Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

(Rheoliad 10)

YR ATODLENBuddiannau ariannol a buddiannau penodedig eraill sy'n gwrthdaro

Buddiannau ariannol

1.—(1At ddibenion rheoliad 10, mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—

(a)lle y cafodd person perthnasol ei enwebu neu ei benodi i swydd fel aelod o gorff addysg sy'n cydlafurio gan berson y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir ei wneud gydag ef;

(b)lle y mae'r person perthnasol yn bartner i berson, neu o dan gyflogaeth person y gwnaed y contract gydag ef neu berson y bwriedir gwneud y contract gydag ef; neu

(c)lle y mae perthynas i berson perthnasol (gan gynnwys ei briod neu ei bartner sifil o fewn ystyr Deddf Partneriaeth Sifil 2004(1) neu rywun sy'n byw gyda'r person hwnnw fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil i'r person), yn meddu, neu lle y byddai'n cael ei drin fel un sy'n meddu, ar fuddiant o'r fath, a bod hynny'n hysbys i'r person perthnasol hwnnw.

(2At ddibenion rheoliad 10, nid yw person perthnasol i'w drin fel un sydd â buddiant ariannol yn unrhyw fater—

(a)ar yr amod nad yw ei fuddiant yn y mater ddim mwy na buddiant y rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu talu i weithio i'r corff addysg sy'n cydlafurio;

(b)dim ond oherwydd y ffaith yr enwebwyd neu y penodwyd y person i swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, ei fod yn aelod o gorff o'r fath neu'n cael ei gyflogi gan gorff o'r fath; neu

(c)dim ond oherwydd y ffaith ei fod yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall, os nad oes gan y person hwnnw unrhyw fuddiant ariannol o bwys mewn unrhyw warantau yn y gorfforaeth honno neu'r corff arall hwnnw.

(3Nid oes rhwystr i aelodau o'r cyd-bwyllgor, oherwydd eu buddiant ariannol yn y mater, rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion i un neu fwy o'r cyrff addysg sy'n cydlafurio i drefnu yswiriant sy'n diogelu eu haelodau rhag atebolrwyddau a berir ganddynt ac a fyddai'n codi o'u swyddi ac ni fydd corff addysg sy'n cydlafurio, oherwydd buddiant ariannol ei aelodau, yn cael ei rwystro rhag sicrhau yswiriant o'r fath a thalu'r premiymau.

Penodi aelod o'r cyd-bwyllgor, cadeirydd neu glerc

2.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth yw—

(a)penodiad y person ei hun, ei ailbenodi, neu ei symud o'i swydd fel aelod o'r cyd-bwyllgor;

(b)penodiad y person ei hun neu ei symud o'i swydd fel clerc, neu gadeirydd, y cyd-bwyllgor; neu

(c)os yw'r person hwnnw yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir neu baragraff 2 o Atodlen 5 i'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir o ran y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwyr-lywodraethwyr.

(2Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid ymdrin â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 10(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff addysg sy'n cydlafurio.

Talu neu arfarnu personau sy'n gweithio i un o'r cyrff addysg sy'n cydlafurio

3.—(1Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, sy'n cael ei dalu i weithio i gorff addysg sy'n cydlafurio, ac eithrio fel pennaeth neu benadur, yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw cyflog neu arfarniad o berfformiad unrhyw berson penodol sy'n cael ei gyflogi i weithio i gorff addysg sy'n cydlafurio.

(2Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth neu benadur corff addysg sy'n cydlafurio yn bresennol mewn cyfarfod o'r cyd-bwyllgor a'r pwnc o dan ystyriaeth ynddo yw ei gyflog ef ei hun neu arfarniad o'i berfformiad ef ei hun.

(3Yn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid ymdrin â buddiannau'r person perthnasol at ddibenion rheoliad 10(2) fel rhai sy'n gwrthdaro â buddiannau'r cyrff addysg sy'n cydlafurio.

Personau sy'n aelodau o fwy nag un corff addysg sy'n cydlafurio

4.  Nid yw'r ffaith bod person yn aelod o gyd-bwyllgor corff addysg sy'n cydlafurio ar gyfer mwy nag un ysgol neu gorff addysg bellach o dan unrhyw amgylchiadau i'w ystyried yn fuddiant sy'n gwrthdaro at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill