd; a

(iii)y cyfeiriad lle dylid anfon dogfennau at ddibenion yr achos; ac

(c)yn rhybuddio'r ymatebydd, os na fydd yr ymatebydd yn ateb erbyn y dyddiad penodedig, a chyda'r wybodaeth benodedig, y caiff y tribiwnlys—

(i)rhagdybio nad yw'r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu'r cais; a

(ii)mynd ymlaen â'r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys o dan amgylchiadau'r achos.

(3Ni chaiff y dyddiad penodedig yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) fod yn llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y gwnaed yr hysbysiad.

Ateb gan yr ymatebydd

9.—(1Pan fo ymatebydd yn cael yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2), rhaid i'r ymatebydd, erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, anfon ateb ysgrifenedig at y tribiwnlys, yn cydnabod iddo gael y copïau o'r dogfennau a anfonwyd yn unol â rheoliad 8(1)(b) ac yn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan reoliad 8(2).

(2Os yw'r ymatebydd yn peidio ag ateb erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a grybwyllir yn rheoliad 8(2) neu'n peidio â darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â'r mater mewn unrhyw ffordd a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys o dan amgylchiadau'r achos.

Ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r ATLl yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodiad GRhI fel mater brys.

(2Os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).

(3Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—

(a)bod bygythiad di-oed i iechyd a diogelwch meddianwyr y tŷ neu i bersonau sy'n meddiannu, neu sydd ag ystad neu fuddiant mewn, unrhyw fangre yng nghyffiniau'r tŷ; a

(b)byddai gwneud y gorchymyn rheoli interim cyn gynted ag y bo modd (ynghyd, pan fo'n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill y bwriada'r ATLl eu cymryd) yn galluogi'r ATLl i gymryd camau priodol yn ddi-oed i atal y bygythiad neu leihau'r bygythiad yn sylweddol.

(4Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—

(a)yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;

(b)y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;

(c)unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac

(ch)y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.

(5Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod, nac yn fwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.

(6Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—

(a)os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu

(b)os na fodlonir y tribiwnlys felly—

(i)gohirio'r gwrandawiad; a

(ii)rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(7Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—

(a)arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a

(b)penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.

(8Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys o dan baragraff (2), nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—

(a)rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a

(b)rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).

Ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd yn gofyn i dribiwnlys, fel mater brys—

(a)ymdrin â chais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) (gwerthu neu roi cartref symudol) o'r Bennod honno; neu

(b)penderfynu, o dan adran 4(2) (awdurdodaeth tribiwnlys) o Ddeddf 1983, y cwestiwn pa un a oedd yn rhesymol i'r perchennog wrthod cymeradwyo person at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.

(2Os bodlonir tribiwnlys, ar sail tystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).

(3Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—

(a)naill ai—

(i)nad yw perchennog y safle wedi ymateb i'r hysbysiad a gyflwynwyd i berchennog y safle ar gyfer cymeradwyo person o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o'r Bennod honno; neu

(ii)nad yw perchennog y safle wedi rhoi ei gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 8(1) neu 9(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 ac mae'r ceisydd o'r farn bod gwrthodiad perchennog y safle yn afresymol;

(b)bod y person y gofynnodd y ceisydd i berchennog y safle ei gymeradwyo o dan baragraff 8 neu 9 yn barod, yn fodlon ac yn abl i fod yn feddiannydd y cartref symudol;

(c)bodlonwyd y tribiwnlys y cwblheir pryniant y cartref symudol, neu y caiff ei roi a'i aseinio i'r person hwnnw gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd, os rhoddir cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9; ac

(ch)bod y ceisydd wedi darparu tystiolaeth i'r tribiwnlys, sy'n dynodi—

(i)bod perchennog y safle, yn flaenorol, wedi gwrthod yn afresymol rhoi cymeradwyaeth o dan baragraff 8 neu 9 mewn perthynas â chartref symudol ar safle a ddiogelir a oedd yn eiddo i'r perchennog safle hwnnw; neu

(ii)bod person, yn flaenorol, wedi peidio â mynd ymlaen â phrynu neu roi cartref symudol ar y safle a ddiogelir y lleolir y cartref symudol arno, a hynny o ganlyniad i weithredoedd neu eiriau perchennog y safle.

(4Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—

(a)yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;

(b)y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;

(c)unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac

(ch)y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.

(5Rhaid pennu dyddiad y gwrandawiad llafar brys cyntaf ddim llai na 4 diwrnod, a dim mwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.

(6Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—

(a)os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu

(b)os na fodlonir y tribiwnlys felly—

(i)gohirio'r gwrandawiad; a

(ii)rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(7Os gohirir gwrandawiad llafar brys a bennwyd o dan baragraff (5), ni chaiff y dyddiad nesaf a bennir ar gyfer unrhyw wrandawiad dilynol fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl dyddiad y gohiriad blaenorol.

(8Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys, nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—

(a)rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a

(b)rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).

(9Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—

(a)arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a

(b)penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.

Ceisiadau o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas ag effaith niweidiol cartrefi symudol ar amwynder y safle

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan wneir cais gan berchennog safle am benderfyniad gan dribiwnlys o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 fod cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle.

(2Os yw'r tribiwnlys, yn ystod gwrandawiad, o'r farn bod y cartref symudol yn cael effaith niweidiol ar amwynder y safle ond y byddai'r cartref symudol yn peidio â chael effaith niweidiol o'r fath pe gwneid atgyweiriadau penodol i'r cartref symudol, rhaid i'r tribiwnlys—

(a)rhoi gwybod i berchennog y safle a'r meddiannydd pa atgyweiriadau, ym marn y tribiwnlys, y dylid eu gwneud;

(b)gwahodd meddiannydd y cartref symudol a pherchennog y safle i ddynodi, mewn perthynas â'r atgyweiriadau hynny—

(i)yr amser y byddai ei angen i'w cyflawni; a

(ii)y gost o'u cyflawni; ac

(c)gwahodd meddiannydd y cartref symudol i ddynodi a fyddai'n fodlon cyflawni'r atgyweiriadau hynny ai peidio.

(3Rhaid i'r tribiwnlys, gan ystyried unrhyw ddynodiadau a roddir o dan baragraff (2)(b) ac (c), naill ai—

(a)gwneud penderfyniad o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983; neu

(b)os yw paragraff 5A(4) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno yn gymwys, gwneud gorchymyn interim sy'n gwneud yn ofynnol bod meddiannydd y cartref symudol yn cyflawni atgyweiriadau o'r fath o fewn y cyfryw amser a ystyrir yn rhesymol gan y tribiwnlys.

(4Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan baragraff (3)(b), rhaid iddo ohirio'r gwrandawiad a phennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad newydd, na chaiff fod yn ddiweddarach na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad a bennir yn y gorchymyn fel y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid cwblhau'r atgyweiriadau.

(5Wrth bennu dyddiad newydd ar gyfer gwrandawiad o dan baragraff (4), rhaid i'r tribiwnlys—

(a)rhoi i'r partïon ddim llai na 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad; a

(b)gwahodd perchennog y safle a'r meddiannydd i ddynodi, ddim hwyrach na 4 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad newydd, pa un a yw'r atgyweiriadau a ddisgrifir yn y gorchymyn (yn eu barn hwy) wedi eu cwblhau ai peidio.

(6Yn y gwrandawiad newydd—

(a)os yw'r tribiwnlys wedi ei hysbysu, gan feddiannydd y cartref symudol a hefyd gan berchennog y safle, fod yr atgyweiriadau a orchmynnwyd o dan baragraff (3)(b) wedi eu cwblhau, rhaid i'r tribiwnlys wrthod y cais;

(b)os nad yw'r tribiwnlys wedi ei hysbysu felly, rhaid iddo wahodd unrhyw barti sy'n bresennol i wneud sylwadau pellach ynghylch maint yr atgyweiriadau sy'n aros heb eu cwblhau a'r amser y byddai ei angen i'w cyflawni; ac

(c)ar ôl ystyried unrhyw sylwadau o'r fath, rhaid i'r tribiwnlys naill ai gwneud gorchymyn interim pellach o dan baragraff (3)(b) o'r rheoliad hwn neu wneud penderfyniad o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen i Ddeddf 1983.

Cais gan berson am gael ei drin fel ceisydd neu ymatebydd

13.—(1Caiff person (“y parti posibl”) wneud cais i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti i'r achos.

(2Yn achos unrhyw gais am gael ymuno o dan baragraff (1)—

(a)caniateir ei wneud heb roi rhybudd;

(b)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;

(c)rhaid iddo gynnwys rhesymau dros wneud y cais am gael ymuno; ac

(ch)rhaid iddo bennu pa un a yw'r parti posibl yn dymuno cael ei drin—

(i)fel ceisydd; neu

(ii)fel ymatebydd.

(3Caiff tribiwnlys wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1) os na fodlonir y tribiwnlys fod y parti posibl yn berson â buddiant neu'n berson sydd â buddiant digonol yng nghanlyniad yr achos.

(4Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyrraedd ei benderfyniad naill ai i ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys—

(a)hysbysu'r parti posibl ynghylch y penderfyniad a'r rhesymau drosto; a

(b)anfon copi o'r hysbysiad at y partïon a oedd eisoes wedi eu cynnwys yn yr achos.

(5Rhaid trin unrhyw barti posibl, y caniateir ei gais am gael ymuno o dan baragraff (1), fel ceisydd neu ymatebydd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(6Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at geisydd neu ymatebydd fel pe bai'n cynnwys person a drinnir fel y cyfryw o dan y rheoliad hwn, a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel pe bai'n cynnwys unrhyw berson o'r fath.

(7Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel ganiatáu neu wrthod cais am gael ymuno o dan baragraff (1).

Penderfynu ceisiadau ar y cyd

14.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisiadau, sydd wedi eu gwneud ar wahân, ym marn y tribiwnlys—

(a)yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 2004—

(i)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â'r un fangre; neu

(ii)wedi eu gwneud mewn perthynas â dwy neu ragor o fangreoedd sydd â'r un person yn eu rheoli, a'r un ATLl naill ai'n geisydd neu'n ymatebydd mewn perthynas â phob un o'r mangreoedd;

(b)yn achos ceisiadau a wnaed o dan Ddeddf 1983—

(i)yn ymwneud â materion cysylltiedig ynglŷn â'r un safle a ddiogelir; neu

(ii)wedi eu gwneud mewn perthynas â dau neu ragor o safleoedd a ddiogelir sydd â'r un perchennog safle.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y tribiwnlys orchymyn bod—

(a)rhai neu bob un o'r ceisiadau hynny; neu

(b)materion penodol neu ystyriaethau sy'n codi yn y ceisiadau hynny,

i gael eu penderfynu ar y cyd.

(3Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2).

Talu ffioedd

15.  Os na fydd ffi'n sy'n daladwy o dan Ran 3 o'r Rheoliadau hyn wedi ei thalu o fewn cyfnod o 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafwyd y cais, rhaid trin y cais fel pe bai wedi ei dynnu'n ôl oni fodlonir y tribiwnlys fod sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Cynrychiolwyr

16.—(1Mae'r rheoliad hwn—

(a)yn gymwys pan fo parti, person â buddiant, neu gynrychiolydd parti neu berson â buddiant, yn gwneud cais ysgrifenedig i'r tribiwnlys am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau i gynrychiolydd y parti neu'r person â buddiant, ond

(b)mae'n peidio â bod yn gymwys pan fo'r tribiwnlys yn cael hysbysiad ysgrifenedig bod y cynrychiolydd wedi peidio â chynrychioli'r parti neu'r person â buddiant hwnnw.

(2Rhaid i gais am gyflenwi gwybodaeth neu ddogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) gynnwys enw a chyfeiriad y cynrychiolydd.

(3Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, bodlonir unrhyw ddyletswydd sydd ar y tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn, i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfen i'r parti neu'r person â buddiant, os anfonir yr wybodaeth neu'r ddogfen at y cynrychiolydd, neu os rhoddir yr wybodaeth neu'r ddogfen iddo.

Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau i bersonau â buddiant.

17.—(1Pan hysbysir y tribiwnlys o enw a chyfeiriad person â buddiant, rhaid iddo sicrhau cyn gynted ag y bo'n ymarferol y cyflenwir i'r person hwnnw—

(a)copi o'r cais;

(b)esboniad o'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais am gael ymuno fel ceisydd neu ymatebydd; ac

(c)unrhyw wybodaeth neu ddogfen arall a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(2Caiff y tribiwnlys sicrhau y cyflenwir yr wybodaeth neu'r dogfennau o dan baragraff (1) drwy—

(a)cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i'r person â buddiant, gan y tribiwnlys ei hunan;

(b)cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i gynrychiolydd y person â buddiant, gan y tribiwnlys ei hunan; neu

(c)gwneud yn ofynnol, drwy orchymyn a wneir o dan reoliad 23, fod parti yn cyflenwi'r wybodaeth neu'r dogfennau i'r person â buddiant, neu i gynrychiolydd y person â buddiant.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—

(a)os cyflenwir gwybodaeth a dogfennau i berson â buddiant yn unol â pharagraff (1); a

(b)os caiff y tribiwnlys gais gan y person â buddiant hwnnw, i barhau i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau i'r person â buddiant,

rhaid i'r tribiwnlys barhau i sicrhau y cyflenwir i'r person â buddiant hwnnw unrhyw wybodaeth neu ddogfen ynglŷn â'r mater y mae'r achos yn ymwneud ag ef, ac a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(4Bydd y ddyletswydd ar dribiwnlys o dan baragraff (3) yn dod i ben os yw'r person â buddiant yn ymuno fel parti yn yr achos o dan reoliad 13, neu os yw'r person â buddiant yn rhoi hysbysiad i'r perwyl nad yw bellach yn dymuno cael yr wybodaeth neu'r dogfennau.

Cyflenwi dogfennau gan dribiwnlys

18.—(1Cyn penderfynu ynghylch cais, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cyflenwir i bob un o'r partïon—

(a)copi o unrhyw ddogfen sy'n berthnasol i'r achos (neu ddetholiadau digonol o'r ddogfen, neu fanylion y ddogfen) a gafwyd gan unrhyw barti arall neu berson â buddiant (ac eithrio dogfen sydd eisoes ym meddiant y parti, neu ddogfen y cyflwynwyd copi ohoni iddo'n flaenorol); a

(b)copi o unrhyw ddogfen sy'n ymgorffori canlyniadau unrhyw ymchwiliadau perthnasol a wnaed gan neu ar ran y tribiwnlys at ddibenion yr achos.

(2Mewn gwrandawiad, os nad yw parti wedi cael dogfen berthnasol, neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddetholiadau digonol neu fanylion o ddogfen berthnasol yn flaenorol, yna oni fydd—

(a)y person hwnnw'n cydsynio i'r gwrandawiad barhau; neu

(b)y tribiwnlys o'r farn y caiff y person hwnnw gyfle digonol i ymdrin â'r materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio'r gwrandawiad,

rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod a fydd, ym marn y tribiwnlys, yn rhoi cyfle digonol i'r person hwnnw ymdrin â'r materion hynny.

Cyflenwi gwybodaeth a dogfennau gan bartïon

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i'r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pŵer y parti hwnnw i'w cyflenwi, ac a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, yn y gorchymyn.

(2Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i barti arall neu i berson â buddiant gopïau o unrhyw ddogfennau a gyflenwyd, neu sydd i'w cyflenwi, i'r tribiwnlys o dan baragraff (1).

(3Rhaid i barti sy'n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu'r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a bennir yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â'r gorchymyn.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol mewn gwrandawiad llafar, i roi tystiolaeth ac i ddangos unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, ac sydd o fewn pŵer y person hwnnw i'w dangos.

(5Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i'w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru a Lloegr.

(6Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—

(a)yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu

(b)yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.

Methiant i gydymffurfio â gorchymyn i gyflenwi gwybodaeth a dogfennau

20.  Os yw parti wedi peidio â chydymffurfio â gorchymyn a wnaed o dan reoliad 19(1), (2) neu (4), caiff y tribiwnlys—

(a)dynnu pa bynnag gasgliadau y tybia'n briodol; neu

(b)gwneud gorchymyn sy'n gwrthod neu'n caniatáu'r cyfan neu ran o'r cais.

Penderfynu heb wrandawiad

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (7) caiff y tribiwnlys benderfynu cais heb wrandawiad llafar os bydd wedi hysbysu'r partïon mewn ysgrifen, ddim llai na 14 diwrnod ymlaen llaw, o'i fwriad i wneud hynny.

(2Ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r cais—

(a)caiff y ceisydd neu'r ymatebydd ofyn am wrandawiad llafar; neu

(b)caiff y tribiwnlys hysbysu'r partïon ei fod yn bwriadu cynnal gwrandawiad llafar.

(3Pan wneir cais am wrandawiad neu pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2), rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd o wrandawiad yn unol â rheoliad 28.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ceir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar yn absenoldeb unrhyw sylwadau gan yr ymatebydd.

(5Mewn perthynas â chais a wneir o dan baragraffau 4, 5, 5A neu 10 o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, ni chaniateir gwneud penderfyniad heb wrandawiad llafar ac eithrio—

(a)pan fo'r ymatebydd wedi hysbysu'r tribiwnlys nad yw'r ymatebydd yn gwrthwynebu'r cais; neu

(b)pan fo'r partïon i gyd wedi hysbysu'r tribiwnlys eu bod yn cydsynio i'r cais gael ei benderfynu heb wrandawiad.

(6Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel benderfynu pa un a yw gwrandawiad llafar yn briodol ai peidio ar gyfer penderfynu cais.

(7Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol) yn gymwys iddo.

Gorchmynion interim

22.—(1Caiff tribiwnlys wneud gorchymyn ar sail interim (“gorchymyn interim”) sydd—

(a)yn atal, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, effaith unrhyw benderfyniad, hysbysiad, gorchymyn neu drwydded sy'n destun achos ger ei fron; neu

(b)yn caniatáu dros dro unrhyw rwymedi y byddai gan y tribiwnlys bŵer i'w ddyfarnu yn ei benderfyniad terfynol.

(2Pan fo'r tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim heb yn gyntaf ganiatáu cyfle i'r partïon wneud sylwadau ynghylch gwneud y gorchymyn, caiff parti ofyn am i'r gorchymyn interim gael ei amrywio neu ei ddiddymu.

(3Ceir gwneud unrhyw gais o'r fath am amrywio neu ddiddymu—

(a)ar lafar mewn gwrandawiad;

(b)mewn ysgrifen; neu

(c)drwy unrhyw ddull arall a ganiateir gan y tribiwnlys.

(4Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud gorchymyn interim, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad o'r gorchymyn interim; a rhaid i'r hysbysiad, ac eithrio yn achos gorchymyn a wneir gyda chydsyniad pob un o'r partïon, roi'r rhesymau dros y penderfyniad i wneud y gorchymyn.

(5Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i gais y mae rheoliad 10 (ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI) neu reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol) yn gymwys iddo.

Cyfarwyddiadau

23.—(1Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddyd drwy wneud gorchymyn o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

(2Caiff parti y cyfeirir cyfarwyddyd gweithdrefnol ato ofyn i'r tribiwnlys i amrywio'r cyfarwyddyd neu ei osod o'r neilltu.

(3Ceir gwneud unrhyw gais y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu (2)—

(a)ar lafar mewn cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;

(b)mewn ysgrifen; neu

(c)drwy unrhyw ddull arall a ganiateir gan y tribiwnlys.

(4Rhaid i barti sy'n gwneud cais am gyfarwyddyd o dan baragraff (1) bennu pa gyfarwyddiadau gweithdrefnol a geisir, a'r rhesymau dros eu ceisio.

(5Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel roi cyfarwyddyd gweithdrefnol ynglŷn ag unrhyw fater sydd—

(a)yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu

(b)yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.

(6Ym mharagraffau (2), (4) a (5), ystyr “cyfarwyddyd gweithdrefnol” (“procedural direction”) yw unrhyw gyfarwyddyd ac eithrio cyfarwyddyd fel a bennir ym mharagraffau (a) i (e) o adran 230(5) neu baragraffau (a) i (d) o adran 230(5A) o Ddeddf 2004.

Archwilio mangreoedd a'u cyffiniau

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys archwilio—

(a)y fangre;

(b)unrhyw fangre arall y gallai ei harchwilio gynorthwyo'r tribiwnlys i benderfynu'r cais;

(c)yr ardal o amgylch y fangre.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle i'r partïon fod yn bresennol yn ystod archwiliad; a

(b)caiff aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno fod yn bresennol yn ystod unrhyw archwiliad.

(3Mae gwneud archwiliad, a bod yn bresennol mewn archwiliad, yn ddarostyngedig i unrhyw ganiatâd y mae'n ofynnol ei gael.

(4Pan gynhelir gwrandawiad llafar, ceir cyflawni archwiliad cyn, yn ystod, neu ar ôl y gwrandawiad.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r tribiwnlys roi i'r partïon dim llai na 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad yr archwiliad.

(6Ceir hepgor neu liniaru'r gofyniad i roi hysbysiad ym mharagraff (5) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.

(7Os cynhelir archwiliad ar ôl cau gwrandawiad llafar, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad oherwydd unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol i'r partïon ynglŷn â dyddiad amser a lleoliad y gwrandawiad a ail agorir.

(8Os yw cais i gael ei benderfynu gan aelod cymwysedig unigol o'r panel, caiff yr aelod hwnnw arfer swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.

Tystiolaeth arbenigol

25.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “arbenigwr” (“expert”) yw arbenigwr annibynnol nad yw'n gyflogai unrhyw un o'r partïon.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys, ac wrth wneud hynny rhaid iddo—

(a)darparu i'r tribiwnlys grynodeb ysgrifenedig o'r dystiolaeth; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflenwi copi o'r crynodeb ysgrifenedig hwnnw i bob parti arall, o leiaf 7 diwrnod cyn—

(i)dyddiad y gwrandawiad llafar perthnasol y rhoddwyd hysbysiad ohono mewn perthynas â'r cais o dan reoliad 28; neu

(ii)y dyddiad a hysbyswyd o dan reoliad 21 fel y dyddiad pan benderfynir y cais heb wrandawiad llafar.

(3Rhaid i grynodeb ysgrifenedig o dystiolaeth yr arbenigwr—

(a)bod wedi'i gyfeirio at y tribiwnlys;

(b)cynnwys manylion o gymwysterau'r arbenigwr;

(c)cynnwys crynodeb o'r cyfarwyddiadau a gafodd yr arbenigwr ar gyfer gwneud yr adroddiad; ac

(ch)cynnwys datganiad bod yr arbenigwr yn deall, ac wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd sydd arno i gynorthwyo'r tribiwnlys ynglŷn â materion sydd o fewn ei arbenigedd, a bod y ddyletswydd honno'n drech nag unrhyw rwymedigaeth i'r person y cafodd yr arbenigwr ei gyfarwyddiadau ganddo neu sy'n ei gyflogi, neu sy'n talu iddo.

(4Pan fo tribiwnlys, o dan ei bŵer cyffredinol yn adran 230(2) o Ddeddf 2004, yn rhoi cyfarwyddyd na chaiff parti roi tystiolaeth arbenigol gerbron y tribiwnlys heb ganiatâd y tribiwnlys, caiff bennu, fel amod ar y caniatâd hwnnw—

(a)bod rhaid cyfyngu tystiolaeth yr arbenigwr i'r materion hynny a gyfarwyddir gan y tribiwnlys;

(b)bod rhaid i'r arbenigwr fod yn bresennol mewn gwrandawiad i roi tystiolaeth ar lafar; neu

(c)bod yn rhaid i'r partïon gyfarwyddo'r arbenigwr ar y cyd.

(5Ceir hepgor neu liniaru'r terfyn amser ym mharagraff (2)(b) os bodlonir y tribiwnlys fod y partïon wedi cael rhybudd digonol.

Cynhadledd rheoli achos

26.—(1Caiff y tribiwnlys gynnal cynhadledd rheoli achos.

(2Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd i'r partïon o ddim llai na 7 diwrnod ynglŷn â dyddiad, amser a lleoliad y gynhadledd rheoli achos.

(3Yn y gynhadledd rheoli achos, caiff y tribiwnlys orchymyn y partïon i gymryd pa bynnag gamau, neu wneud pa bynnag bethau sy'n ymddangos i'r tribiwnlys yn angenrheidiol neu'n ddymunol, er mwyn sicrhau y penderfynir cais mewn modd cyfiawn, prydlon a darbodus.

(4Caiff y tribiwnlys ohirio cynnal cynhadledd rheoli achos, neu ei gohirio ar ei chanol.

(5Mae hawl gan barti i gael ei gynrychioli mewn cynhadledd rheoli achos.

(6Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1), (3) neu (4).

Pwerau rheoli achos eraill

27.—(1Caiff y tribiwnlys—

(a)cwtogi'r amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, os yw pob un o'r partïon yn cytuno i'r cwtogiad sydd dan sylw;

(b)estyn yr amser a bennir gan neu o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, hyd yn oed pan fo'r amser a bennwyd wedi dod i ben, os—

(i)na fyddai'n rhesymol disgwyl i'r person dan sylw gydymffurfio, neu fod wedi cydymffurfio, o fewn yr amser hwnnw; neu

(ii)byddai peidio ag estyn yr amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol;

(c)caniatáu defnyddio teleffon, cyswllt fideo, neu unrhyw ddull cyfathrebu arall—

(i)i wneud sylwadau gerbron y tribiwnlys; neu

(ii)at ddibenion cynhadledd rheoli achos neu wrandawiad;

(ch)gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy'n rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys gyda'r dystiolaeth honno ddatganiad llofnodedig bod y person yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y dystiolaeth yn wir;

(d)cymryd unrhyw gam arall neu wneud unrhyw benderfyniad arall sydd, ym marn y tribiwnlys, yn angenrheidiol neu'n ddymunol at y diben o reoli'r achos.

(2Caiff y tribiwnlys arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn wrth ymateb i gais am iddo wneud hynny, neu ar gymhelliad ei hunan.

(3Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pwerau o dan y rheoliad hwn ynglŷn ag unrhyw fater sy'n rhagarweiniol i—

(a)gwrandawiad llafar; neu

(b)penderfyniad sydd i'w wneud heb wrandawiad llafar.

Hysbysu ynghylch gwrandawiad

28.—(1Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon o ddyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid rhoi hysbysiad o'r gwrandawiad ddim llai nag 21 diwrnod cyn y dyddiad penodedig.

(3Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, roi llai nag 21 diwrnod o rybudd o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad; ond rhaid rhoi hysbysiad o'r fath cyn gynted ag y bo'n ymarferol cyn y dyddiad penodedig, a rhaid i'r hysbysiad ddatgan beth yw'r amgylchiadau eithriadol.

(4Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer y pŵer ym mharagraff (3).

Gohirio gwrandawiad

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad llafar.

(2Rhaid i'r tribiwnlys roi rhybudd rhesymol i'r partïon o'r amser a'r dyddiad pan gynhelir gwrandawiad gohiriedig.

(3Os gofynnwyd am ohiriad gan un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys beidio â gohirio'r gwrandawiad onid yw o'r farn y byddai'n rhesymol gwneud hynny, o ystyried—

(a)sail y cais am ohirio;

(b)yr adeg y gwneir y cais am ohirio; ac

(c)cyfleustra'r partïon.

(4Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel arfer swyddogaethau'r tribiwnlys o dan y rheoliad hwn.

Y gwrandawiad

30.—(1Mewn gwrandawiad—

(a)rhaid i'r tribiwnlys (yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn) benderfynu ar weithdrefn y gwrandawiad a'r modd y'i cynhelir;

(b)caiff unrhyw berson sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys wneud hynny naill ai'n bersonol neu drwy gynrychiolydd;

(c)mae hawl gan y partïon—

(i)i roi tystiolaeth berthnasol;

(ii)i alw tystion;

(iii)i holi unrhyw dyst; a

(iv)i annerch y tribiwnlys ynglŷn â'r dystiolaeth a'r gyfraith ac yn gyffredinol ar bwnc y cais; a

(ch)caiff y tribiwnlys gymryd tystiolaeth o unrhyw faith neu unrhyw farn sy'n ymddangos i'r tribiwnlys yn berthnasol, hyd yn oed os na fyddai'r dystiolaeth neu'r farn honno'n dderbyniadwy mewn achos gerbron llys barn, ac ni chaiff y tribiwnlys wrthod cymryd unrhyw dystiolaeth neu farn a gyflwynir mewn da bryd os yw'n dderbyniadwy o dan y gyfraith ac yn berthnasol ac angenrheidiol, ac os nad yw wedi ei chael mewn ffordd amhriodol.

(2Mewn gwrandawiad, os bodlonir tribiwnlys ei bod yn gyfiawn a rhesymol gwneud hynny, caiff y tribiwnlys ganiatáu i barti ddibynnu ar resymau nas datganwyd o'r blaen ac ar dystiolaeth nad oedd ar gael o'r blaen neu na roddwyd gerbron o'r blaen.

(3Caiff y tribiwnlys ohirio gwrandawiad, ond os gwneir hynny ar gais un o'r partïon, rhaid i'r tribiwnlys fod o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny o ystyried—

(a)sail y cais am ohirio;

(b)yr adeg y gwneir y cais am ohirio; ac

(c)cyfleustra'r partïon.

Gwrandawiad cyhoeddus neu breifat

31.—(1Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus ac eithrio pan fodlonir y tribiwnlys, yn amgylchiadau'r achos ac yn ddarostyngedig i'r prif amcan a ddisgrifir yn rheoliad 3, y dylid cynnal y gwrandawiad yn breifat.

(2Caiff y tribiwnlys benderfynu o dan baragraff (1)—

(a)bod rhaid cynnal rhan yn unig o'r gwrandawiad yn breifat; neu

(b)bod rhaid peidio â chyhoeddi unrhyw un o'r materion canlynol—

(i)gwybodaeth am yr achos sydd gerbron y tribiwnlys;

(ii)enwau a manylion adnabod personau sy'n ymwneud â'r achos; neu

(iii)tystiolaeth benodedig a roddir yn yr achos.

Personau sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat

32.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae gan y personau canlynol hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ac i fod yn bresennol yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys ynglŷn â phenderfynu'r cais—

(a)llywydd neu gadeirydd neu aelod arall o'r panel, nad yw'n rhan o'r tribiwnlys at ddiben y gwrandawiad;

(b)aelod o'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd sy'n gweithredu yn rhinwedd y swydd honno;

(c)staff y tribiwnlys;

(ch)unrhyw berson arall a ganiateir gan y tribiwnlys, gyda chydsyniad y partïon.

(2Ni chaiff yr un o'r personau a bennir ym mharagraff (1) gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad nac yn y cyfryw drafodaethau.

(3Caiff y tribiwnlys ganiatáu i bersonau fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat ar ba bynnag delerau ac amodau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

Methiant parti i ymddangos mewn gwrandawiad

33.  Os yw parti yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd ymlaen â'r gwrandawiad—

(a)os yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni bod y parti hwnnw wedi ei hysbysu o'r gwrandawiad yn unol â'r Rheoliadau hyn; a

(b)nad yw'r tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da pam y methodd ymddangos.

Penderfyniadau tribiwnlys wrth ddyfarnu ynghylch ceisiadau

34.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad sy'n dyfarnu ynghylch cais.

(2Os cynhaliwyd gwrandawiad, ceir cyhoeddi'r penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad.

(3Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad sy'n dyfarnu'n derfynol ynglŷn â chais, ddarparu i bob un o'r partïon hysbysiad sy'n datgan penderfyniad y tribiwnlys (“dogfen penderfyniad”).

(4Rhaid i'r ddogfen penderfyniad—

(a)bod wedi ei llofnodi a'i dyddio gan berson priodol;

(b)nodi—

(i)y penderfyniad a wnaed gan y tribiwnlys;

(ii)y rhesymau pam y cyrhaeddwyd y penderfyniad hwnnw;

(iii)dyddiad y penderfyniad;

(iv)unrhyw gamau y mae'n rhaid i unrhyw barti yn yr achos eu cymryd, ac erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid cymryd y camau hynny; ac

(c)rhoi esboniad o hawl parti i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(5Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif wedi ei llofnodi a'i dyddio gan y person priodol, gywiro unrhyw wallau clerigol mewn dogfen penderfyniad neu unrhyw wallau neu amwyseddau sy'n digwydd ynddi oherwydd llithriad neu hepgoriad damweiniol.

(6Rhaid anfon copi at bob un o'r partïon, o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (5).

(7Yn y rheoliad hwn ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)Cadeirydd y tribiwnlys; neu

(b)yn absenoldeb neu analluogrwydd Cadeirydd y tribiwnlys, aelod arall o'r tribiwnlys.

Penderfynu ynghylch costau

35.—(1Rhaid i'r tribiwnlys beidio â gwneud penderfyniad o dan baragraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 mewn perthynas â pharti heb yn gyntaf roi cyfle i'r parti hwnnw gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys.

(2Pan benderfynir cais gan aelod cymwysedig sengl o'r panel, caiff yr aelod hwnnw wneud penderfyniad ynghylch costau, mewn perthynas â pharti i'r achos ynghylch y cais hwnnw.

Tynnu cais yn ôl

36.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ceisydd (“y parti sy'n tynnu'n ôl”) (“the withdrawing party”) dynnu'n ôl y cyfan neu ran o'r cais a wnaed gan y ceisydd hwnnw, yn unol â pharagraff (2)—

(a)ar unrhyw adeg cyn i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio); a

(b)ar unrhyw adeg wedi i'r tribiwnlys ddechrau ystyried y dystiolaeth ynglŷn â'r cais (pa un ai mewn gwrandawiad llafar ai peidio), ar yr amod—

(i)y bodlonir y tribiwnlys fod y partïon eraill yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl; a

(ii)bod y tribiwnlys yn cydsynio â thynnu'r cais yn ôl.

(2Rhaid i'r parti sy'n tynnu'n ôl hysbysu ei fod yn tynnu'r cais yn ôl drwy gyflwyno i'r tribiwnlys hysbysiad wedi ei lofnodi a'i ddyddio, sy'n—

(a)rhoi manylion digonol i alluogi adnabod y cais neu'r rhan o'r cais a dynnir yn ôl;

(b)datgan a oes unrhyw ran o'r cais yn weddill ac eto i'w benderfynu, ac os felly, pa ran; ac

(c)cadarnhau bod copi o'r hysbysiad bod y cais wedi ei dynnu'n ôl wedi ei gyflenwi i bob un o'r partïon eraill, a'i fod yn nodi'r dyddiad y gwnaed hynny.

(3Os bydd unrhyw un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn bodoli, ni fydd tynnu'r cais yn ôl yn cael effaith hyd nes cyflawnir un o'r ffyrdd o weithredu ym mharagraff (6).

(4Yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)bod y tribiwnlys wedi gwahodd y partïon yn yr achos—

(i)i gyflwyno sylwadau i'r tribiwnlys ynglŷn ag a ddylid gwneud ad-daliad i unrhyw barti ar ffurf digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd; a

(ii)i ymateb i unrhyw sylwadau a gafwyd gan y tribiwnlys o dan baragraff (i);

ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wnaed i'r tribiwnlys gan unrhyw barti o dan yr is-baragraff hwn, bod y tribiwnlys wedi gwneud pa bynnag orchymyn, o ran talu digollediad, iawndal, costau neu ad-daliad ffioedd, y dylid ei wneud, ym marn resymol y tribiwnlys, ar ôl ystyried holl amgylchiadau'r achos;

(b)bod gorchymyn interim er budd un o'r partïon wedi ei wneud; neu

(c)bod parti wedi rhoi ymrwymiad i'r tribiwnlys.

(5Wrth wahodd sylwadau gan y partïon o dan is-baragraff (4)(a), caiff y tribiwnlys roi cyfarwyddyd i'r partïon ynglŷn â'r amser a ganiateir ar gyfer darparu sylwadau o'r fath.

(6Y ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi anfon at y tribiwnlys ddatganiad ysgrifenedig, a lofnodwyd gan bob un o'r partïon eraill, sy'n pennu'r modd yr ymdrinnir ag unrhyw orchymyn a wnaed o dan baragraff (4)(a), unrhyw orchymyn interim a wnaed o dan baragraff (4)(b) neu unrhyw ymrwymiad a roddwyd o dan baragraff (4)(c), sy'n gymwys i'r achos; neu

(b)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi rhoi hysbysiad o'r bwriad i dynnu'n ôl i bob un o'r partïon, ac—

(i)bod y parti sy'n tynnu'n ôl wedi gofyn i'r tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ynghylch o dan ba amodau y ceir tynnu'r cais yn ôl; a

(ii)bod y tribiwnlys wedi rhoi cyfarwyddiadau o'r fath.

(7Wrth roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (6)(b)(ii) caiff y tribiwnlys osod pa bynnag amodau a ystyria'n briodol.

(8Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (4)(b), neu roi cyfarwyddiadau o dan baragraff (5) neu (6)(b)(ii).

Gorfodi

37.  Ceir gorfodi unrhyw benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, yn yr un modd ag y gorfodir gorchmynion gan lys o'r fath.

Caniatâd i apelio

38.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “apelio” (“to appeal”) yw gwneud apêl yn erbyn penderfyniad gan y tribiwnlys i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd), ac mae ystyr cyfatebol i “apelydd” (“appellant”).

(2Pan fo parti'n gwneud cais i'r tribiwnlys am ganiatâd i apelio, caiff wneud y cais—

(a)ar lafar yn y gwrandawiad lle cyhoeddir y penderfyniad gan y tribiwnlys; neu

(b)yn ddiweddarach i swyddfa'r tribiwnlys, mewn ysgrifen.

(3Rhaid gwneud cais am ganiatâd i apelio o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o'r penderfyniad fel y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad.

(4Pan wneir y cais am ganiatâd i apelio mewn ysgrifen, rhaid i'r cais am ganiatâd gael ei lofnodi gan yr apelydd neu gynrychiolydd yr apelydd a rhaid iddo—

(a)nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd yr apelydd;

(b)nodi pa benderfyniad a pha dribiwnlys y mae'r cais am ganiatâd i apelio yn cyfeirio atynt; ac

(c)datgan ar ba seiliau y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu yn yr apêl.

(5Rhaid i'r tribiwnlys, o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y mae'r tribiwnlys yn cael y cais am ganiatâd i apelio—

(a)anfon copi o'r cais am ganiatâd i apelio at y parti arall i'r cais sy'n destun y cais am ganiatâd i apelio; a

(b)os yw'r apelydd yn tynnu'n ôl y cais am ganiatâd i apelio, rhoi gwybod i'r parti arall fod y cais am ganiatâd i apelio wedi ei dynnu'n ôl.

(6Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud penderfyniad ynghylch cais am ganiatâd i apelio, rhaid i'r tribiwnlys anfon hysbysiad sy'n cynnwys rhesymau dros y penderfyniad, at yr apelydd ac at y partïon eraill i'r cais sy'n destun yr apêl

(7Rhaid trin penderfyniad neu orchymyn interim gan dribiwnlys o dan reoliad 12(3) fel penderfyniad y tribiwnlys at ddibenion y rheoliad hwn.

(8Rhaid i benderfyniad o dan baragraff (6) gynnwys datganiad o unrhyw ddarpariaeth statudol, rheol neu ganllawiau perthnasol, mewn perthynas ag unrhyw gais pellach i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd) am ganiatâd i apelio, ac o'r amser a'r lle ar gyfer gwneud y cais pellach am ganiatâd neu ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.

Cymorth i gyfranogwyr

39.—(1Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfranogwr” (“participant”) yw unrhyw geisydd neu barti neu dyst neu berson arall sy'n cymryd rhan mewn achos sy'n ymwneud â chais, neu y cyfeirir ato orchymyn gan y tribiwnlys.

(2Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen, siarad na deall yr iaith Gymraeg na'r iaith Saesneg, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i'r cyfranogwr, yn ddi-dâl, y cyfieithiadau a'r cymorth gan gyfieithydd ar y pryd, sy'n angenrheidiol i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(3Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys na all y cyfranogwr ddarllen Cymraeg na Saesneg oherwydd ei fod yn ddall neu'n rhannol ddall, dros dro neu'n barhaol, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu'r cymorth angenrheidiol i'r cyfranogwr hwnnw yn ddi-dâl, (caiff hyn gynnwys darparu dogfennau mewn Braille neu brint bras, neu ddarllenwr dogfennau, ond nid yw'n gyfyngedig i hynny) i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(4Os yw cyfranogwr yn rhoi gwybod i'r tribiwnlys y gall y cyfranogwr siarad Cymraeg neu Saesneg, ond na all ddarllen nac ysgrifennu Cymraeg na Saesneg, rhaid i'r tribiwnlys ddarparu i'r cyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen ac esbonio natur a chynnwys unrhyw ddogfennau, ac ysgrifennu unrhyw ddogfennau ar ran y cyfranogwr, fel y bo'n ofynnol yn rhesymol gan y cyfranogwr, er mwyn ei alluogi i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(5Nid yw'r gofyniad bod y tribiwnlys yn darparu i gyfranogwr wasanaeth person ar gyfer darllen, ysgrifennu neu esbonio natur a chynnwys dogfennau o dan baragraff (4) yn cynnwys gofyniad bod y tribiwnlys yn rhoi unrhyw gyngor cyfreithiol, ond mae'n cynnwys gofyniad i esbonio'r camau gweithdrefnol yn yr achos.

(6Os yw cyfranogwr yn analluog i glywed na siarad, rhaid i'r tribiwnlys wneud trefniadau i ddarparu i'r cyfranogwr hwnnw, yn ddi-dâl, wasanaeth dehonglydd iaith arwyddion, gwefuslefarydd neu balanteipydd, i alluogi'r cyfranogwr i gymryd rhan effeithiol yn yr achos.

(7Mae gan gyfranogwr hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn pa un a gynrychiolir y cyfranogwr gan rywun arall ai peidio.

(8Rhaid i gyfranogwr y mae arno angen cymorth o dan y rheoliad hwn ond sydd heb ei dderbyn, hysbysu'r tribiwnlys o'r angen hwnnw am gymorth cyn gynted ag y bo modd.

(9Nid yw'r rheoliad hwn yn cyfyngu mewn unrhyw fodd ar brif amcan tribiwnlys fel y'i disgrifir yn rheoliad 3.

Gofynion ynghylch darparu hysbysiadau a dogfennau

40.—(1Ystyrir bod unrhyw ddogfen neu hysbysiad y mae'r Rheoliadau hyn yn awdurdodi neu'n gwneud yn ofynnol ei darparu neu'i ddarparu i unrhyw berson, corff neu awdurdod, wedi ei darparu neu'i ddarparu'n briodol i'r person, corff neu awdurdod hwnnw—

(a)os anfonir y ddogfen neu hysbysiad i gyfeiriad priodol y person, corff neu awdurdod hwnnw drwy'r post dosbarth cyntaf, neu drwy ddanfoniad arbennig, neu drwy ddanfoniad cofnodedig;

(b)os danfonir y ddogfen neu hysbysiad drwy unrhyw ddull arall i gyfeiriad priodol y person, corff neu awdurdod hwnnw;

(c)os, gyda chydsyniad ysgrifenedig y person, corff neu awdurdod, anfonir y ddogfen neu hysbysiad at y person, corff neu awdurdod—

(i)drwy ffacs, e-bost neu gyfathrebiad electronig arall sy'n cynhyrchu testun y gellir ei gael mewn ffurf ddarllenadwy; neu

(ii)drwy wasanaeth danfon dogfennau preifat.

(2Y cyfeiriad priodol at ddibenion paragraff (1) yw—

(a)yn achos y tribiwnlys, cyfeiriad swyddfa'r tribiwnlys;

(b)yn achos cwmni corfforedig neu gorff arall a gofrestrwyd yn y Deyrnas Unedig, cyfeiriad y swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r cwmni neu'r corff;

(c)yn achos unrhyw berson, corff neu awdurdod arall, ei gyfeiriad arferol neu ei gyfeiriad olaf sy'n hysbys.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)yn achos derbynnydd arfaethedig dogfen neu hysbysiad—

(i)pan na ellir dod o hyd iddo ar ôl gwneud pob ymholiad dyfal;

(ii)os fu farw ac nad oes ganddo gynrychiolydd personol; neu

(iii)os yw y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(b)os, am unrhyw reswm arall, na ellir yn rhwydd ddarparu hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(4Pan fo paragraff (3) yn gymwys, caiff y tribiwnlys —

(a)hepgor darparu'r hysbysiad neu'r ddogfen arall; neu

(b)rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer dull amgen o gyflwyno, ym mha ffurf neu ddull bynnag arall (drwy hysbysebu mewn papur newydd neu fel arall) a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(5Pan yw'n ofynnol, o dan Ddeddf 2004, Deddf 1985, Deddf 1983 neu'r Rheoliadau hyn, bod parti'n darparu tystiolaeth ei fod wedi cyflenwi dogfen i unrhyw berson, caiff y parti fodloni'r gofyniad hwnnw drwy ddarparu tystysgrif, wedi ei llofnodi gan y parti, yn cadarnhau bod y ddogfen wedi ei chyflwyno yn unol â gofynion y rheoliad hwn.

Amser

41.—(1Pan fo'r amser a bennir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred yn dod i ben ar ddydd Sadwrn, neu ddydd Sul neu ar ŵyl gyhoeddus, ystyrir ei fod yn dod i ben ar y diwrnod dilynol nesaf nad yw'n ddydd Sadwrn, neu'n ddydd Sul neu'n ŵyl gyhoeddus.

(2Ystyr gŵyl gyhoeddus yw Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(10).

Ceisiadau gwacsaw a blinderus etc.

42.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys fod cais yn—

(a)wacsaw;

(b)blinderus; neu

(c)yn camddefnyddio proses y tribiwnlys,

caiff y tribiwnlys wrthod y cais yn gyfan gwbl neu'n rhannol.

(2Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r ceisydd o'i fwriad i wneud hynny, yn unol â pharagraff (3).

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan—

(a)bod y tribiwnlys â'i fryd ar wrthod y cais;

(b)ar ba sail y rhoddodd ei fryd ar wrthod y cais;

(c)bod hawl gan y ceisydd i gael ei glywed gan y tribiwnlys ar y cwestiwn pa un a ddylid gwrthod y cais; ac

(ch)y dyddiad olaf pan gaiff y ceisydd ofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys, sef dyddiad nad yw'n llai na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad.

(4Ni cheir gwrthod cais o dan baragraff (1) ac eithrio—

(a)pan nad yw'r ceisydd wedi gofyn i'r tribiwnlys, cyn y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3)(c), am gael ei glywed gan y tribiwnlys; neu

(b)pan fo'r ceisydd wedi gofyn am gael ei glywed gan y tribiwnlys a'r tribiwnlys wedi clywed y ceisydd a'r ymatebydd, neu'r cyfryw rai ohonynt a oedd bresennol yn y gwrandawiad, ar y cwestiwn pa un a ddylid gwrthod y cais.

Afreoleidd-dra

43.  Nid fydd unrhyw afreoleidd-dra sy'n deillio o fethiant gan barti i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu fethiant i gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd gan y tribiwnlys cyn bo'r tribiwnlys wedi penderfynu'r cais, ohono'i hunan yn gwneud yr achos yn ddi-rym.

Llofnodi dogfennau

44.  Pan fo'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod dogfen yn cael ei llofnodi, bodlonir y gofyniad hwnnw os yw—

(a)y llofnod naill ai wedi ei ysgrifennu neu wedi ei gynhyrchu gan gyfrifiadur neu ddull mecanyddol arall; a

(b)enw'r llofnodwr yn ymddangos o dan y llofnod mewn modd sy'n galluogi adnabod y llofnodwr.

RHAN 3FFIOEDD TRIBIWNLYSOEDD EIDDO PRESWYL

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004

45.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2), mae ffi o £150 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 2004—

(i)adran 22(9) (gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre sy'n destun gorchymyn gwahardd);

(ii)adran 62(7) (trwyddedu tai amlfeddiannaeth: gwrthod caniatáu hysbysiad esemptio dros dro);

(iii)adran 86(7) (trwyddedu detholus: gwrthod caniatáu hysbysiad esemptio dros dro);

(iv)adran 126(4) (effaith gorchmynion rheoli: dodrefn);

(v)adran 138 (digollediad sy'n daladwy i drydydd partïon);

(vi)paragraff 10 o Atodlen 1 (hysbysiad gwella);

(vii)paragraff 13 o Atodlen 1 (penderfyniad ATLl i amrywio, neu wrthod dirymu neu amrywio, gorchymyn gwella);

(viii)paragraff 7 o Atodlen 2 (gorchymyn gwahardd);

(ix)paragraff 9 o Atodlen 2 (penderfyniad ATLl i amrywio, neu wrthod dirymu neu amrywio, gorchymyn gwahardd);

(x)paragraff 11 o Atodlen 3 (hysbysiad gwella: galwad am ad-dalu treuliau);

(xi)paragraff 31 o Atodlen 5 (rhoi neu wrthod trwydded);

(xii)paragraff 32 o Atodlen 5 (trwyddedu tai amlfeddiannaeth: penderfyniad i amrywio neu ddirymu, neu wrthod amrywio neu ddirymu, trwydded);

(xiii)paragraff 28 o Atodlen 6 (penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu, neu wrthod amrywio neu ddirymu, gorchymyn rheoli);

(xiv)paragraff 32 o Atodlen 6 (gorchymyn rheoli: digolledu trydydd parti);

(xv)paragraff 26(1)(a) a (b) o Atodlen 7 (GRhAG terfynol);

(xvi)paragraff 30 o Atodlen 7 (penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu, neu wrthod amrywio neu ddirymu, GRhAG interim neu derfynol);

(xvii)paragraff 34(2) o Atodlen 7 (GRhAG: digolledu trydydd parti).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 49(2), mae ffi o £150 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (gorchymyn rheoli interim a therfynol).

(3Nid oes ffi yn daladwy pan wneir cais o dan is-baragraff (1)(b) o baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 ar y seiliau a bennir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

46.  Yn ddarostyngedig i reoliad 49(2), mae ffi o £150 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 1985—

(a)adran 269(1) (gorchmynion dymchwel);

(b)adran 318(1) (pŵer tribiwnlys i awdurdodi cyflawni gwaith ar fangre anaddas neu waith gwella).

Ffioedd am geisiadau a wneir o dan Ddeddf 1983

47.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 49(2), mae ffi o £150 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 28(1)(h) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (cymdeithas preswylwyr gymwys i gael ei chydnabod gan berchennog safle a ddiogelir).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 49(2), mae ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 1983—

(a)adran 2(2) (telerau ynglŷn â materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig mewn cytundeb);

(b)adran 2(3) (amrywio neu ddileu telerau datganedig mewn cytundeb);

(c)adran 4 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu unrhyw gytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo);

(ch)paragraffau 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (terfynu gan y perchennog);

(d)paragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (adleoli cartref symudol).

(3Y ffi sy'n daladwy am bob cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)pan fo'r cais yn cynnwys un cyfeiriad, £150;

(b)pan fo'r cais yn cynnwys dau gyfeiriad, £200;

(c)pan fo'r cais yn cynnwys tri neu bedwar cyfeiriad, £400;

(ch)pan fo'r cais yn cynnwys pum cyfeiriad neu ragor, £500.

(4At ddibenion paragraff (3), y nifer o gyfeiriadau sy'n gynwysedig mewn cais yw—

(a)yn achos cais a wneir mewn perthynas ag un llain neu gartref symudol, y nifer o ddarpariaethau o Ddeddf 1983 y mae'r cais hwnnw'n ymwneud â hwy; a

(b)yn achos cais a wneir mewn perthynas â mwy nag un llain neu gartref symudol, y nifer o leiniau neu gartrefi symudol y mae'r cais yn ymwneud â hwy.

(5Nid oes ffi yn daladwy i dribiwnlys mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ddeddf 1983 ac sydd wedi ei drosglwyddo o lys i dribiwnlys.

Talu ffioedd

48.  Rhaid anfon unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 45, 46 neu 47 gyda'r cais, a rhaid ei thalu gyda siec a wnaed yn daladwy i Weinidogion Cymru, neu gydag archeb bost a lanwyd er budd Gweinidogion Cymru.

Atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd

49.—(1Y ceisydd sy'n atebol i dalu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 45, 46 neu 47.

(2Nid oes ffi yn daladwy o dan reoliad 45, 46 neu 47 os yw'r ceisydd neu bartner y person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y cais, yn cael—

(a)y naill neu'r llall o'r budd-daliadau canlynol o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(11)

(i)cymhorthdal incwm; neu

(ii)budd-dal tai;

(b)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(12);

(c)credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(13) y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;

(ch)credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002(14);

(d)lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm sy'n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(15).

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)naill ai—

(i)pan fo elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddau)(16) yn y credyd treth gwaith y mae'r person, neu bartner y person, yn ei gael; neu

(ii)pan fo'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant(17); a

(b)pan fo'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £16,190 neu lai.

(4Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 50, ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)pan fo'r person yn aelod o gwpl, yr aelod arall o'r cwpl hwnnw; neu

(b)pan fo'r person yn briod mewn priodas amlbriod(18) â dau neu ragor o aelodau o aelwyd, unrhyw aelod o'r fath.

(5Ym mharagraff (4), ystyr “cwpl” (“couple”) yw—

(a)dyn a menyw sy'n briod â'i gilydd ac yn aelodau o'r un aelwyd;

(b)dyn a menyw nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig;

(c)dau berson o'r un rhyw sy'n bartneriaid sifil i'w gilydd ac yn aelodau o'r un aelwyd; neu

(ch)dau berson o'r un rhyw nad ydynt yn bartneriaid sifil i'w gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel pe baent yn bartneriaid sifil,

ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau berson o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd fel pe baent yn bartneriaid sifil pe byddid yn ystyried, ond dim ond pe byddid yn ystyried, eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig, pe baent, yn hytrach, yn ddau berson o wahanol ryw.

Ad-dalu ffioedd

50.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas ag unrhyw gais y mae ffi'n daladwy amdano o dan reoliad 45, 46 neu 47, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol fod unrhyw barti i'r cais yn ad-dalu i unrhyw barti arall hyd at y cyfan neu ran o unrhyw ffi a dalwyd gan y parti arall hwnnw mewn perthynas â'r cais.

(2Ni chaiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol fod parti yn gwneud ad-daliad o'r fath os bodlonir y tribiwnlys, ar yr adeg pan fo'r tribiwnlys yn ystyried pa un a fydd yn gwneud hynny ai peidio, fod y parti neu bartner y parti hwnnw'n cael cymorth o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn rheoliad 49(2).

Dirymu

51.  Dirymir y Rheoliadau canlynol—

(a)Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006(19); a

(b)Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006(20).

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2012

Rheoliadau 2 a 6

YR ATODLENManylion ychwanegol ynglŷn â rhai ceisiadau

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 2004

Ceisiadau sy'n ymwneud â hysbysiadau gwella

1.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) ac eithrio cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)os sail y cais, neu un o'i seiliau, yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai honno yw'r ffordd orau o weithredu.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

2.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 sydd ar y sail a nodir ym mharagraff 11(1) o'r Atodlen honno (sail apêl yn ymwneud â phersonau eraill), neu sy'n cynnwys y sail honno.

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau;

(c)os un o'r seiliau ar gyfer y cais yw mai ffordd arall o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai dyna'r ffordd orau o weithredu;

(ch)enw a chyfeiriad unrhyw berson a ddylai, fel un o berchnogion y fangre, ym marn y ceisydd, weithredu fel sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad gwella neu dalu'r cyfan neu ran o gostau'r gweithredu hwnnw (“y perchennog arall”);

(d)prawf bod copi o'r cais wedi ei gyflwyno i'r perchennog arall; ac

(dd)datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—

(i)natur buddiant y perchennog arall yn y fangre;

(ii)y rheswm pam y mae'r ceisydd yn tybio y dylai'r perchennog arall weithredu fel sydd dan sylw, neu dalu'r cyfan neu ran o gost gweithredu felly; a

(iii)os sail y cais yw y dylai'r perchennog arall dalu'r cyfan neu ran o gost y gweithredu, amcangyfrif o gost y gweithredu a'r gyfran o'r gost honno, ym marn y ceisydd, y dylai'r perchennog arall ei thalu.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

3.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 13(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu hysbysiad gwella).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

4.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

(a)paragraff 11(1) o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn galwad gan yr ATLl am ad-dalu costau a dynnwyd gan yr ATLl wrth weithredu pan fo hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno); a

(b)y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn galwad gan yr ATLl am ad-dalu costau a dynnwyd wrth gymryd camau adferol brys).

(2Y dogfennu penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad gwella neu (yn ôl y digwydd) yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)yr hysbysiad o ddatganiad o resymau;

(c)copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (hysbysiad ynghylch bwriad ATLl i fynd i mewn i fangre i gymryd camau gweithredu penodol heb gytundeb);

(ch)copi o alwad yr ATLl am gostau; a

(d)pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir ym mharagraff 11(4) o'r Atodlen honno, manylion y cynnydd y dibynnir ar iddo gael ei wneud tuag at gydymffurfio â'r hysbysiad.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion gwahardd

5.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4)).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)hysbysiad o benderfyniad yr ATLl i wrthod caniatáu defnydd penodol o'r cyfan neu ran o'r fangre.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

6.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o Ddeddf 2004 (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu'n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau;

(c)copi o'r les berthnasol; ac

(ch)datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.

7.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)os un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai honno yw'r ffordd orau.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

8.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gweithredu adferol brys

9.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 41 o Ddeddf 2004 yn erbyn penderfyniad ATLl i gymryd camau gweithredu adferol brys).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

(b)y datganiad o resymau.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

10.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 45(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gorchymyn gwahardd brys).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad o orchymyn gwahardd brys a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf 2004 (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo); a

(b)y datganiad o resymau.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

11.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan—

(a)paragraff 14 o Atodlen 3 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn i adennill treuliau a llog oddi wrth berson sy'n elwa o weithredu heb gytundeb); a

(b)y paragraff hwnnw fel y'i cymhwysir gydag addasiadau gan adran 42 o Ddeddf 2004 (adennill treuliau am weithredu adferol brys)).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad gwella neu, yn ôl fel y digwydd, yr hysbysiad o weithredu adferol brys (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);

(b)y datganiad o resymau;

(c)copi o'r galwad am dreuliau a gyflwynwyd o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno;

(ch)copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 12 o'r Atodlen honno; a

(d)prawf bod yr hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r person dan sylw fel y crybwyllir ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r person y mae'r ATLl yn ceisio adennill treuliau a llog oddi wrtho.

Ceisiadau sy'n ymwneud â thrwyddedu tai amlfeddiannaeth

12.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 62(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad i'r ATLl o dan adran 62(1) o Ddeddf 2004; a

(b)copi o'r hysbysiad o benderfyniad yr ATLl o dan adran 62(6) o Ddeddf 2004.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

13.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 73(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan wneir y cais gan yr ATLl—

(i)copi o'r hysbysiad o'r bwriad i ddwyn achos o dan adran 73(7) o Ddeddf 2004;

(ii)copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;

(iii)naill ai—

(aa)datganiad yn cynnwys y manylion y dibynnir arnynt ar gyfer gwneud yr honiad bod tramgwydd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 wedi ei chyflawni; neu

(bb)pan fo'r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 74 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi'i gael yn euog o dramgwydd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004; a

(iv)dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir i dramgwydd o'r fath gael ei chyflawni;

(b)pan wneir y cais gan feddiannydd(21)

(i)tystiolaeth bod y person priodol wedi'i gael yn euog o drosedd o dan adran 72(1) o Ddeddf 2004 neu y gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a

(ii)tystiolaeth bod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath yn cael ei chyflawni.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol(22).

14.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 255(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i gyflwyno datganiad tŷ amlfeddiannaeth).

(2Y ddogfen benodedig yw copi o'r datganiad tŷ amlfeddiannaeth.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

15.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 256(4) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wrthod dirymu datganiad tŷ amlfeddiannaeth).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r datganiad tŷ amlfeddiannaeth; a

(b)copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad i beidio â dirymu'r datganiad tŷ amlfeddiannaeth.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

16.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 2 o Ddeddf 2004, neu yn erbyn unrhyw un o delerau'r drwydded).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—

(i)copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a

(ii)copi o'r drwydded; a

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

17.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu unrhyw berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 a 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;

(c)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;

(ch)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a

(d)ym mhob achos, copi o'r drwydded.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â thrwyddedu llety preswyl arall yn ddetholus

18.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad i'r ATLl o dan adran 86(1) o Ddeddf 2004; a

(b)copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad o dan adran 86(6) o Ddeddf 2004.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

19.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan wneir y cais gan yr ATLl—

(i)copi o'r hysbysiad o'r achos arfaethedig o dan adran 96(7) o Ddeddf 2004;

(ii)copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;

(iii)naill ai—

(aa)datganiad sy'n cynnwys y manylion y dibynnir arnynt wrth wneud yr honiad bod tramgwydd wedi ei chyflawni o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; neu

(bb)pan fo'r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi'i gael yn euog o dramgwydd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; a

(iv)dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath wedi ei chyflawni;

(b)pan wneir y cais gan feddiannydd—

(i)tystiolaeth bod y person priodol wedi ei gael yn euog o dramgwydd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 neu y gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a

(ii)tystiolaeth fod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath yn cael ei chyflawni.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol.

20.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad gan ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu sy'n ymwneud â thelerau trwydded).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded —

(i)copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a

(ii)copi o'r drwydded; a

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

21.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;

(c)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;

(ch)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a

(d)ym mhob achos, copi o'r drwydded.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion rheoli interim a therfynol

22.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(4) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn drafft;

(b)datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys o—

(i)pa un a yw'r amod iechyd a diogelwch yn adran 104 o Ddeddf 2004 wedi ei fodloni; a

(ii)i ba raddau y cydymffurfiwyd ag unrhyw god ymarfer cymwys a gymeradwywyd o dan adran 233 o Ddeddf 2004; a

(iii)pan fo'r ATLl yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy'n rhoi manylion digonol i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn bodoli.

(3Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl diffiniad “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.

23.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 102(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdod i wneud gorchymyn rheoli interim mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf 2004 yn gymwys iddo).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn drafft;

(b)datganiad o'r materion sy'n berthnasol i ystyriaeth y tribiwnlys ynglŷn ag a yw'r amodau yn adran 103(3) a (4) o Ddeddf 2004 wedi eu bodloni; ac

(c)pan fo'r ATLl yn gofyn am ymdrin â'r cais fel mater brys o dan reoliad 10, datganiad sy'n rhoi manylion digonol i alluogi'r tribiwnlys i ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n ymddangos bod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) o'r rheoliad hwnnw yn bodoli.

(3Yr ymatebydd penodedig yw person perthnasol yn ôl diffiniad “relevant person” ym mharagraffau 8(4) a 35 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004.

24.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 105(10) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli interim yn parhau mewn grym hyd nes byddir wedi penderfynu apêl).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn rheoli interim; a

(b)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli terfynol.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

25.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 110(7) o Ddeddf 2004 (cais gan landlord perthnasol am orchymyn mewn perthynas â threfniadau ariannol tra bo gorchymyn rheoli interim mewn grym).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn rheoli interim; a

(b)copi o'r cyfrifon a gadwyd gan yr ATLl yn unol ag adran 110(6) o Ddeddf 2004.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

26.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 114(7) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl yn erbyn gorchymyn rheoli terfynol newydd).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n bodoli eisoes;

(b)copi o'r gorchymyn rheoli terfynol newydd a wnaed i ddisodli'r gorchymyn sy'n bodoli eisoes; ac

(c)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud y gorchymyn rheoli terfynol newydd.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd sydd wedi gwneud yr apêl berthnasol.

27.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 120(1) o Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod yr ATLl yn rheoli yn unol â'r cynllun rheoli yn y gorchymyn rheoli terfynol).

(2Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli terfynol sy'n cynnwys y cynllun rheoli y cyfeirir ato yn y cais.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

28.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 126(4) o Ddeddf 2004 (cais am addasu hawliau a rhwymedigaethau mewn perthynas â dodrefn a freinir yn yr ATLl tra bo gorchymyn rheoli mewn grym).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn rheoli perthnasol; a

(b)datganiad sy'n rhoi manylion am briod hawliau a rhwymedigaethau (gan gynnwys perchnogaeth) pob un o'r personau sydd â buddiant yn y dodrefn.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r person arall sydd â buddiant yn y dodrefn.

29.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 130(9) o Ddeddf 2004 (cais i benderfynu pwy yw “y landlord perthnasol” (“the relevant landlord”) at ddibenion adran 130 pan ddaw'r gorchymyn rheoli i ben).

(2Y ddogfen benodedig yw copi o'r gorchymyn rheoli.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r landlord perthnasol arall(23).

30.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 24 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwneud gorchymyn rheoli, neu yn erbyn amodau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;

(c)pan fo'r cais yn ymwneud â thelerau'r gorchymyn rheoli, datganiad sy'n pennu pob un o'r telerau a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac

(ch)pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 24(3) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004, datganiad o'r materion yn adran 110(5) o Ddeddf 2004 (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben, etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

31.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu gorchymyn rheoli, neu wrthod newid neu ddirymu gorchymyn rheoli).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004;

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;

(c)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno;

(ch)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu gorchymyn rheoli, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a

(d)ym mhob achos—

(i)copi o'r gorchymyn rheoli; a

(ii)copi o'r hysbysiad a gyflwynwyd gan yr ATLl o dan baragraff 7(2)(b) o'r Atodlen honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

32.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(2) o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (apêl gan drydydd parti yn erbyn penderfyniad gan ATLl o dan adran 128 o Ddeddf 2004 ynglŷn â'r digollediad sy'n daladwy i drydydd partïon).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn rheoli (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)copi o hysbysiad yr ATLl i'r trydydd parti, o benderfyniad yr ATLl yn unol ag adran 128(2) o Ddeddf 2004; ac

(c)datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—

(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r gorchymyn rheoli; a

(ii)swm y digollediad a hawlir oherwydd yr ymyrraeth honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion rheoli anheddau gwag

33.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 133(1) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am awdurdodiad i wneud GRhAG interim).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG interim drafft;

(b)datganiad o dystiolaeth—

(i)mewn perthynas â'r materion y mae'n rhaid bodloni'r tribiwnlys yn eu cylch o dan adran 134(2) o Ddeddf 2004;

(ii)ynglŷn ag ystyriaeth yr ATLl o'r hawliau a'r buddiannau a bennir yn adran 133(4) o Ddeddf 2004; ac

(c)pan fo'r ATLl, yn unol ag adran 133(3) o Ddeddf 2004, wedi hysbysu'r perchennog perthnasol ei fod yn ystyried gwneud GRhAG interim, copi o'r hysbysiad hwnnw.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog perthnasol(24).

34.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 138(1) o Ddeddf 2004 (cais, tra bo GRhAG interim mewn grym, am orchymyn bod yr ATLl i dalu digollediad i drydydd parti am ymyrryd â'i hawliau).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG interim;

(b)copi o hysbysiad yr ATLl i'r trydydd parti o benderfyniad yr ATLl, yn unol ag adran 138(4) o Ddeddf 2004; ac

(c)datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—

(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r GRhAG interim; a

(ii)swm y digollediad a hawlir mewn perthynas â'r ymyrraeth honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

35.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG interim i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG interim; a

(b)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG interim.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd a wnaeth yr apêl berthnasol.

36.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 2(3)(d) neu baragraff 10(3)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn o dan baragraff 22 o'r Atodlen honno i derfynu les neu drwydded tra bo GRhAG interim neu derfynol mewn grym).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG interim neu derfynol (gan gynnwys unrhyw gynllun rheoli);

(b)copi o'r les neu'r drwydded berthnasol, neu os nad oes copi ohoni ar gael, tystiolaeth o fodolaeth y les neu'r drwydded; ac

(c)datganiad yn cynnwys y manylion canlynol—

(i)enw a chyfeiriad, os ydynt yn hysbys, unrhyw lesydd, lesddeiliad, is-lesydd, is-lesddeiliad, neu drwyddedai;

(ii)tystiolaeth o'r materion y mae'n rhaid bodloni'r tribiwnlys yn eu cylch o dan baragraff 22(1)(b) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; a

(iii)swm y digollediad (os oes rhywfaint) y mae'r ATLl yn fodlon ei dalu mewn perthynas â therfynu'r les neu'r drwydded, gan gynnwys manylion o'r modd y cyfrifwyd swm y digollediad hwnnw.

(3Yr ymatebwyr penodedig yw'r partïon i'r les neu'r drwydded.

37.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berchennog perthnasol am orchymyn mewn cysylltiad â threfniadau ariannol tra bo GRhAG interim mewn grym).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG interim; a

(b)copi o'r cyfrifon a gedwir gan yr ATLl yn unol â pharagraff 5(6) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

38.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9(8) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG terfynol i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG terfynol; a

(b)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG terfynol.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd a wnaeth yr apêl berthnasol.

39.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 14(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan berson yr effeithir arno am orchymyn bod ATLl i reoli annedd yn unol â chynllun rheoli mewn GRhAG terfynol).

(2Y ddogfen benodedig yw copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli).

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

40.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 26(1) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i wneud GRhAG terfynol, neu yn erbyn telerau'r gorchymyn neu'r cynllun rheoli cysylltiedig).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â thelerau'r gorchymyn rheoli, datganiad yn pennu pob un o'r telerau a wrthwynebir, ynghyd â'r rhesymau dros y gwrthwynebiad; ac

(c)pan wneir y cais ar y sail a bennir ym mharagraff 26(1)(c) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004, datganiad o'r materion ym mharagraff 5(5)(a) a (b) o'r Atodlen honno (sy'n ymwneud â thalu rhenti dros ben etc) sy'n berthnasol i'r sail honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

41.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 30 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu ddirymu GRhAG interim neu derfynol, neu wrthod i amrywio neu ddirymu gorchymyn o'r fath).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 9 ac 11 o Atodlen 6 i Ddeddf 2004 (fel y'u cymhwysir gan baragraff 17 o Atodlen 7 i'r Ddeddf honno);

(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o'r Atodlen honno;

(c)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 17 ac 19 o'r Atodlen honno; ac

(ch)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu GRhAG interim neu derfynol, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 20 a 22 o'r Atodlen honno; a

(d)ym mhob achos, copi o'r GRhAG interim neu derfynol (yn ôl fel y digwydd).

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

42.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 34(2) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl o dan adran 136(4) neu 138(3) o Ddeddf 2004 mewn perthynas â'r digollediad sy'n daladwy i drydydd partïon am ymyrraeth â'u hawliau o ganlyniad i GRhAG terfynol).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r GRhAG terfynol (gan gynnwys y cynllun rheoli);

(b)pan fo'r trydydd parti wedi gofyn am ei ddigolledu o dan adran 138 o Ddeddf 2004, copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad i'r trydydd parti yn unol ag is-adran (4) o'r adran honno; ac

(c)datganiad sy'n rhoi manylion llawn o'r canlynol—

(i)yr hawliau yr honnir yr ymyrrwyd â hwy o ganlyniad i'r GRhAG terfynol; a

(ii)swm y digollediad a hawlir oherwydd yr ymyrraeth honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau mewn perthynas â hysbysiadau gorlenwi

43.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 143(1) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan hysbysiad gorlenwi).

(2Y ddogfen benodedig yw copi o'r hysbysiad gorlenwi, neu ddatganiad gan y ceisydd yn esbonio'r amgylchiadau sydd wedi peri na all y ceisydd ddarparu copi o'r hysbysiad hwnnw.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

44.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 144(2) o Ddeddf 2004 (apêl gan berson perthnasol yn erbyn gwrthodiad ATLl i ddirymu neu amrywio hysbysiad gorlenwi, neu yn erbyn methiant yr ATLl i ymateb mewn pryd i gais am ddirymu neu amrywio hysbysiad o'r fath).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r hysbysiad gorlenwi; a

(b)os gwrthododd yr ATLl amrywio hysbysiad gorlenwi, copi o benderfyniad yr ATLl.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1985

Ceisiadau sy'n ymwneud â gorchmynion dymchwel

45.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 269(1) o Ddeddf 1985(25) (apêl gan berson a dramgwyddwyd gan orchymyn dymchwel).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn); a

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)os sail y cais, neu un o'i seiliau, yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir yn adran 269A(2)(26) o Ddeddf 1985 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai honno yw'r ffordd orau o weithredu.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.

46.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(1) neu (2)(a) o Ddeddf 1985 (cais mewn cysylltiad ag adennill treuliau ATLl wrth gyflawni gorchymyn dymchwel o dan adran 271 o Ddeddf 1985 gan gynnwys penderfynu'r cyfraniadau gan gydberchnogion).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)datganiad o'r canlynol—

(i)y treuliau a dynnwyd gan yr ATLl o dan adran 271 o Ddeddf 1985 (gweithredu gorchymyn dymchwel);

(ii)y swm (os oes un) a dderbyniwyd drwy werthu defnyddiau; a

(iii)y swm y mae'r ATLl yn ceisio'i adennill oddi wrth unrhyw berchennog y fangre.

(3Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y fangre(27).

47.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 272(2)(b) o Ddeddf 1985 (cais gan un o berchnogion mangre am benderfynu'r cyfraniad i dreuliau ATLl, sydd i'w dalu gan berchennog arall).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);

(b)y datganiad o resymau; ac

(c)datganiad o'r canlynol—

(i)priod fuddiannau'r perchnogion yn y fangre; a

(ii)eu priod rhwymedigaethau ac atebolrwyddau o ran cynnal ac atgyweirio, o dan unrhyw gyfamod neu gytundeb, penodol neu oblygedig.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r perchennog y mae'r ceisydd yn ceisio cyfraniad ganddo tuag at dreuliau'r ATLl.

48.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 317(1) o Ddeddf 1985 (cais gan lesydd neu lesddeiliad mangre y daeth gorchymyn dymchwel yn weithredol mewn perthynas â hi, am orchymyn yn amrywio neu'n terfynu les).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r gorchymyn dymchwel a wnaed o dan adran 265 o Ddeddf 1985 (gan gynnwys unrhyw atodlen i'r gorchymyn);

(b)y datganiad o resymau;

(c)copi o'r les berthnasol; ac

(ch)datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les, ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gwaith ar fangreoedd anaddas

49.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 318(1)(28) o Ddeddf 1985 (cais gan berson sydd â buddiant mewn mangre am awdurdodiad gan dribiwnlys i gyflawni gwaith ar fangre anaddas, neu waith ar gyfer gwella).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)manylion o'r gwaith y mae'r ceisydd yn bwriadu eu cyflawni, gan gynnwys—

(i)enwau a chyfeiriadau contractwyr arfaethedig pan fo'n berthnasol;

(ii)amcangyfrif o gostau'r gwaith; a

(iii)amserlen ar gyfer cychwyn a chwblhau'r gwaith;

(b)pan wneir y cais ar y sail a grybwyllir yn adran 318(1)(b) o Ddeddf 1985, manylion o'r canlynol—

(i)y cynllun gwella neu ailadeiladu y mae'r ceisydd yn dymuno'i gyflawni; a

(ii)y gymeradwyaeth o'r cynllun gan yr ATLl;

(c)datganiad o statws ariannol y ceisydd, gan gynnwys datgeliad o'r cyllid sydd ar gael i ddiwallu costau amcangyfrifedig y gwaith; ac

(ch)pan fo'r cais yn cynnwys cais am orchymyn yn terfynu les a ddelir oddi wrth y ceisydd neu les ddeilliannol, copi o'r les honno.

(3Yr ymatebwyr penodedig yw—

(a)y person sydd â hawl i feddiannu'r fangre;

(b)perchennog y fangre(29).

Ceisiadau a wneir o dan Ddeddf 1983

Ceisiadau sy'n ymwneud â methiant i roi datganiad ysgrifenedig

50.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 1(6) o Ddeddf 1983 (hawl i gael datganiad ysgrifenedig).

(2Y dogfennau penodedig yw unrhyw ddogfennau a roddir gan berchennog y safle i'r meddiannydd, y mae'n ofynnol o dan adran 1(2) o Ddeddf 1983 bod perchennog y safle yn eu rhoi.

(3Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud â thelerau goblygedig ychwanegol neu amrywio neu ddileu telerau goblygedig

51.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(2) o Ddeddf 1983 (telerau a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig).

(2Y ddogfen benodedig yw datganiad sy'n pennu'r rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gael unrhyw rai o'r materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig yn y cytundeb rhwng perchennog y safle a'r meddiannydd.

(3Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

52.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf 1983 (amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb)—

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r cytundeb; a

(b)datganiad yn pennu—

(i)pa un o delerau datganedig y cytundeb y mae'r ceisydd yn gofyn i'r tribiwnlys ei amrywio neu ei ddileu, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, pa un y mae'r ceisydd yn dymuno rhoi effaith lawn iddo; a

(ii)y rhesymau pam y mae'r ceisydd yn gwneud cais am amrywio neu ddileu unrhyw un o delerau datganedig y cytundeb, neu, yn achos un o'r telerau datganedig y mae adran 1(6) o Ddeddf 1983 yn gymwys iddynt, y rhesymau dros ddymuno rhoi effaith lawn iddo.

(3Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud ag unrhyw gwestiwn o dan Ddeddf 1983

53.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 4 o Ddeddf 1983 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu o dan gytundeb y mae'r Ddeddf honno'n gymwys iddo).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r cytundeb; a

(b)unrhyw ohebiaeth berthnasol a roddodd neu a gafodd y ceisydd mewn cysylltiad â'r cwestiwn sydd i'w benderfynu.

(3Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud ag effaith niweidiol cartrefi symudol ar amwynder y safle

54.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 5A(2)(a) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (penderfyniad gan dribiwnlys ynghylch effaith niweidiol cartref symudol).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;

(b)unrhyw adroddiad sydd wedi ei baratoi, sy'n disgrifio cyflwr y cartref symudol; ac

(c)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â therfynu gan berchennog y safle

55.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2)(b) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (terfynu gan berchennog y safle).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o'r cytundeb;

(b)unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, sy'n hysbysu'r meddiannydd o fwriad perchennog y safle i wneud cais o dan baragraff 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;

(c)yn achos cais o dan baragraff 4 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, os y toriad honedig yw methiant i dalu'r ffi am y llain, datganiad o'r ffioedd llain a oedd yn ddyledus ac o'r ffioedd a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod dan sylw;

(ch)unrhyw ddogfennau perthnasol eraill sy'n cefnogi'r cais; a

(d)yn achos cais o dan baragraff 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, copi o benderfyniad y tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â chymeradwyo person wrth werthu neu roi cartrefi symudol

56.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 8(1E) (gwerthu cartref symudol) neu 9(2) (rhoi cartref symudol) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983.

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)copi o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd i berchennog y safle gan y meddiannydd o dan baragraff 8(1A) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno;

(b)unrhyw ohebiaeth berthnasol a gafodd y meddiannydd gan berchennog y safle, i'r perwyl nad oedd perchennog y safle yn cymeradwyo'r gwerthiant neu'r rhodd; ac

(c)yn achos cais brys o dan baragraff 8 neu 9 o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys y dystiolaeth a anfonwyd ynghyd â'r cais o dan baragraff (2) o reoliad 11 (ceisiadau brys o dan Ddeddf 1983 mewn perthynas â gwerthu neu roi cartref symudol).

(3Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau mewn perthynas ag adleoli cartrefi symudol

57.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)unrhyw ddogfen sy'n nodi'r rheswm dros ei gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i leoli'r cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod mewn perthynas â llain arall, ac yn darparu disgrifiad, amwynder a maint y llain bresennol yn ogystal â'r llain amgen arfaethedig;

(b)copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol a drafft o'r cytundeb arfaethedig mewn perthynas â'r llain amgen; ac

(c)yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad perchennog y safle i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol nas cyflwynwyd eisoes i'r tribiwnlys ac sy'n berthnasol i'r cais.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â dychwelyd cartrefi symudol a adleolwyd

58.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (adleoli cartref symudol).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)unrhyw gais gan y meddiannydd i berchennog y safle am ddychwelyd y cartref symudol i'r llain wreiddiol ac unrhyw ymateb a gafwyd i'r cais hwnnw;

(b)copi o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain bresennol ac o'r cytundeb mewn perthynas â'r llain amgen; ac

(c)yr hysbysiad (os oes un) a gyflwynwyd gan y meddiannydd i berchennog y safle, ac sy'n nodi bwriad y meddiannydd i wneud cais i'r tribiwnlys o dan baragraff 10(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno.

(3Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud â'r ffi llain

59.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraffau 16(b), 17(4) ac 17(8) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).

(2Y ddogfen benodedig yw'r hysbysiad a gyflwynwyd i'r meddiannydd gan berchennog y safle o dan baragraff 17(2) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno (pa un a'i cyflwynwyd erbyn yr amser sy'n ofynnol o dan y paragraff hwnnw ai peidio).

(3Yr ymatebydd penodedig yw—

(a)os y ceisydd yw perchennog y safle, y meddiannydd; a

(b)os y ceisydd yw'r meddiannydd, perchennog y safle.

Ceisiadau sy'n ymwneud â gwelliannau sydd i'w cymryd i ystyriaeth yn y ffi llain

60.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 18(1)(a)(iii) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (y ffi llain).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)datganiad o'r gwaith gwella arfaethedig;

(b)amcangyfrif o'r costau;

(c)datganiad o ba bryd y bydd y gwaith yn cychwyn ac am ba hyd y bydd yn parhau; a

(ch)manylion yr ymgynghori a wnaed gyda'r meddianwyr o dan baragraff 22(e) ac (f) o Bennod 2 o Ran 1 o'r Atodlen honno, a chopïau o'u hymatebion.

(3Yr ymatebydd penodedig yw'r meddiannydd.

Ceisiadau sy'n ymwneud â chymdeithasau preswylwyr cymwys

61.—(1Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 28(1)(h) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (cymdeithas preswylwyr gymwys).

(2Y dogfennau penodedig yw—

(a)unrhyw gais a wnaed gan gadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd y gymdeithas preswylwyr i berchennog y safle am i'r perchennog safle gydnabod y gymdeithas fel cymdeithas preswylwyr gymwys;

(b)unrhyw ymateb gan berchennog y safle i'r cais am gydnabod y gymdeithas, y cyfeirir ato ym mharagraff (a);

(c)copi o gyfansoddiad y gymdeithas; ac

(ch)tystiolaeth o'r nifer o feddianwyr cartrefi symudol ar y safle sy'n berchnogion y cartrefi symudol a feddiennir ganddynt ac sy'n aelodau o'r gymdeithas preswylwyr.

(3Yr ymatebydd penodedig yw perchennog y safle.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig. O dan Ran 2, rheoleiddir y weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer y ceisiadau ac apelau (y cyfeirir atynt ar y cyd fel ceisiadau) a wneir i dribiwnlys eiddo preswyl (“tribiwnlys”) o dan Ddeddf Tai 2004 (“Deddf 2004”), Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”), sy'n ymwneud â gorchmynion dymchwel, a Deddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”). Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apelau a cheisiadau penodol i dribiwnlysoedd.

Mae rheoliad 1 o Ran 1 yn pennu'r achosion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 o Ran 2 yn pennu'r prif amcan o ymdrin yn deg a chyfiawn â cheisiadau, a'r gofyniad i gydweithredu.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â cheisiadau am estyn yr amser ar gyfer gwneud cais, mewn achosion pan fo Deddf 2004 neu Ddeddf 1983 yn rhoi'r pŵer i dribiwnlys ganiatáu estyniad o'r fath.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo cais gan berson o dan Ddeddf 1983 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, y caiff y cais gyfeirio at un ddarpariaeth yn Neddf 1983 ac mai'r nifer mwyaf o leiniau neu gartrefi symudol y caiff unrhyw gais unigol ymwneud â hwy fydd 20.

Mae rheoliad 6 yn rhoi manylion am yr wybodaeth sydd i'w chynnwys gyda chais, ac yn pennu dogfennau ychwanegol ar gyfer ceisiadau penodol, fel y'u nodir yn is-baragraff (2) o bob paragraff o'r Atodlen i'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy'n gymwys pan drosglwyddir mater sy'n codi o dan Ddeddf 1983 o lys i dribiwnlys.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chydnabod cais sy'n cyrraedd y tribiwnlys, ac anfon copïau o'r dogfennau at yr ymatebydd, ynghyd â hysbysiad o'r dyddiad erbyn pryd y dylai'r ymatebydd ateb y tribiwnlys.

Mae rheoliad 9 yn ymdrin ag ymateb yr ymatebydd.

Mae rheoliad 10 yn caniatáu i'r tribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo Awdurdod Tai Lleol wedi gwneud cais am awdurdodi gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004, a phan yw'n ymddangos i'r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gyda'r cais, fod amgylchiadau eithriadol penodedig yn bodoli.

Mae rheoliad 11 yn caniatáu i'r tribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo ceisydd yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, neu'n gofyn am benderfyniad perthynol o dan adran 4 o Ddeddf 1983, pan fo perchennog safle a ddiogelir, y lleolir cartref symudol arno, yn gwrthod cydsynio â gwerthu'r cartref symudol neu'i roi yn rhodd.

Mae rheoliad 12 yn disgrifio'r gweithdrefnau ychwanegol sy'n gymwys mewn perthynas â chais a wneir o dan baragraff 5A o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, am i dribiwnlys benderfynu pa un a yw cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith niweidiol ai peidio ar amwynder y safle a ddiogelir.

Mae rheoliad 13 yn ymdrin â cheisiadau am gael ymuno fel parti i'r achos.

Mae rheoliad 14 yn pennu amgylchiadau pan ganiateir penderfynu dau neu ragor o geisiadau gwahanol ar y cyd, neu benderfynu ar y cyd faterion penodol sy'n codi mewn ceisiadau gwahanol.

Mae rheoliad 15 yn darparu, pan nad yw'r ffi ar gyfer cais wedi ei thalu o fewn 14 diwrnod, y dylid ystyried bod y cais wedi'i dynnu yn ôl onid oes sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Mae rheoliad 16 yn galluogi cyflawni'r ddyletswydd i gyflenwi dogfen drwy'i chyflenwi i gynrychiolydd parti neu i gynrychiolydd person â buddiant, os gofynnir am hynny mewn ysgrifen.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn sicrhau bod personau â buddiant yn cael eu hysbysu ynglŷn â chais, gydag esboniad o'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais i ymuno fel parti yn yr achos.

Mae rheoliad 18 yn ymdrin â dosbarthu dogfennau perthnasol gan y tribiwnlys.

Mae rheoliadau 19 ac 20 yn ymdrin â phwerau'r tribiwnlys i orchymyn cyflenwi gwybodaeth a dogfennau, ac â methiant i gydymffurfio â gorchymyn o'r fath.

Mae rheoliad 21 yn galluogi'r tribiwnlys i benderfynu cais heb gynnal gwrandawiad llafar. Rhaid rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i'r partïon o'r bwriad i weithredu felly. Mae hawl gan y partïon i ofyn am wrandawiad llafar. Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel benderfynu bod cynnal gwrandawiad llafar yn briodol.

Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion interim, ac eithrio wrth benderfynu cais o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol mewn perthynas â chyfarwyddiadau o dan bŵer cyffredinol y tribiwnlys yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 24 yn ymdrin ag archwilio'r fangre a'i chyffiniau.

Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystiolaeth arbenigol gerbron tribiwnlys.

Mae rheoliad 26 yn galluogi'r tribiwnlys i gynnal cynhadledd rheoli achos (a ddiffinnir fel cynhadledd sy'n cynnwys adolygiad cyn treial) ar ôl rhoi rhybudd o ddim llai na 7 diwrnod i'r partïon.

Mae rheoliad 27 yn rhoi manylion am weddill pwerau'r tribiwnlys o ran rheoli achosion. Mae rheoliad 27(1)(a) yn caniatáu i'r tribiwnlys leihau'r amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer y gwahanol gamau mewn achos, os yw'r partïon i gyd yn cydsynio i'r cwtogiad sydd dan sylw. Mae rheoliad 27(1)(b) yn caniatáu i'r tribiwnlys estyn yr amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer gwahanol gamau mewn achos.

Mae rheoliad 28 yn ymdrin â rhoi hysbysiad sy'n pennu dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad, a rheoliad 29 yn rhoi pŵer i'r tribiwnlys ohirio gwrandawiad.

Mae rheoliad 30 yn pennu pwerau'r tribiwnlys yn ystod gwrandawiad, a rheoliad 31 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir cynnal gwrandawiad yn breifat, fel eithriad i'r rheol gyffredinol y dylid ei gynnal yn gyhoeddus.

Mae rheoliad 32 yn nodi pwy sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat, ac yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys wrth iddo benderfynu cais.

Mae rheoliad 33 yn galluogi tribiwnlys i fynd ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti a fethodd ag ymddangos.

Mae rheoliad 34 yn pennu sut a pha bryd y bydd y tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad.

Mae rheoliad 35 yn darparu na chaiff y tribiwnlys ddyfarnu costau o dan ei bwerau ym mharagraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 heb roi cyfle i'r parti dan sylw gyflwyno sylwadau.

Mae rheoliad 36 yn pennu sut y gellir tynnu cais yn ôl, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, ac yn pennu'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni mewn amgylchiadau penodol fel bod tynnu'r cais yn ôl yn cael effaith.

Mae rheoliad 37 yn darparu ar gyfer gorfodi penderfyniad tribiwnlys yn y llys sirol, gyda chaniatâd y llys.

Mae rheoliad 38 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â cheisiadau i dribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).

Mae rheoliad 39 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn gwneud trefniadau priodol os oes angen gwasanaeth cyfieithu, dehongli, neu gymorth arall ar unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr achos, er mwyn ei alluogi i gyfranogi'n effeithiol yn yr achos.

Mae rheoliad 40 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gyfystyr â chyflenwi dogfen neu hysbysiad o dan y Rheoliadau. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys yr amgylchiadau pan yw'n dderbyniol cyfathrebu drwy ffacs, cyfathrebiad electronig neu wasanaeth dosbarthu preifat.

Mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer unrhyw gyfnodau, a bennir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, sy'n dod i ben ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus. Ystyrir y bydd y weithred wedi'i chyflawni mewn pryd os cyflawnir hi ar y diwrnod gwaith nesaf sy'n dilyn.

Mae rheoliad 42 yn rhoi pŵer i'r tribiwnlys wrthod, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, unrhyw gais a ystyrir yn wacsaw, yn flinderus neu rywfodd arall yn camddefnyddio proses y tribiwnlys, ar ôl rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i'r ceisydd.

Mae rheoliad 43 yn datgan na fydd afreoleidd-dra ar ran y partïon yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, yn ei hunan, yn peri bod achos yn ddi-rym.

Mae rheoliad 44 yn caniatáu atgynhyrchu llofnod yn fecanyddol neu rywfodd arall, ar yr amod yr ychwanegir enw'r person sy'n llofnodi o dan y llofnod, mewn modd sy'n caniatáu adnabod y person hwnnw.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apelau a cheisiadau i dribiwnlysoedd eiddo preswyl, yn gymwys mewn perthynas ag apelau a cheisiadau o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yn rheoliadau 45, 46 a 47.

Mae rheoliadau 45 a 46 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £150 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2004 neu Ddeddf 1985 a restrir yn y rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 47 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn Neddf 1983 a restrir yn y rheoliad hwnnw. Mae'r ffi sy'n daladwy yn amrywio rhwng £150 a £500.

Mae rheoliadau 48 a 49 yn darparu mai'r person sy'n gwneud y cais sy'n atebol i dalu'r ffi, ac yn darparu ar gyfer hepgor y ffi os yw'r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau a restrir yn rheoliad 49(2).

Mae rheoliad 50 yn pennu'r amgylchiadau pan gaiff y tribiwnlys orchymyn un o'r partïon i'r cais i ad-dalu unrhyw ffioedd a dynnwyd gan y parti arall o dan reoliad 45, 46 neu 47.

Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau yn rhestru ceisiadau y caniateir eu gwneud i dribiwnlys ac yn pennu, mewn perthynas â phob math o gais, y dogfennau ychwanegol y mae'n rhaid eu cynnwys gyda'r cais, ac yn nodi'r personau y ceir eu henwi fel ymatebwyr i'r cais.

Mae'r Rheoliadau yn dirymu—

(a)Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006(30); a

(b)Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006(31).

Ni pharatowyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'n cael effaith sylweddol ar y sectorau preifat a gwirfoddol.

(1)

Mae'r swyddogaethau roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Ddeddf Tai 2004 yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30(2)(c) o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(4)

Ar gyfer ystyr “local housing authority” gweler adran 261(4) o Ddeddf 2004.

(5)

Ar gyfer ystyr “interim management order” gweler adran 101(3) o Ddeddf 2004.

(6)

Mae Deddf 1983 yn amgyffred Cymru, Lloegr a'r Alban, a diwygiwyd hi'n sylweddol o ran Cymru a Lloegr gan adrannau 206-208 o Ddeddf Tai 2004; ac o ran Cymru gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3151) a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/899 (W.119)) ac o ran Lloegr gan Orchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/1005), Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983) 2011 (O.S. 2011/1004), a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/1755) a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygio Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/1003).

(8)

Drwy adran 229 o Ddeddf Tai 2004 (p.34) mae unrhyw awdurdodaeth tribiwnlys eiddo preswyl drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad yn arferadwy gan bwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977 (p.42).

(9)

Ar gyfer ystyr “single qualified member of the panel” gweler paragraff 6(2) i (4) o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 2004.

(10)

1971 p.80.

(11)

1992 p.4. Diwygiwyd Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adran 60 ac Atodlen 6. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(12)

1995 p.18. Diwygiwyd Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynwyr 1999 (p.30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.

(13)

2002 p.21.

(14)

2002 p.16.

(15)

2007 p.5.

(16)

Gweler adran 11(3), (4) a (6) o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(17)

Gweler adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(18)

Ystyr “priodas amlbriod” yw unrhyw briodas lle yn ystod bodolaeth y briodas y mae parti iddi yn briod â mwy nag un person a chynhaliwyd y seremoni briodas o dan gyfraith gwlad oedd yn caniatáu amlbriodas.

(21)

Gweler adran 262 o Ddeddf 2004 am y diffiniad o “occupier”.

(22)

Gweler adran 73(1) o Ddeddf 2004 am y diffiniad o “the appropriate person”.

(23)

Gweler adran 130(11) o Ddeddf 2004 am y diffiniad o “relevant landlord”.

(24)

Gweler adran 132(4)(c) o Ddeddf 2004 am y diffiniad o “relevant proprietor”.

(25)

Diwygiwyd adrannau 269, 272 a 317 o Ddeddf 1985 gan adran 48 o Ddeddf 2004.

(26)

Mewnosodwyd adran 269A o Ddeddf 1985 gan baragraff 15 o Atodlen 15 i Ddeddf 2004.

(27)

Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio “owner” mewn perthynas â mangre. Diwygiwyd adran 322 gan adran 65(1) o Ddeddf 2004 a pharagraff 26 o Atodlen 15 i'r Ddeddf honno.

(28)

Diwygiwyd adran 318 o Ddeddf 1985 gan adran 48 o Ddeddf 2004.

(29)

Gweler adran 322 o Ddeddf 1985, sy'n diffinio “owner” mewn perthynas â mangre.