xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 884 (Cy.128)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011

Gwnaed

21 Mawrth 2011

Yn dod i rym

31 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 33, 34, 35, 36, 38, 39 a 47(5) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(4) o'r Ddeddf honno(3), gosodwyd copi drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004.

Cynnwys cynlluniau

3.  Rhaid i gynllun o dan adran 33(1) o Ddeddf 2004 osod amcanion y sefydliad, y penderfynwyd arnynt gan ei gorff llywodraethu, mewn perthynas â'r canlynol—

(a)hybu cyfle cyfartal; a

(b)hybu addysg uwch.

4.  Rhaid i gynllun gynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu'r sefydliad—

(a)ymgymryd â'r mesurau a nodir yn y cynllun er mwyn denu nifer fwy o geisiadau gan ddarpar fyfyrwyr sy'n aelodau o grwpiau nad oes cynrychiolaeth ddigonol iddynt mewn addysg uwch ar yr adeg y cymeradwyir y cynllun, neu sicrhau yr ymgymerir â'r mesurau hynny a nodir yn y cynllun;

(b)darparu cymorth ariannol a nodir yn y cynllun ar gyfer myfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs yn y sefydliad, neu sicrhau bod y cymorth ariannol hwnnw yn cael ei ddarparu;

(c)gwneud y trefniadau a nodir yn y cynllun i roi ar gael i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs yn y sefydliad a darpar fyfyrwyr sy'n dymuno ymgymryd â chwrs o'r fath wybodaeth ynghylch cymorth ariannol sydd ar gael iddynt o unrhyw ffynhonnell;

(ch)gwneud y trefniadau a nodir yn y cynllun i roi gwybod i unrhyw ddarpar fyfyriwr cyn i'r myfyriwr ymrwymo i ymgymryd â chwrs yn y sefydliad am swm agregedig y ffioedd y bydd y sefydliad yn eu codi am gwblhau'r cwrs;

(d)monitro, yn y dull a nodir yn y cynllun, gydymffurfiad y corff â darpariaethau'r cynllun a'r cynnydd y mae'n ei wneud tuag at gyflawni ei amcanion a nodir yn y cynllun yn unol â rheoliad 3; ac

(dd)darparu i'r awdurdod perthnasol(4) yr wybodaeth honno y mae'n rhesymol i'r awdurdod perthnasol ofyn amdani o bryd i'w gilydd.

Cymeradwyo cynlluniau

5.  Rhaid i'r awdurdod perthnasol arfer ei swyddogaethau'n unol â'r weithdrefn a ganlyn os yw corff llywodraethu sefydliad yn gwneud cais i'r awdurdod perthnasol am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig:—

(a)rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i'r corff llywodraethu cyn pen cyfnod rhesymol o amser a yw'r awdurdod perthnasol yn cymeradwyo'r cynllun neu a yw â'i fryd ar beidio â chymeradwyo'r cynllun, gan roi rhesymau yn yr achos olaf hwn;

(b)os yw'r awdurdod perthnasol yn rhoi gwybod i'r corff llywodraethu o dan baragraff (a) ei fod â'i fryd ar beidio â chymeradwyo'r cynllun, rhaid iddo roi gwybod i'r corff llywodraethu y caiff, cyn pen cyfnod rhesymol o amser, wneud y naill neu'r llall neu'r naill a'r llall o'r canlynol—

(i)gwneud sylwadau i'r awdurdod perthnasol o ran pam y dylai'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r cynllun, neu

(ii)addasu'r cynllun;

(c)os yw'r corff llywodraethu'n gweithredu'n unol â pharagraff (b), rhaid i'r awdurdod perthnasol, cyn pen cyfnod rhesymol o amser, ystyried y sylwadau neu'r addasiadau (neu'r sylwadau a'r addasiadau) i'r cynllun ac, ar ôl iddo eu hystyried, roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw'n cymeradwyo'r cynllun ai peidio;

(ch)os nad yw'r corff llywodraethu'n gweithredu'n unol â pharagraff (b) cyn pen cyfnod rhesymol o amser, rhaid i'r awdurdod perthnasol, cyn pen cyfnod rhesymol pellach o amser, roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw'n cymeradwyo'r cynllun ai peidio.

6.  Wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â chymeradwyo cynllun, rhaid i'r awdurdod perthnasol roi sylw—

(a)i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch; a

(b)i ddymunoldeb amddiffyn rhyddid academaidd ac yn benodol ryddid sefydliadau i benderfynu—

(i)ar gynnwys cyrsiau penodol a'r modd y cânt eu haddysgu, eu goruchwylio neu eu hasesu;

(ii)ar y meini prawf ar gyfer derbyn myfyrwyr a phenderfynu i gymhwyso'r meini prawf hynny mewn achosion penodol.

7.  Os yw'r awdurdod perthnasol wedi cymeradwyo cynllun, rhaid i'r sefydliad ei gyhoeddi mewn dull sy'n ei wneud yn hwylus o hygyrch i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr.

Parhad cynlluniau

8.  Dwy flynedd yw'r cyfnod hwyaf o amser y caniateir i gynllun sydd wedi ei gymeradwyo fod mewn grym.

Amrywio cynlluniau

9.  Caiff y corff llywodraethu ar unrhyw adeg cyn pen y cyfnod y mae cynllun wedi ei gymeradwyo mewn grym wneud cais i'r awdurdod perthnasol am gymeradwyaeth i amrywiad ar y cynllun. Os bydd y corff llywodraethu'n gwneud cais, y weithdrefn fel a nodir yn rheoliadau 5, 6 a 7 yw'r weithdrefn i'w dilyn, fel pe rhoddid yn lle pob enghraifft o'r gair “cynllun” yn y rheoliadau hynny y gair “amrywiad” .

Gorfodi cynlluniau

10.—(1Yn y rheoliad hwn ystyr “gofyniad” yw gofyniad a bennir yn adran 28(1)(a) neu (c) o Ddeddf 2004.

(2Rhaid i'r awdurdod perthnasol weithredu'n unol â'r weithdrefn a ganlyn mewn cysylltiad â rhoi unrhyw hysbysiad o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004–

(a)os yw'r awdurdod perthnasol o'r farn y gall corff llywodraethu sefydliad fod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad, rhaid iddo roi gwybod i'r corff llywodraethu am y ffaith honno, gan nodi'r gofyniad yn benodol, a rhoi i'r corff llywodraethu gyfnod rhesymol o amser ar gyfer gwneud sylwadau;

(b)os yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen y cyfnod priodol, rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried y sylwadau ac, ar ôl eu hystyried, roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad, ac os felly, rhaid iddo nodi'r gofyniad yn benodol;

(c)os nad yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen y cyfnod priodol, rhaid i'r awdurdod perthnasol roi gwybod i'r corff llywodraethu a yw wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad, ac os felly, rhaid iddo nodi'r gofyniad yn benodol;

(ch)os yw'r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod wedi ei fodloni bod y corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio â gofyniad penodedig, caiff roi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod â'i fryd ar hysbysu'r corff llywodraethu o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004 y bydd yn gwrthod cymeradwyo, yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, gynllun newydd o dan adran 34 o Ddeddf 2004, pan ddaw'r cynllun presennol i ben;

(d)os yw'r awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu o dan baragraff (ch), rhaid iddo roi i'r corff llywodraethu gyfnod rhesymol o amser ar gyfer gwneud sylwadau ynghylch canlyniadau ariannol gwrthod cymeradwyo cynllun newydd;

(dd)os yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen y cyfnod priodol, rhaid i'r awdurdod perthnasol ystyried y sylwadau ac, ar ôl eu hystyried, os oedd yr awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod â'i fryd ar hysbysu'r corff llywodraethu o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004, rhaid iddo naill ai hysbysu'r corff llywodraethu felly neu roi gwybod i'r corff llywodraethu na fydd yn cyhoeddi hysbysiad o'r fath;

(e)os nad yw'r corff llywodraethu'n gwneud sylwadau cyn pen cyfnod rhesymol o amser, os oedd yr awdurdod perthnasol wedi rhoi gwybod i'r corff llywodraethu ei fod â'i fryd ar hysbysu'r corff llywodraethu o dan adran 38(1) o Ddeddf 2004, rhaid iddo naill ai hysbysu'r corff llywodraethu felly neu roi gwybod i'r corff llywodraethu na fydd yn cyhoeddi hysbysiad o'r fath.

(3Un flwyddyn yw'r cyfnod hwyaf a ragnodir at ddibenion hysbysiad a roddir yn unol ag adran 38(1) o Ddeddf 2004.

Adolygu penderfyniadau

11.  Mae unrhyw un neu ragor o'r penderfyniadau canlynol a wnaed gan yr awdurdod perthnasol yn cael effaith yn y lle cyntaf fel penderfyniad dros dro —

(a)unrhyw benderfyniad i gymeradwyo cynllun o dan reoliad 5(a) ac unrhyw benderfyniad i gymeradwyo neu i beidio â chymeradwyo cynllun o dan reoliad 5(c) neu (ch);

(b)unrhyw benderfyniad i gymeradwyo neu i beidio â chymeradwyo amrywiad o dan reoliad 9;

(c)unrhyw benderfyniad gorfodi o dan reoliad 10(2)(b), (c), (dd) neu (e).

12.  Caiff corff llywodraethu'r sefydliad wneud cais i berson neu banel o bersonau a benodir gan Weinidogion Cymru am adolygiad o benderfyniad dros dro a wnaed gan yr awdurdod perthnasol.

13.  Mae penderfyniad dros dro yn newid yn benderfyniad terfynol os yw'r corff llywodraethu'n rhoi gwybod i'r awdurdod perthnasol ei fod yn derbyn y penderfyniad dros dro neu os nad yw'r corff llywodraethu'n gwneud cais am adolygiad yn unol â rheoliad 12 cyn pen 40 o ddiwrnodau calendr ar ôl dyddiad y penderfyniad.

14.  Os yw'r corff llywodraethu'n gwneud cais am adolygiad o benderfyniad dros dro yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r awdurdod perthnasol ailystyried ei benderfyniad dros dro gan roi sylw i unrhyw argymhelliad a wnaed o ganlyniad i'r adolygiad a rhaid iddo gyhoeddi penderfyniad terfynol cyn pen cyfnod rhesymol o amser.

15.  Ar y seiliau canlynol y caniateir gwneud cais am adolygiad o benderfyniad dros dro—

(a)mae'r corff llywodraethu'n cyflwyno ffactor perthnasol i'w ystyried nad oedd wedi ei ddwyn i sylw'r awdurdod perthnasol o'r blaen am reswm da;

(b)mae'r corff llywodraethu o'r farn bod yr awdurdod perthnasol wedi diystyru ffactor perthnasol y dylai fod wedi ei ystyried; neu

(c)mae'r corff llywodraethu o'r farn bod y penderfyniad dros dro yn anghymesur yng ngoleuni'r holl ffeithiau perthnasol a gafodd eu hystyried gan yr awdurdod perthnasol.

16.  Y person neu'r panel o bersonau a benodwyd gan Weinidogion Cymru sydd i ymgymryd â'r adolygiad o'r penderfyniad dros dro.

17.  Wrth benodi'r person neu'r panel o bersonau rhaid i Weinidogion Cymru weithredu'n unol â'r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn Awst 2009.

18.  Caiff Gweinidogion Cymru dalu cydnabyddiaeth a lwfansau i unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 12.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

21 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi o ran Cymru amrywiol faterion sy'n ymwneud â chynlluniau fel y'u diffinnir yn adran 22 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”). Cynlluniau yw'r rhain a gyflwynir gan sefydliad perthnasol ac a gymeradwyir gan yr awdurdod perthnasol o ran Cymru cyn y caniateir i'r sefydliad godi ffioedd dysgu y mae eu swm yn fwy na'r swm sylfaenol. Rhagnodir y symiau sylfaenol ac uwch mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 28(6) o Ddeddf 2004. Person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30 o Ddeddf 2004 yw'r awdurdod perthnasol o ran Cymru.

Mae rheoliadau 3 a 4 yn nodi cynnwys gofynnol y cynlluniau. Mae rheoliad 5 yn nodi sut y mae swyddogaethau'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â chymeradwyo cynlluniau i'w harfer. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol roi sylw, pan fydd yn penderfynu ai i gymeradwyo cynllun ai peidio, i ddiogelu mynediad teg at addysg uwch ac i ddymunoldeb amddiffyn rhyddid academaidd. Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gyhoeddi cynlluniau wedi eu cymeradwyo. Mae rheoliad 8 yn pennu'r cyfnod hwyaf y mae cynllun i fod mewn grym. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer amrywio cynlluniau. Mae rheoliad 10 yn nodi'r weithdrefn ar gyfer gorfodi cynlluniau.

Mae rheoliadau 11 i 18 yn darparu ar gyfer adolygiad o benderfyniadau'r awdurdod perthnasol. Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniad gan yr awdurdod perthnasol fod yn un dros dro yn y lle cyntaf. Mae rheoliad 12 yn rhoi i sefydliadau yr hawl i wneud cais am adolygiad o'r penderfyniad dros dro. O dan reoliad 13, os na wneir cais am adolygiad cyn pen 40 o ddiwrnodau neu os bydd y sefydliad yn derbyn y penderfyniad dros dro, bydd y penderfyniad yn newid yn un terfynol. Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol ailystyried ei benderfyniad dros dro os gwneir cais am adolygiad. Mae rheoliad 15 yn rhagnodi ar ba seiliau y caniateir gwneud cais am yr adolygiad o benderfyniad dros dro. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer ymgymryd ag adolygiad gan berson neu banel a benodir gan Weinidogion Cymru. Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, pan fyddant yn penodi'r person neu'r panel, weithredu'n unol â'r cod ymarfer sy'n gymwys i benodiadau cyhoeddus. Mae rheoliad 18 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dalu treuliau i unrhyw berson neu banel a benodir ganddynt i ymgymryd ag adolygiad.

Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy'n gymwys i'r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2004 p.8. Diwygiwyd adrannau 34(1) a 38(4) gan baragraffau 31 a 33 o Atodlen 14 i Ddeddf Addysg 2005 (p.18).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'i cyfansoddwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38) a gynhwysir yn Rhan 3 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Mae swyddogaeth gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau yn rhinwedd adran 33(3) a 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 yn sylweddol yr un fath â'r swyddogaeth gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau yn rhinwedd adran 33(2) a 34 o'r Ddeddf honno, a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 47(4) yn darparu na chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud offeryn statudol sy'n cynnwys (naill ai ar eu pen eu hun neu ynghyd â darpariaethau eraill) reoliadau yn rhinwedd adran 33(2) neu 34 onid oes copi drafft o'r rheoliadau wedi ei osod gerbron dau Dŵr Senedd a'i gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad. Yn rhinwedd paragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), mae'r ddarpariaeth yn gymwys i arfer, gan Weinidogion Cymru, swyddogaeth gwneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o'r fath fel pe bai unrhyw gyfeiriad at y naill neu'r llall o ddau Dŵr Senedd yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi ei ddynodi fel yr awdurdod perthnasol o ran Cymru yn rhinwedd Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011 (OS 2011/658 (Cy.96)).