xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 2GRANTIAU AR GYFER FFIOEDD

Grantiau ar gyfer ffioedd: amodau'r hawl i'w cael ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

16.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Pennir swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 17 neu 18.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—

(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.

Swm y grantiau ar gyfer ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

17.—(1Oni fydd un o'r amgylchiadau a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r canlynol—

(a)£1,380 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban: neu

(b)£1,425 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon, a

(c)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus pan fo un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£680 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban; neu

(b)£700 os darperir y cwrs gan sefydliad yng Ngogledd Iwerddon; a

(c)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(3Os cyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o'r grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 67.

(4Y canlynol yw'r amgylchiadau—

(a)blwyddyn academaidd derfynol y cwrs dynodedig os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf)—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs,

blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos;

(d)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)os bydd, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(5Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,465.

(6Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,030.

(7Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r lleiaf o £1,285 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(8Swm sylfaenol y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £680 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os yw un neu fwy o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(9Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant ar gyfer ffioedd a benderfynir o dan baragraff (7) neu (8) yn unol â rheoliad 67.

Swm y grant ar gyfer ffioedd mewn sefydliad preifat (nid ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus): myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£1,285; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant ar gyfer ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £3,275.

Grant at ffioedd

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd wneud cais am grant at ffioedd nad yw ei swm yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes grant at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(3Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £2,085 neu y gwahaniaeth rhwng £1,380 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw'r lleiaf.

(4Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £1,045 neu'r gwahaniaeth rhwng £680 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y ceisydd, pa un bynnag yw'r lleiaf.

(5Yn y Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), ystyr “myfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd” (“eligible student who qualifies for a fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(6Nid yw myfyriwr carfan newydd neu fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 yn fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant at ffioedd.

(7Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

Grant newydd at ffioedd

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2012 hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant newydd at ffioedd mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr carfan 2012 ar gwrs dynodedig a ddarperir gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid yw grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd os yw'r flwyddyn honno'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus.

(3Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig os nad yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£5,425; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £3,575 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y ceisydd.

(4Uchafswm y grant newydd at ffioedd sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i fyfyriwr carfan 2012 os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£2,720; neu

(b)y gwahaniaeth rhwng £1,780 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y ceisydd.