xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
9 Chwefror 2011
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3);
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004.
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar 11 Chwefror 2011—
(a)adran 22 mewn perthynas â Chymru;
(b)adran 28(6) i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(c)adrannau 33 i 36 mewn perthynas â Chymru i'r graddau y maent yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(ch)adran 38 i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(d)adran 39 mewn perthynas â Chymru i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;
(dd)adran 41 mewn perthynas â Chymru.
3. Daw darpariaethau canlynol Deddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011—
(a)adran 27;
(b)adran 28(1) i (5);
(c)adran 28(6) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(b);
(ch)adran 30(2) a (3);
(d)adran 32(4);
(dd)adran 38 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(b).
4. Daw darpariaethau canlynol Deddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011 mewn perthynas â Chymru—
(a)adran 29;
(b)adran 30(1);
(c)adrannau 33 i 36 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(c);
(ch)adran 39 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(d);
(d)adran 49 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 6 a nodir ym mharagraffau (e) ac (f);
(dd)adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 7 a nodir ym mharagraffau (ff) ac (g);
(e)yn Atodlen 6, paragraff 7, hepgor adran 26(3), (4) a (6) i (11) o Ddeddf 1998;
(f)yn Atodlen 6, paragraff 8;
(ff)yn Atodlen 7, diddymu adran 26(3), (4) a (6) i (11) o Ddeddf 1998;
(g)yn Atodlen 7, diddymu yn adran 28(1) o Ddeddf 1998 Act y diffiniadau o “fees” a “publicly-funded institution”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
9 Chwefror 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ddarpariaethau ynghylch amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu gosod er mwyn rheoli ffioedd mewn sefydliadau yng Nghymru sy'n cael grantiau oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae'r darpariaethau sydd yn Rhan 3 o Ddeddf 2004 ac sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn (pan fônt yn gymwys o ran Cymru) fel a ganlyn:
adran 22, sy'n esbonio ystyr cynllun a gymeradwywyd o ran Cymru;
adran 27, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru osod amodau sydd, mewn perthynas â grantiau a wneir i gorff cyllido, yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff cyllido osod amod mewn perthynas â grantiau a benthyciadau y mae'n eu rhoi i sefydliadau perthnasol;
adran 28, sy'n nodi'r hyn sy'n ofynnol o dan amod a osodir gan gorff cyllido ar sefydliadau perthnasol;
adran 29, sy'n cynnwys darpariaethau atodol;
adran 30, sy'n esbonio ystyr “relevant authority” ac sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi person i fod yn awdurdod perthnasol mewn perthynas â Chymru;
adran 32(4), sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â Chymru roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru;
adrannau 33 i 36, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnwys cynlluniau ffioedd, eu cymeradwyo, eu hyd ac ar gyfer eu hamrywio;
adran 38, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi cynlluniau ffioedd;
adran 39, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod perthnasol mewn perthynas â chynlluniau ffioedd;
adran 41, sy'n esbonio ystyr termau penodol a ddefnyddir yn Rhan 3 o Ddeddf 2004.
Mae erthygl 2 yn dwyn darpariaethau perthnasol i rym ar 11 Chwefror 2011 i alluogi rheoliadau i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru.
Mae erthyglau 3 a 4 yn dwyn gweddill darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011 at ddibenion sy'n weddill a phan fo'n gymwys, mewn perthynas â Chymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 10(2) | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Adran 11 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 12 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 13 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 14 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 15 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 16 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 17 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 18 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 20 | 1 Ionawr 2005 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 21 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 44(1) a (2) | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Adran 44(3) | 1 Medi 2006 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Adran 44(4) | 23 Mehefin 2006 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Adran 44(5) a (6) | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Adran 46 | 1 Ionawr 2005 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 49 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6, paragraff 7, sy'n hepgor adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 sy'n diddymu adran 206 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac yn adran 207(1), paragraff (c) a'r gair “or” sy'n dod yn union o'i flaen | 1 Ionawr 2005 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 sy'n diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Atodlen 1 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Atodlen 2 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Atodlen 4 | 1 Rhagfyr 2004 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Atodlen 6, paragraff 7, hepgor adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Yn Atodlen 7, diddymu yn Neddf Diwygio Addysg 1988 adran 206, ac yn adran 207(1), diddymu paragraff (c) a'r gair “or” sy'n dod yn union o'i flaen | 1 Ionawr 2005 | 2004/3144 (Cy. 272) |
Yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 | 7 Gorffennaf 2005 | 2005/1833 (Cy. 149) |
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2004 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2004/2781, O.S. 2004/3255, O.S. 2005/767 ac O.S. 2006/51. Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2004 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2005/33.
Gweler hefyd adran 52(1) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym adeg pasio Deddf 2004.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 47(1), 52(3) a 52(6) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).