- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau) 2011.
(2) Daw erthyglau 4, 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn i rym—
(a)at ddibenion trafodion sy'n rhagarweiniol i ethol cynghorwyr neu sy'n ymwneud ag ethol cynghorwyr ar 15 Hydref 2011;
(b)at bob diben arall, ar ddiwrnod cyffredin ethol cynghorwyr yn 2012.
(3) At bob diben arall, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2011, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Map A” (“Map A”), “Map B” (“Map B”), “Map C” (“Map C”), “Map D” (“Map D”), “Map E” (“Map E”), “Map F” (“Map F”), “Map G” (“Map G”), “Map H” (“Map H”), “Map I” (“Map I”), “Map J” (“Map J”), “Map K” (“Map K”), “Map L” (“Map L”), “Map M” (“Map M”), “Map N” (“Map N”), “Map O” (“Map O”), “Map P” (“Map P”), “Map Q” (“Map Q”) a “Map R” (“Map R”), yn eu tro yw 213 213 213 r mapiau sydd wedi 213 213 213 213 u marcio ag A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K, L, M, N, O, P, Q ac R yng Ngorchymyn Sir Benfro (Cymunedau) 2011 ac sydd wedi'u hadneuo yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu etholiadol, yw'r ardal honno fel y'i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu etholiadol, yw'r ardal honno fel y mae'n bodoli yn union cyn y diwrnod penodedig;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newid Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(1);
mae unrhyw gyfeiriad at adran etholiadol yn gyfeiriad at adran etholiadol o Sir Benfro; ac
os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dw 213 213 213 213 246 r neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i'w thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3. Gwneir newidiadau yn Sir Benfro yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
4.—(1) Mae cymunedau presennol Scleddau a Threcŵn wedi 213 213 213 213 246 213 213 u huno gan ffurfio cymuned newydd o'r enw Scleddau.
(2) Mae ardal y gymuned newydd wedi'i hamlinellu ar Fap A ag ymyl coch.
(3) Mae cynghorau cymuned Scleddau a Threcŵn wedi'u diddymu.
(4) Bydd cyngor i gymuned newydd Scleddau.
(5) Mae cymuned newydd Scleddau wedi'i rhannu yn dair ward sef—
(a)Gogledd Scleddau;
(b)De Scleddau; ac
(c)Trecŵn.
(6) Ffurfir pob ward o'r ardal a ddynodir ar Fap A drwy gyfeirio at enw'r ward ac fel y'i nodir â llinellau melyn.
(7) Etholir tri chynghorydd i bob ward.
(8) Mae cymuned newydd Scleddau yn ffurfio rhan o adran etholiadol Scleddau.
5.—(1) Mae cymunedau presennol Castellmartin a Stackpole wedi'u huno gan ffurfio cymuned newydd o 213 213 213 213 246 213 213 213 r enw Stackpole a Chastellmartin.
(2) Mae ardal y gymuned newydd wedi'i hamlinellu ar Fap B ag ymyl coch.
(3) Mae cynghorau cymuned Castellmartin a Stackpole wedi'u diddymu.
(4) Bydd cyngor i gymuned newydd Stackpole a Chastellmartin.
(5) Mae cymuned newydd Stackpole a Chastellmartin wedi'i rhannu yn ddwy ward sef—
(a)Stackpole; a
(b)Castellmartin.
(6) Ffurfir pob ward o'r ardal a ddynodir ar Fap B drwy gyfeirio at enw'r ward ac fel y'i nodir â llinell felen.
(7) Yng nghymuned newydd Stackpole a Chastellmartin—
(a)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Stackpole yw 5; a
(b)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Castellmartin yw 2.
(8) Mae cymuned newydd Stackpole a Chastellmartin yn ffurfio rhan o adran etholiadol Hundleton.
6.—(1) Mae cymunedau presennol Uzmaston a Boulston a Slebets wedi'u huno i ffurfio cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets.
(2) Mae ardal y gymuned newydd wedi'i hamlinellu ar Fap C ag ymyl coch.
(3) Mae cynghorau cymuned Uzmaston a Boulston a Slebets wedi'u diddymu.
(4) Bydd cyngor i gymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets.
(5) Mae cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets wedi'i rhannu yn ddwy ward sef—
(a)Uzmaston a Boulston; a
(b)Slebets.
(6) Ffurfir pob ward o'r ardal a ddynodir ar Fap C drwy gyfeirio at enw'r ward ac fel y'i nodir â llinell felen.
(7) Yng nghymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets—
(a)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Uzmaston a Boulston yw 6; a
(b)nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros ward Slebets yw 2.
(8) Mae cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets yn ffurfio rhan o adran etholiadol Martletwy.
7. mdash;
(1) Mae'r rhan o gymuned Rudbaxton a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap D—
(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Hwlffordd;
(b)yn ffurfio rhan o ward Prendergast yng nghymuned Hwlffordd; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Hwlffordd: Prendergast.
(2) Nid oes wardiau bellach yng nghymuned Rudbaxton.
(3) Nifer y cynghorwyr cymuned sydd i'w hethol dros Rudbaxton yw 10.
8. Mae'r rhan o gymuned Cilgerran a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap E—
(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Eglwyswrw; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Crymych.
9. Mae'r rhan o gymuned Eglwyswrw a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap F—
(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Cas-mael;
(b)yn ffurfio rhan o ward Castellhenri yng nghymuned Cas-mael; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Dinas.
10. Mae'r rhannau o gymuned Llangwm a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap G ac a ddangosir â llinellau rhesog croes ar Fap H wedi'u trosglwyddo i gymuned Freystrop.
11. Mae'r rhan o gymuned Rosemarket a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap H—
(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Freystrop; a
(b)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Llangwm.
12. Mae'r rhan o gymuned Freystrop a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap I wedi'i throsglwyddo i gymuned Hook.
13. Mae'r rhan o gymuned Rosemarket a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap J wedi'i throsglwyddo i gymuned Burton.
14. Mae'r rhan o gymuned Hundleton a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap K wedi'i throsglwyddo i gymuned Angle.
15. Mae'r rhan o gymuned Mathri a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap L wedi'i throsglwyddo i gymuned Llanrhian.
16. Mae'r rhannau o gymuned Camros a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap M—
(a)wedi'u trosglwyddo i gymuned Hwlffordd;
(b)yn rhan o ward Portfield yng nghymuned Hwlffordd; ac
(c)yn rhan o adran etholiadol Hwlffordd: Portfield.
17. Mae'r rhan o gymuned Nolton a'r Garn a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap N wedi'i throsglwyddo i gymuned Camros.
18. Mae'r rhan o gymuned Tiers Cross a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap O wedi'i throsglwyddo i gymuned Johnston.
19. Mae'r rhan o gymuned Cilgeti/Begeli a ddangosir â llinellau rhesog ar Fap P—
(a)wedi'i throsglwyddo i gymuned Amroth;
(b)yn ffurfio rhan o ward Amroth yng nghymuned Amroth; ac
(c)yn ffurfio rhan o adran etholiadol Amroth.
20. Mae'r rhannau o gymuned Cilgeti/Begeli a ddangosir â llinellau rhesog ar Fapiau Q ac R—
(a)wedi'u trosglwyddo i gymuned East Williamston;
(b)yn rhan o ward Pentlepoir yng nghymuned East Williamston; ac
(c)yn rhan o adran etholiadol East Williamston.
21.—(1) Yn yr erthygl hon—
ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Sir Penfro;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2);
ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012; ac
ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995(3).
(2) Mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn cael effaith—
(a)o ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a
(b)o ran y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2012 ac sy'n dod i ben yn union cyn y diwrnod y dyroddir gan y gymuned newydd braesept am y flwyddyn ariannol berthnasol,
drwy roi yn lle is-adran (3) yr is-adran ganlynol—
“(3) In making calculations in accordance with section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority must take into account for the purposes of its estimate under section 32(2)(a) above an amount equal to that notified to the billing authority in accordance with article 21(6) of the Pembrokeshire (Communities) Order 2011.”.
(3) O ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol—
(a)mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn cael effaith gan hepgor is-adran (6);
(b)mae adran 41(4) o Ddeddf 1992 yn cael effaith drwy roi yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued” y geiriau “October in the financial year for which it is issued”; ac
(c)mae'r cyfeiriad yn adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 at swm agregedig praeseptau a ragwelir gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 yn cael effaith fel petai'r swm agregedig yn cynnwys y swm a hysbyswyd i'r cyngor cymuned yn unol â pharagraff (6) o'r erthygl hon.
(4) O ran y swm a gymerir i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, bydd Pennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (pennu'r dreth gyngor) yn cael effaith fel petai—
(a)y swm yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â'r gymuned newydd; a
(b)ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.
(5) Rhaid i'r cyngor cymuned newydd wneud y cyfrifiadau sy'n ofynnol gan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) am y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sicrhau na fydd y swm a gaiff ei gyfrifo fel ei angen cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a hysbyswyd i'r cyngor cymuned yn unol â pharagraff (6) o'r erthygl hon.
(6) Rhaid i'r swm sydd i'w hysbysu yn unol â'r paragraff hwn gael ei hysbysu mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru i'r awdurdod bilio a'r cyngor cymuned newydd.
(7) O ran y cyngor cymuned newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau 1995 yn cael effaith—
(a)fel petai—
(i)rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlennitalu), a
(ii)yn is-baragraffau (1), (2) a (3) o baragraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau i benderfynu'r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau) ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff,
wedi'u hepgor; a
(b)yn is-baragraff (1) o'r paragraff 8 hwnnw, drwy roi “May” yn lle “April”.
22. Rhaid i swyddog priodol Cyngor Sir Penfro gynnull cyfarfod cyntaf pob un o'r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan erthyglau 4, 5 a 6.
23. At ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau sy'n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd—
(a)o ran cynghorau cymuned presennol Scleddau a Threcŵn, pennir cyngor cymuned newydd Scleddau yn olynydd gweddilliol;
(b)o ran cynghorau cymuned presennol Castellmartin a Stackpole, pennir cyngor cymuned newydd Stackpole a Chastellmartin yn olynydd gweddilliol; ac
(c)o ran cynghorau cymuned presennol Uzmaston a Boulston a Slebets, pennir cyngor cymuned newydd Uzmaston, Boulston a Slebets yn olynydd gweddilliol.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2011
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys