xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYSYLLTIEDIG MEWN PERTHYNAS Å'R COMISIYNWYR

Penodi cadeirydd ac is-gadeirydd y Comisiynwyr

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, rhaid i'r Comisiynwyr fod â chadeirydd, a rhaid ei benodi gan y Comisiynwyr o blith y Comisiynwyr a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11.

2.  Bydd y cadeirydd cyntaf a benodir o dan baragraff 1, yn ddarostyngedig i baragraff 8 ac oni fydd y cadeirydd yn ymddiswyddo fel cadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd hyd at ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, bydd pob cadeirydd a benodir o dan baragraff 1, oni fydd y cadeirydd yn ymddiswyddo fel cadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd.

4.  Rhaid i'r Comisiynwyr fod ag is-gadeirydd, a rhaid ei benodi gan y Comisiynwyr o blith y Comisiynwyr hynny a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11.

5.  Rhaid penodi'r is-gadeirydd cyntaf a fydd mewn swydd ar ôl dyddiad y cyfansoddiad newydd cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw ac, yn ddarostyngedig i baragraff 8 ac oni fydd yr is-gadeirydd yn ymddiswyddo fel is-gadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, bydd yn parhau mewn swydd fel is-gadeirydd am gyfnod o dair blynedd o ddyddiad ei benodiad yn is-gadeirydd.

6.  Yn ddarostyngedig i baragraff 8, bydd pob is-gadeirydd a benodir o dan baragraff 4 oni fydd yr is-gadeirydd yn ymddiswyddo fel is-gadeirydd neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, yn dal ei swydd am gyfnod o dair blynedd.

7.—(1Os digwydd i swydd cadeirydd neu is-gadeirydd y Comisiynwyr fynd yn wag dros dro, rhaid i'r Comisiynwyr lenwi'r swydd wag o blith y Comisiynwyr hynny a benodwyd o dan erthygl 5(1) neu 11 mewn cyfarfod a gynhelir cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi i'r swydd fynd yn wag.

(2Rhaid i Gomisiynydd a benodir i lenwi lle gwag dros dro yn swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd o dan y paragraff hwn, oni fydd y Comisiynydd yn ymddiswyddo o'r swydd honno neu'n peidio â bod yn Gomisiynydd, ddal y swydd honno yn ystod gweddill y tymor y penodwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd y llenwir ei le ar ei gyfer.

8.  Os bodlonir y Comisiynwyr y dylai'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd beidio â dal swydd fel cadeirydd neu is-gadeirydd, cânt derfynu'r swydd honno a phenodi Comisiynydd arall yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd yn ystod gweddill y tymor y penodwyd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd blaenorol ar ei gyfer.