Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2012

Diwygio

8.  Yn rheoliad 25—

(a)ar ôl y geiriau “myfyrwyr anabl” ym mharagraff (13) mewnosoder “sy'n daladwy mewn cysylltiad â chwrs dynodedig sy'n dechrau cyn 1 Medi 2012”; a

(b)ar ôl paragraff (15) mewnosoder—

(16) Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw grant o dan y Rhan hon ac eithrio grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn unol â rheoliad 26.