Dehongli
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “asedau'r Sefydliad” (“the Foundation assets”) yw'r asedau sy'n cynrychioli'r Gwaddol ar hyn o bryd;
ystyr “yr Esgobaeth” (“the Diocese”) yw Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, a rhaid dehongli “yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol” (“the Diocesan Trust”) yn unol â hynny;
ystyr “y Gwaddol” (“the Endowment”) yw'r gwaddol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu;
ystyr “y Sefydliad” (“the Foundation”) yw'r sefydliad addysgol a adwaenid fel Sefydliad Ysgol Llandeglau (a adwaenid yn ddiweddarach fel Neuadd Bentref Llandeglau) a sefydlwyd gan y weithred Sefydlu;
ystyr “y weithred Sefydlu” (“the Founding deed”) yw'r weithred dyddiedig 11 March 1869 ac y credir iddi gael ei gwneud rhwng tenantiaid y clastir rheithorol a pherchnogion degymau i Reithor, Ficer a Wardeiniaid Eglwys Llandeglau;
mae i “ysgol sefydledig” (“foundation school”) yr ystyr a roddir i “foundation school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1); ac y
mae i “ysgol wirfoddol” (“voluntary school”) yr ystyr a roddir i “voluntary school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.