xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Gwnaed
25 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mawrth 2011
Y n dod i rym
30 Mawrth 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3(6) a 19(1) o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010(1).
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, yn ôl adran 8(1) o'r Mesur hwnnw.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Diffiniadau) (Cymru) 2011; mae'n gymwys o ran Cymru ac mae'n dod i rym ar 30 Mawrth 2011.
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “gweithred adennill” (“recovery operation”) yw unrhyw weithred sy'n cynnwys ailbrosesu, gwirio, glanhau, atgyweirio, compostio neu dreulio anaerobig a'i phrif ganlyniad yw bod gwastraff yn gallu ateb diben;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Gwastraff (Cymru) 2010;
ystyr “y targedau” (“the targets”) yw targedau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a bennir yn adran 3(3) o'r Mesur.
3.—(1) Mae gwastraff trefol awdurdod lleol(2) yn cael ei ailgylchu at ddibenion y targedau—
(a)pan fo'r gwastraff wedi mynd drwy weithred ailbrosesu; fel rhan o weithred adennill; a
(b)pan fo'r gwastraff yn cael ei ailbrosesu yn gyn nyrch, deunydd, neu sylwedd, p'un a yw hynny at ei ddiben gwreiddiol neu ddiben arall.
(2) Ond nid yw gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei ailgylchu at ddibenion y targedau os yw'n cael ei ddefnyddio fel tanwydd nac ar gyfer gwaith ôllenwi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “gwaith ôl-lenwi” yw gwaith lle y mae gwastraff yn cael ei ddefnyddio at ddibenion adfer mewn mannau sydd wedi eu cloddio neu at ddibenion peirianneg mewn tirlunio.
4.—(1) Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei baratoi ar gyfer ei ailddefnyddio at ddibenion y targedau—
(a)pan fo cynnyrch gwastraff neu gydran o gynnyrch gwastraff wedi cael eu gwirio, glanhau neu atgyweirio fel rhan o weithred adennill; a
(b)pan fo'r cynnyrch gwastraff neu gydran o'r cynnyrch gwastraff yn gallu cael eu hailddefnyddio at eu diben gwreiddiol.
5.—(1) Mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei gompostio at ddibenion y targedau—
(a)pan fo gwastraff bioddiraddadwy wedi bod drwy weithred adennill o gompostio neu dreulio anaerobig; a
(b)pan fo gwastraff wedi cael ei ailbrosesu yn gynnyrch, yn ddeunydd neu sylwedd sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel cyflyrydd pridd, gwrtaith neu gyfrwng tyfu.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “compostio” yw'r driniaeth fiolegol o wastraff lle y mae dadelfeniad a sefydlogrwydd y gwastraff yn cael ei gyflawni drwy weithgaredd microbau gan broses aerobig.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “treulio anaerobig” yw'r driniaeth fiolegol o wastraff lle y mae dadelfeniad a sefydlogrwydd y gwastraff yn cael ei gyflawni drwy weithgaredd microbau gan broses anaerobig.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
25 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 3 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol y mae'n rhaid ei ailgylchu, ei baratoi i ailddefnyddio neu ei gompostio.
Mae'r Gorchymyn hwn yn atodi'r Mesur, drwy bennu pryd y mae gwastraff trefol awdurdod lleol yn cael ei ailgylchu (erthygl 3), ei baratoi i'w ail ddefnyddio (erthygl 4) a'i gompostio (erthygl 5) at ddibenion y targedau hynny.
Diffinnir gwastraff trefol awdurdod lleol yn adran 3(8) o'r Mesur fel maint cyfan, yn ôl pwysau, o bob un o'r canlynol: yr holl wastraff a gasglwyd gan awdurdod lleol o dan adran 45 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43); yr holl wastraff a ollyngwyd yn y flwyddyn honno mewn mannau a ddarperir gan awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b) a (3) o adran 51 o'r Ddeddf honno; ac unrhyw wastraff arall a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.