xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2Gofynion ardystio

RHAN 5Llysiau

Cwmpas Rhan 5

44.  Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r mathau o lysiau yn Atodlen 1.

Mathau a ganiateir o hadau llysiau

45.  Rhaid i hadau llysiau fod yn—

(a)hadau cyn-sylfaenol;

(b)hadau sylfaenol; neu

(c)hadau ardystiedig; neu

(ch)hadau safonol.

(2Caiff yr hadau fod yn gymysgedd o wahanol amrywogaethau o'r un rhywogaeth o lysiau, ar yr amod bod pob amrywogaeth yn y cymysgedd yn hadau safonol.

Ystyr “hadau cyn-sylfaenol”

46.  Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—

(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;

(ii)hadau sylfaenol; neu

(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.

Ystyr “hadau sylfaenol”

47.—(1Hadau sylfaenol yw hadau—

(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth;

(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.

(2Er mwyn osgoi amheuaeth, mae hyn yn cynnwys hadau y bwriedir iddynt fod yn gydran o amrywogaeth hybrid o lysieuyn.

Ystyr “hadau ardystiedig”

48.  Hadau ardystiedig yw hadau—

(a)sydd wedi eu cynhyrchu'n uniongyrchol o hadau sylfaenol neu, os gofynnir felly gan y bridiwr, o genhedlaeth gynharach na hadau sylfaenol sy'n bodloni'r amodau ar gyfer hadau sylfaenol;

(b)a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau.

Ystyr “hadau safonol”

49.  Hadau safonol yw hadau a fwriedir yn bennaf ar gyfer cynhyrchu llysiau, ac sydd wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru fel hadau sydd â phurdeb amrywogaethol a hunaniaeth amrywogaethol digonol.

Gofynion cnydau a hadau

50.—(1Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(4)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(1) ac Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.

(2Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 25 o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad III iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos hadau safonol.

(4Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.

(5Ar ôl eu marchnata, mae hadau llysiau yn ddarostyngedig i reolaeth gan Weinidogion Cymru, o ran hunaniaeth amrywogaethol a phurdeb amrywogaethol.

(1)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/74/EC (OJ Rhif L 166, 27.6.2009, t. 40).