xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Gweinyddu a dirymiadau

Tynnu ardystiad yn ôl

23.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dynnu ardystiad yn ôl oddi ar unrhyw hadau os bodlonir hwy—

(a)bod yr hadau, neu'r hadau y tyfwyd ohonynt y cnwd a gynhyrchodd yr hadau, wedi eu samplu yn anghywir;

(b)nad oedd y cnwd y cynaeafwyd yr hadau ohono yn bodloni'r amodau yn Atodlen 2; neu

(c)nad oedd yr hadau—

(i)yn bodloni'r amodau yn Atodlen 2 pan brofwyd hwy; neu

(ii)nad ydynt bellach yn bodloni'r amodau hynny.

(2Os tynnir ardystiad yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd.

(3O fewn 7 diwrnod ar ôl ei hysbysu, rhaid i'r ceisydd hysbysu unrhyw berson y gwerthwyd neu y cyflenwyd yr hadau iddo.

Samplu at ddibenion gorfodi

24.—(1Rhaid i sampl o hadau a gymerir at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn gael ei gymryd gan swyddog awdurdodedig Gweinidogion Cymru, a rhaid iddo rannu'r sampl yn dair rhan.

(2Rhaid rhoi un rhan i berchennog yr hadau (neu gynrychiolydd y perchennog) a rhaid anfon y ddwy ran arall i orsaf brofi swyddogol, un ar gyfer profi a'r llall i'w chadw hyd nes ei dangos gerbron llys yn unol ag adran 26(7) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(1).

Ffurfiau tystysgrifau a ddefnyddir ar gyfer gorfodi

25.—(1At ddibenion adran 26(3) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o'r modd y cymerwyd sampl at y diben o orfodi'r Rheoliadau hyn—

(a)cyfeirio at y Rheoliadau hyn, ac ardystio bod y sampl wedi ei gymryd a'i drin yn unol â rheoliad 24;

(b)pennu—

(i)enw a chyfeiriad y person a gymerodd y sampl;

(ii)y fangre lle y cymerwyd y sampl;

(iii)y math o hadau a samplwyd;

(iv)y dyddiad y cymerwyd y sampl;

(v)rhif cyfeirnod y lot o hadau;

(vi)y maint a samplwyd.

(2At ddibenion adran 24(5) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, rhaid i dystysgrif o ganlyniad prawf a wnaed mewn gorsaf brofi hadau swyddogol, ar sampl a gymerwyd gan swyddog awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno—

(a)cyfeirio at y Rheoliadau hyn;

(b)enwi'r hadau a brofwyd;

(c)cynnwys yr holl ganlyniadau prawf mewn perthynas â'r safon ofynnol ar gyfer yr hadau hynny.

Ardystio ar gyfer allforio

26.  Caiff Gweinidogion Cymru ardystio ansawdd unrhyw hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.

Mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

27.—(1Rhaid labelu hadau a fewnforir o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gyda label a gymeradwyir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd(2) ar gyfer yr ardystiad amrywogaethol ar reolaeth hadau a symudir mewn masnach ryngwladol.

(2Os bwriedir lluosi'r hadau ymhellach, rhaid i'r person sy'n bwriadu eu lluosi gyflwyno sampl i Weinidogion Cymru yn gyntaf, ar gyfer ei wirio.

(3Rhaid i berson sy'n marchnata hadau a fewnforiwyd o drydedd wlad ac sydd â'u pwysau'n fwy na dau gilogram, gyflenwi i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen ac o fewn un mis ar ôl marchnata'r hadau am y tro cyntaf, y manylion canlynol ynglŷn â'r hadau—

(a)y rhywogaeth;

(b)yr amrywogaeth;

(c)y categori;

(ch)y wlad lle'u cynhyrchwyd a'r awdurdod archwilio swyddogol;

(d)y wlad y'u hanfonwyd ohoni;

(dd)y mewnforiwr; ac

(e)y maint o hadau.

Apelau

28.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan Weinidogion Cymru i—

(a)amrywio, atal dros dro, dirymu neu wrthod caniatáu trwydded arolygydd cnydau, samplwr hadau, gorsaf brofi hadau, neu berson y mae arno angen trwydded o dan reoliad 20,

(b)gwrthod ardystio hadau,

(c)tynnu ardystiad hadau yn ôl,

o fewn 21 diwrnod ar ôl ei hysbysu o'r penderfyniad, apelio yn erbyn y penderfyniad, i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i'r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan Weinidogion Cymru, a chyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod ynghyd ag argymhelliad ar sut i weithredu.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru wedyn wneud penderfyniad terfynol a hysbysu'r apelydd, ynghyd â'r rhesymau.

Ffioedd

29.  Caiff Gweinidogion Cymru godi ffi resymol am unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn.

Marchnata hadau o dan randdirymiad penodol

30.  Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 217/2006 sy'n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Cyfarwyddebau'r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 2002/54/EC, 2002/55/EC a 2002/57/EC mewn perthynas ag awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ganiatáu dros dro farchnata hadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion o ran yr egino lleiaf(3).

Cyfrinachedd

31.  Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â datgelu'r disgrifiad o gydrannau achyddol hadau, os yw bridiwr yr hadau yn gofyn iddynt beidio â'i ddatgelu.

Trwyddedu ac ardystio mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig

32.—(1Ceir marchnata yng Nghymru unrhyw hadau a ardystiwyd mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig.

(2Caiff arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a drwyddedwyd i weithredu fel y cyfryw mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.

Darpariaethau trosiannol

33.—(1Mae arolygydd cnydau, samplwr hadau neu orsaf brofi hadau a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(4) yn parhau wedi ei drwyddedu neu ei thrwyddedu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn.

(2Mae person y mae'n ofynnol iddo fod yn drwyddedig o dan reoliad 20 o'r Rheoliadau hyn, ac a oedd, ar yr adeg y daeth y Rheoliadau hyn i rym, yn drwyddedig o dan Reoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005, yn awr yn drwyddedig i weithredu fel y cyfryw o dan y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i ba bynnag amodau a hysbysir gan Weinidogion Cymru, a bydd yn parhau'n drwyddedig oni chaiff y drwydded ei hatal dros dro neu'i dirymu'n ddiweddarach gan Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn.

Dirymu

34.  Dirymir y Rheoliadau canlynol—

(a)Rheoliadau Hadau Planhigion Olew a Ffibr (Cymru) 2004(5);

(b)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) 2005(6);

(c)Rheoliadau Hadau ŷd (Cymru) 2005(7);

(ch)Rheoliadau Hadau Betys (Cymru) 2005(8);

(d)Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) 2005(9);

(dd)Rheoliadau Hadau (Cofrestru, Trwyddedu a Gorfodi) (Cymru) 2005(10);

(e)Rheoliadau Hadau ŷd (Cymru) a Hadau Planhigion Porthiant (Cymru) (Diwygio) 2006(11);

(f)Rheoliadau Hadau (Cymru) (Diwygiadau ar gyfer Cynnal Profion a Threialu etc.) 2007(12);

(ff)Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywogaethau Cadwraeth) (Cymru) 2009(13);

(g)Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2010(14);

(ng)Rheoliadau Hadau Llysiau (Cymru) (Diwygio) 2011(15).

(2)

Mae manylion am y labeli hyn ar gael ar wefan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

(3)

OJ Rhif L 38, 9.2.2006, t. 17.