Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

RHAN 2Marchnata hadau nad ydynt yn cydymffurfio ag Atodlen 2

Hadau â datganiad egino is

4.—(1Ceir marchnata hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol sydd â chanran safon egino lleiaf sy'n is na'r hyn sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r hadau hynny a bennir yn Atodlen 2, ar yr amod bod y cyflenwr yn gwarantu canran egino lleiaf benodol.

(2Rhaid datgan yr egino ar y label swyddogol ynghyd ag enw a chyfeiriad y cyflenwr a rhif cyfeirnod y lot hadau.

Symud hadau yn gynnar

5.—(1Er mwyn sicrhau bod hadau ar gael yn gynnar, ceir marchnata hadau cyn-sylfaenol, sylfaenol ac ardystiedig cyn cael y canlyniad swyddogol ynglŷn â'r egino—

(a)os dyroddwyd adroddiad prawf hadau o dan y Rheoliadau hyn sy'n dynodi bod yr hadau wedi cyrraedd y safon purdeb dadansoddol ofynnol lleiaf a nodir yn y Gyfarwyddeb mewn perthynas â'r hadau hynny a bennir yn Atodlen 2, a

(b)os yw'r cyflenwr yn gwarantu'r egino lleiaf ar gyfer yr hadau hynny.

(2Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys yn achos hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad.

Profion tetrasoliwm ar gyfer hadau ŷd

6.  Ceir marchnata hadau ŷd os cynhaliwyd prawf tetrasoliwm arnynt a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i ganfod hyfywedd yr hadau, yn lle'r profion a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd(1).

Marchnata hadau o amrywogaethau cadwraeth

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau amrywogaeth gadwraeth yn unol â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i'r hadau fod yn hadau amrywogaeth a restrwyd fel amrywogaeth gadwraeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.

(3Rhaid cynhyrchu'r hadau o gnwd a dyfir yn y rhanbarth a bennir fel tarddle'r amrywogaeth yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu fel yr awdurdodir gan Weinidogion Cymru.

(4Ni cheir marchnata a defnyddio'r hadau ac eithrio yn y rhanbarth a ddatgenir fel y tarddle.

(5Rhaid cyfyngu ar gyfanswm yr hadau sy'n cael eu marchnata mewn unrhyw un flwyddyn yn unol ag Erthygl 14 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/62/EC(2) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth amaethyddol) ac Erthygl 15 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno(3) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau cadwraeth o lysiau).

(6Ac eithrio yn achos hadau amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn a wiriwyd fel hadau safonol, rhaid i'r hadau fod yn ddisgynyddion hadau a gynhyrchwyd yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth.

(7Yn achos hadau betys, hadau ŷd, hadau planhigion porthiant a hadau olew a ffibr, rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC(4) (hadau betys), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (hadau ŷd), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC(5) (hadau planhigion porthiant) neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC(6) (hadau planhigion olew a ffibr) (yn ôl fe y digwydd), ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio.

(8Rhaid i hadau llysiau gydymffurfio ag—

(a)y gofynion ar gyfer ardystio hadau ardystiedig, a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(7) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol ac archwilio; neu

(b)y gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yn y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.

(9Rhaid i burdeb amrywogaethol hadau amrywogaeth gadwraeth fod yn ddigonol.

(10Rhaid peidio â gwerthu'r hadau fel hadau rhydd o dan baragraff 26 o Atodlen 3.

(11Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ychwanegol at gydymffurfio â darpariaethau cymwys y paragraff o Ran 4 o Atodlen 3 sy'n gymwys i'r math o hadau dan sylw (ac eithrio'r darpariaethau sy'n pennu lliw'r label)—

(a)yn cynnwys—

(i)yn achos amrywogaeth gadwraeth amaethyddol, y geiriau “conservation variety”, neu

(ii)yn achos amrywogaeth gadwraeth o lysieuyn, y geiriau “certified seed of a conservation variety” neu “standard seed of a conservation variety”;

(b)yn datgan rhanbarth y tarddiad; ac

(c)o liw brown.

(12Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(8).

Marchnata cymysgeddau cadwraeth sy'n cynnwys hadau porthiant anardystiedig

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata cymysgeddau cadwraeth yn unol â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i gais am awdurdodiad gael ei wneud gan y cynhyrchwr, a rhaid i'r cais gynnwys—

(a)yr wybodaeth a restrir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 4(3) o'r Gyfarwyddeb honno, a

(b)pa bynnag wybodaeth arall a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru i wirio cydymffurfiaeth ag Erthygl 5 o'r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol) ac Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfir fel cnwd).

(3O ran awdurdodiad—

(a)ni cheir ei roi oni fydd y cymysgedd cadwraeth yn cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU (yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol) neu Erthygl 6 o'r Gyfarwyddeb honno (yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfir fel cnwd),

(b)ni cheir ei roi ac eithrio ar gyfer marchnata cymysgedd cadwraeth yn rhanbarth ei darddiad, fel y'i penderfynir gan Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU,

(c)ni cheir ei roi ar gyfer cymysgedd cadwraeth sy'n cynnwys amrywogaeth gadwraeth onid yw'r amrywogaeth honno'n cydymffurfio â gofynion paragraff 7, is-baragraffau (1) i (7), (9) a (10); ac

(ch)rhaid iddo bennu'r materion a restrir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU, fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 4(3) o'r Gyfarwyddeb honno.

(4Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr pinc neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn hytrach na chynnwys yr wybodaeth labelu ar gyfer cymysgeddau o hadau a bennir yn Atodlen 3, yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)y geiriau “EU rules and standards”;

(b)enw a chyfeiriad, neu farc adnabod, y person sy'n gosod y labeli;

(c)y dull o gynaeafu;

(ch)blwyddyn y selio, a fynegir fel “sealed...” (blwyddyn);

(d)rhanbarth y tarddiad;

(dd)yr ardal ffynhonnell;

(e) y safle casglu;

(f)y math o gynefin yn y safle casglu;

(ff)y geiriau “preservation seed mixture”;

(g)rhif cyfeirnod y lot, a roddwyd gan y person a osododd y labeli;

(ng)yn achos cymysgeddau cadwraeth a dyfwyd fel cnwd—

(i)y ganran yn ôl pwysau o'r cydrannau fesul rhywogaeth, a phan fo'n berthnasol, fesul is-rywogaeth;

(ii)y gyfradd egino benodol ar gyfer y cydrannau hadau porthiant yn y cymysgedd nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion egino a bennir ym mharagraff 28(2) o Atodlen 2 (ac eithrio pan fo'r cymysgedd yn cynnwys mwy na phump o gydrannau hadau porthiant o'r fath, ac os felly, ceir defnyddio'r gyfradd egino gyfartalog ar gyfer y cydrannau hynny);

(h)yn achos cymysgeddau cadwraeth a gynaeafir yn uniongyrchol, y ganran yn ôl pwysau, fel rhywogaeth a phan fo'n berthnasol, fel is-rywogaeth, o'r cydrannau hynny sy'n nodweddiadol o'r math o gynefin yn y safle casglu ac sydd, fel cydrannau o'r cymysgedd, yn bwysig o ran diogelu'r amgylchedd naturiol yng nghyd-destun cadwraeth yr adnoddau genetig;

(i)y pwysau net neu gros datganedig; ac

(l)os defnyddir plaleiddiaid gronynnog, sylweddau pelennu neu ychwanegion solid eraill, natur yr ychwanegyn a hefyd bras amcan o'r gymhareb rhwng pwysau'r clystyrau neu'r hadau pur a chyfanswm y pwysau.

(5Rhaid i gyfanswm pwysau'r hadau yr awdurdodir eu marchnata bob blwyddyn beidio â bod yn fwy na 5% o gyfanswm pwysau'r cymysgeddau hadau porthiant sy'n cael eu marchnata yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr un flwyddyn.

(6Yn y paragraff hwn, mae i “amrywogaeth gadwraeth” yr ystyr a roddir i “conservation variety” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001.

(7Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2010/60/EU yr un ystyron yn y paragraff hwn ag sydd i'r cyfystyron hynny yn y Gyfarwyddeb honno.

Marchnata amrywogaethau anrhestredig (ac eithrio hadau llysiau) ar gyfer profion a threialon

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau pan fo cais i'w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig wedi ei gyflwyno, ond hyd hynny heb ei ganiatáu.

(2Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hadau llysiau (ymdrinnir â hadau llysiau yn y paragraff dilynol).

(3Rhaid i geisydd fod yn gynhyrchwr sefydledig yng Nghymru.

(4Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy.

(5Bydd awdurdodiad yn annilys unwaith yr ychwanegir yr amrywogaeth at Restr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu y tynnir y cais i'w rhestru yn ôl neu y gwrthodir y cais.

(6Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio'r person a gyflwynodd gais am gofnodi'r amrywogaethau dan sylw yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.

(7Ni cheir rhoi awdurdodiad ac eithrio ar gyfer cynnal profion neu dreialon mewn mentrau amaethyddol, er mwyn casglu gwybodaeth ynglŷn â thyfu neu ddefnyddio'r amrywogaeth.

(8Rhaid i'r meintiau a awdurdodir ar gyfer pob amrywogaeth beidio â bod yn fwy na'r canrannau canlynol o hadau o'r un rhywogaeth a ddefnyddir yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig—

(a)yn achos gwenith caled: 0.05 %,

(b)yn achos pys maes, ffa maes, ceirch, haidd a gwenith: 0.3 %,

(c)ym mhob achos arall: 0.1 %,

ac eithrio, os yw meintiau o'r fath yn annigonol ar gyfer hau 10 hectar, ceir awdurdodi'r maint sydd ei angen ar gyfer arwynebedd o'r fath.

(9Rhaid i hadau porthiant gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—

(a)hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio pys maes a ffa maes); neu

(b)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (pys maes a ffa maes).

(10Rhaid i hadau ŷd gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—

(a)hadau ardystiedig (rhyg, indrawn a hybridiau o geirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen a rhygwenith ac eithrio amrywogaethau hunanbeilliol); neu

(b)hadau ardystiedig, ail genhedlaeth ceirch a cheirch coch, haidd, gwenith, gwenith caled, gwenith yr Almaen ac amrywogaethau hunanbeilliol o rygwenith, ac eithrio hybridiau ym mhob achos.

(11Rhaid i hadau betys gydymffurfio â'r amodau ar gyfer hadau ardystiedig.

(12Rhaid i hadau planhigion olew a ffibr gydymffurfio â'r amodau ar gyfer—

(a)hadau ardystiedig (pob rhywogaeth ac eithrio llin a had llin);

(b)hadau ardystiedig, ail a thrydedd genhedlaeth (llin a had llin).

(13Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “variety not yet officially listed; for tests and trials only” a phan fo'n gymwys “genetically modified variety” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn.

Marchnata amrywogaethau anrhestredig o hadau llysiau

10.—(1At y diben o gasglu gwybodaeth a phrofiad ymarferol o amrywogaeth yn ystod y cyfnod tyfu, caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau llysiau nad ydynt wedi eu rhestru yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, ar yr amod bod cais wedi ei wneud i'w cofnodi yn Rhestr Genedlaethol un Aelod-wladwriaeth o leiaf.

(2Mae awdurdodiad yn ddilys am un flwyddyn ac yn adnewyddadwy ddwywaith am gyfnod na fydd yn hwy nag un flwyddyn yn dilyn pob adnewyddiad.

(3Nid oes cyfyngiadau meintiol ar y meintiau y ceir eu hawdurdodi.

(4Ni chaiff neb ofyn am awdurdodiad ac eithrio'r person a gyflwynodd gais am gofnodi'r amrywogaethau dan sylw yn y Rhestr Genedlaethol berthnasol.

(5Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, ac y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “Variety not yet officially listed” yn ychwanegol at y gofynion labelu eraill yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio nad oes raid i enw'r awdurdod sy'n ardystio ymddangos, nac ychwaith wlad y tarddiad).

(6Rhaid i'r person sy'n marchnata'r hadau—

(a)dal gafael mewn sampl o bob lot hadau sy'n cael ei farchnata, a'i chadw am ddwy flynedd o leiaf;

(b)cofnodi, ar gyfer pob gwerthiant, enw a chyfeiriad y prynwr, a chadw'r cofnod am dair blynedd o leiaf.

Marchnata at ddibenion gwyddonol neu ddethol

11.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi cynhyrchwr i roi ar y farchnad feintiau bach o hadau (ac eithrio hadau llysiau) at ddibenion gwyddonol neu ddethol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi awdurdodiad pa un a yw'r amrywogaeth wedi ei rhestru yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin ai peidio.

(3Rhaid i geisydd am awdurdodiad fod yn gynhyrchwr sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru.

(4Rhaid labelu'r pecyn gyda label oren, ac y mae'n rhaid iddo gynnwys y geiriau “Variety not yet officially listed” (os yw hynny'n wir) yn ychwanegol at ofynion labelu eraill y Rheoliadau hyn.

(5Rhaid i'r person sy'n marchnata'r hadau—

(a)dal gafael mewn sampl o bob lot hadau sy'n cael ei farchnata, a'i chadw am ddwy flynedd o leiaf;

(b)cofnodi, ar gyfer pob gwerthiant, enw a chyfeiriad y prynwr, a chadw'r cofnod am dair blynedd o leiaf.

Cyfyngiadau mewn perthynas â hadau a addaswyd yn enetig

12.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru ganiatáu awdurdodiad o dan baragraffau 8 i 11 mewn perthynas â hadau amrywogaeth a addaswyd yn enetig, ac eithrio pan fo marchnata a gollwng y deunydd a addaswyd yn enetig gan y ceisydd ar gyfer ei dyfu wedi ei awdurdodi o dan naill ai—

(a)Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ar ollwng i'r amgylchedd yn fwriadol organebau a addaswyd yn enetig(9)), neu

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 (ar fwyd a phorthiant a addaswyd yn enetig(10)).

Marchnata hadau a fewnforiwyd sydd i'w labelu fel HVS

13.—(1Ceir marchnata hadau a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall, neu mewn trydedd wlad, fel hadau sy'n cyrraedd safon wirfoddol uwch yn unol â'r paragraff hwn.

(2Rhaid cyflwyno sampl i Weinidogion Cymru i'w brofi, ac os bodlonir Gweinidogion Cymru bod y sampl yn cyrraedd y safon wirfoddol uwch, rhaid iddynt ddyroddi tystysgrif sy'n cadarnhau hynny.

(3Rhaid ail-labelu'r hadau gan ddefnyddio—

(a)label swyddogol a ddyroddir gan Weinidogion Cymru os yw'r hadau yn dod o Aelod-wladwriaeth arall, neu

(b)label y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) os yw'r hadau yn dod o drydedd wlad,

ac yn y ddau achos, rhaid datgan ar y label enw'r wlad y cynhyrchwyd yr hadau ynddi.

(4Yn achos hadau a fewnforir tra'n aros i'w cynnwys yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig, neu hadau nas ardystiwyd yn derfynol yn y wlad lle'u cynhyrchwyd, ceir gwirio eu bod yn cyrraedd y safon wirfoddol uwch ac yna eu hailraddio, ar ôl eu rhestru neu'u hardystio'n derfynol.

Marchnata hadau a ardystiwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall

14.  Ceir marchnata hadau a ardystiwyd yn llawn ac a labelwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall heb unrhyw ardystiad pellach o dan y Rheoliadau hyn.

Marchnata hadau o amrywogaethau llysiau amatur

15.—(1Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi marchnata hadau o amrywogaeth llysiau amatur yn unol â'r paragraff hwn.

(2Rhaid i'r hadau fod o amrywogaeth a restrir fel amrywogaeth o lysiau amatur yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig.

(3Rhaid i'r hadau gydymffurfio â'r gofynion ar gyfer marchnata hadau safonol a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC(11) ar farchnata hadau llysiau, ac eithrio'r gofynion mewn perthynas â phurdeb amrywogaethol minimol.

(4Rhaid i'r hadau fod â phurdeb amrywogaethol digonol.

(5Rhaid marchnata'r hadau mewn pecynnau bach nad yw eu pwysau net yn fwy na'r pwysau net a bennir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/145/EC(12) (sy'n ymwneud ag amrywogaethau llysiau amatur).

(6Rhaid labelu'r hadau gyda label cyflenwr neu hysbysiad printiedig neu stampiedig sydd, yn ogystal â chydymffurfio â darpariaethau cymwys paragraff 25 o Atodlen 3, yn cynnwys y geiriau “amateur variety”.

(7Yn y rheoliad hwn, mae i “amrywogaeth llysiau amatur” yr ystyr a roddir i “amateur vegetable variety” gan reoliad 5A(5) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001(13).

(1)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(2)

OJ Rhif L 162, 21.6.2008, t.13.

(3)

OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t.44.

(4)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t. 18).

(5)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.

(6)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.

(7)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC.

(8)

O.S. 2001/3510; mewnosodwyd y diffiniad o “conservation variety” gan O.S. 2009/1273 ac amnewidiwyd gan O.S. 2011/464.

(9)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(10)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).

(11)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).

(12)

OJ Rhif L 312, 27.11.2009, t. 44.

(13)

O.S. 2001/3510; mewnosodwyd rheoliad 5A gan O.S. 2011/464.