xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
49.—(1) Rhaid i bob corff cyfrifol sicrhau bod trefniadau wedi eu sefydlu ganddo i adolygu canlyniad unrhyw bryder a fu'n destun ymchwiliad o dan y Rheoliadau hyn, er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i unrhyw ddiffygion a ganfuwyd yn ystod yr ymchwiliad yn y modd y gweithredodd y corff cyfrifol neu ei ddarpariaeth o wasanaethau, drwy—
(a)gweithredu ynglŷn â'r diffygion; a
(b)monitro'r diffygion,
er mwyn sicrhau bod unrhyw wersi a ddysgwyd yn cael eu nodi a'u lledaenu ledled y corff hwnnw, i wella'r gwasanaethau a ddarperir ganddo ac atal diffygion o'r fath rhag digwydd eto.
(2) Cyfrifoldeb y person a ddynodir yn unol â rheoliad 6 yw gweithredu'r trefniadau sy'n ofynnol gan y Rhan hon.