xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
94.—(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—
(a)nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 88 neu reoliad 91; a
(b)bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor.