xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirwyn i ben y trefniadau trosiannol a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn Rhif 4”) mewn perthynas â Chyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”).

O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pen draw at fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Cyngor oddi ar yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly'n gosod y Cyngor o dan ddyletswydd i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.

Mae erthygl 6 o Orchymyn Rhif 4 wedi ei dirymu oherwydd bod pob awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru bellach wedi rhoi hysbysiad o'i fwriad i beidio ag arfer ei bwerau o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu) 1991 (O.S. 1991/2794) mwyach.