xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

SCHEDULE 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNI RTMDEDDF CWMNÏAU 2006ERTHYGLAU CYMDEITHASU [ENW] CWMNI RTM CYFYNGEDIGCWMNI CYFYNGEDIG DRWY WARANT SYDD HEB GYFALAF CYFRANDDALIADAU

RHAN 4GWNEUD PENDERFYNIADAU GAN AELODAU

TREFNIADAETH CYFARFODYDD CYFFREDINOL

Presenoldeb a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol

28.—(1) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i siarad mewn cyfarfod cyffredinol pan fo'r person hwnnw mewn sefyllfa i gyfathrebu i bawb sy'n bresennol yn y cyfarfod, yn ystod y cyfarfod, unrhyw wybodaeth neu farnau sydd gan y person hwnnw ynglŷn â busnes y cyfarfod.

(2) Mae gan berson y gallu i arfer yr hawl i bleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol—

(a)os gall y person hwnnw bleidleisio, yn ystod y cyfarfod, ar benderfyniadau y pleidleisir arnynt yn y cyfarfod, a

(b)os gellir cymryd pleidlais y person hwnnw i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a basiwyd penderfyniadau o'r fath ai peidio ar yr un pryd â phleidleisiau pob person arall sy'n bresennol yn y cyfarfod.

(3) Caiff y cyfarwyddwyr wneud pa bynnag drefniadau a ystyriant yn briodol i alluogi'r rhai sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol i arfer eu hawl i siarad neu bleidleisio ynddo.

(4) Wrth benderfynu ynghylch presenoldeb mewn cyfarfod cyffredinol, nid yw'n berthnasol pa un a yw unrhyw ddau neu ragor o'r aelodau sy'n bresennol yn yr un lle â'i gilydd ai peidio.

(5) Mae dau neu ragor o bersonau nad ydynt yn yr un lle â'i gilydd yn bresennol mewn cyfarfod cyffredinol os yw eu hamgylchiadau yn rhai sy'n caniatáu, os oes ganddynt (neu pe byddai ganddynt) hawliau i siarad a phleidleisio yn y cyfarfod hwnnw, y gallant (neu y gallent) arfer yr hawliau hynny.

Cworwm ar gyfer cyfarfodydd cyffredinol

29.—(1) Rhaid peidio â thrafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol ac eithrio penodi cadeirydd y cyfarfod os nad yw'r personau sy'n bresennol yn y cyfarfod yn cyfansoddi cworwm fel a bennir ym mharagraff (2).

(2) Y cworwm ar gyfer y cyfarfod yw 20 y cant o aelodau'r cwmni sydd â hawl i bleidleisio ar y busnes sydd i'w drafod, neu ddau aelod o'r cwmni sydd â hawl o'r fath (pa un bynnag yw'r nifer mwyaf), yn bresennol naill ai'n bersonol neu drwy ddirprwy.

Cadeirio cyfarfodydd cyffredinol

30.—(1) Os yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, rhaid i'r cadeirydd lywyddu'r cyfarfodydd cyffredinol os yw'n bresennol ac yn fodlon gwneud hynny.

(2) Os nad yw'r cyfarwyddwyr wedi penodi cadeirydd, neu os nad yw'r cadeirydd yn fodlon llywyddu'r cyfarfod, neu os nad yw'n bresennol o fewn deng munud o'r amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, rhaid i'r—

(a)cyfarwyddwyr sy'n bresennol, neu

(b)(os nad oes cyfarwyddwyr yn bresennol), cyfarfod,

benodi cyfarwyddwr neu aelod i weithredu fel cadeirydd y cyfarfod, a rhaid i benodi cadeirydd fod yn fusnes cyntaf y cyfarfod.

(3) Cyfeirir at y person sy'n gweithredu fel cadeirydd y cyfarfod yn unol â'r erthygl hon fel “cadeirydd y cyfarfod”.

Cyfarwyddwyr a rhai nad ydynt yn aelodau yn bresennol ac yn siarad

31.—(1) Caiff cyfarwyddwyr fod yn bresennol a siarad mewn cyfarfodydd cyffredinol, pa un a ydynt yn aelodau ai peidio.

(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ganiatáu i bersonau eraill, nad ydynt yn aelodau o'r cwmni, fod yn bresennol a siarad mewn cyfarfod cyffredinol.

Gohirio

32.—(1) Os nad yw'r personau sy'n bresennol mewn cyfarfod cyffredinol yn cyfansoddi cworwm o fewn hanner awr ar ôl yr amser a bennwyd ar gyfer cychwyn y cyfarfod, neu os yw cworwm yn peidio â bod yn bresennol yn ystod cyfarfod, rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio'r cyfarfod.

(2) Caiff cadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol y mae cworwm yn bresennol ynddo—

(a)os yw'r cyfarfod yn cydsynio i'w ohirio, neu

(b)os yw'n ymddangos i gadeirydd y cyfarfod bod gohirio'n angenrheidiol er mwyn amddiffyn diogelwch unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod neu sicrhau y cyflawnir busnes y cyfarfod mewn modd trefnus.

(3) Rhaid i gadeirydd y cyfarfod ohirio cyfarfod cyffredinol os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan y cyfarfod.

(4) Wrth ohirio cyfarfod cyffredinol, rhaid i gadeirydd y cyfarfod—

(a)naill ai bennu'r amser a'r lle y cynhelir y cyfarfod gohiriedig neu ddatgan y parheir y cyfarfod ar yr amser ac mewn lle sydd i'w pennu gan y cyfarwyddwyr, a

(b)rhoi sylw i unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y cyfarfod ynglŷn ag amser a lleoliad unrhyw gyfarfod gohiriedig.

(5) Os yw'r cyfarfod gohiriedig i'w barhau ymhen mwy na 14 diwrnod ar ôl ei ohirio, rhaid i'r cwmni roi hysbysiad y'i cynhelir o leiaf 7 diwrnod clir (hynny yw, heb gynnwys diwrnod y cyfarfod gohiriedig na'r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad) ymlaen llaw—

(a)i'r un personau y mae'n ofynnol rhoi iddynt hysbysiad o gyfarfodydd cyffredinol y cwmni, a

(b)gan gynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol i hysbysiad o'r fath ei chynnwys.

(6) Ni cheir trafod unrhyw fusnes mewn cyfarfod cyffredinol gohiriedig, na ellid bod wedi ei drafod yn briodol yn y cyfarfod pe na bai'r gohirio wedi digwydd.