xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
58.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 60, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.
(2) Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—
(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â'r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;
(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.