xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Mae'r Rhan hon yn rheoleiddio'r math o fetys yn Atodlen 1.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr “hadau uneginol” (“monogerm seed”) yw hadau sy'n uneginol yn enetig; a
(b)“hadau trachywir” (“precision seed”) yw hadau a baratowyd i'w defnyddio mewn heuwr trachywir i gynhyrchu eginblanhigion sengl.
3. Rhaid i hadau betys fod yn—
(a)hadau cyn-sylfaenol;
(b)hadau sylfaenol; neu
(c)hadau ardystiedig.
4. Hadau cyn-sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o genhedlaeth gynharach na hadau cyn-sylfaenol gan, neu o dan gyfrifoldeb, y bridiwr, yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu—
(i)rhagor o hadau cyn-sylfaenol;
(ii)hadau sylfaenol; neu
(iii)gydag awdurdod ysgrifenedig y bridiwr, hadau ardystiedig.
5. Hadau sylfaenol yw hadau—
(a)a gynhyrchwyd o dan gyfrifoldeb y bridiwr yn unol ag arferion a ddiffiniwyd yn eglur ar gyfer cynnal yr amrywogaeth; a
(b)a fwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau ardystiedig.
6. Hadau ardystiedig yw hadau sy'n ddisgynyddion uniongyrchol hadau sylfaenol ac a fwriedir ar gyfer cynhyrchu betys.
7.—(1) Rhaid i archwiliadau o'r cnydau gan arolygwyr cnydau swyddogol neu drwyddedig gael eu cynnal yn unol ag Erthygl 2(3)(A) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/54/EC ar farchnata hadau betys(1) ac Atodiad I(A) i'r Gyfarwyddeb honno, a rhaid i'r cnwd fodloni'r amodau yn yr Atodiad hwnnw.
(2) Rhaid i'r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gael eu samplu yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb honno ac Atodiad II iddi, a rhaid iddynt fodloni'r amodau yn Atodiad I(B) i'r Gyfarwyddeb honno.
(3) Rhaid i'r hadau gael eu labelu yn unol ag Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno.
(4) Rhaid i'r cynnwys lleithedd mwyaf beidio â bod yn fwy na 15% yn ôl pwysau.
(5) Rhaid i glefydau ac organebau niweidiol sy'n lleihau defnyddioldeb yr hadau fod ar y lefel isaf bosibl.
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2004/117/EC (OJ Rhif L 14, 18.1.2005, t.18).