xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
18 Ionawr 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ionawr 2011
Yn dod i rym
1 Ebrill 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 30A(3) a (4) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Hysbysu) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Safonau Gofal 2000.
2.—(1) Rhaid i hysbysiadau a anfonir o dan adran 30A(2) o'r Ddeddf gynnwys pan fo'n briodol yr wybodaeth a roddir ym mharagraffau (2), (3), (4) a (5).
(2) Rhaid i hysbysiadau o dan bob paragraff o dan adran 30A(2) gynnwys —
(a)disgrifiad o'r sefydliad neu'r asiantaeth(2);
(b)rhif tystysgrif gofrestru'r sefydliad neu'r asiantaeth;
(c)enw a chyfeiriad y person sy'n rhedeg neu'n rheoli'r sefydliad neu'r asiantaeth;
(ch)y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad arno; a
(d)pa baragraff o adran 30A(2) o'r Ddeddf yr anfonir yr hysbysiad oddi tano.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan adran 30A(2) (aa) neu (ab) (penderfynu i fabwysiadau neu hysbysiad i atal dros dro neu i ymestyn yr ataliad dros dro) gynnwys cyfnod parhad yr ataliad a'r rheswm drosto.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan adran 30A(2)(b)(3) (hysbysiad o achos am dramgwydd perthnasol) gynnwys —
(a)y dyddiad y dyroddwyd y wŷs arno;
(b)crynodeb o'r tramgwydd perthnasol honedig; ac
(c)dyddiad y gwrandawiad llys cyntaf os yw'n hysbys.
(5) Rhaid i hysbysiad o dan adran 30A(2)(c) (hysbysiad yn cyfyngu ar leoedd mewn sefydliadau penodol o dan adran 22B o'r Ddeddf) gynnwys y dyddiad, os yw wedi'i bennu, pan fydd yr hysbysiad yn peidio â chael ei effaith.
3. Dyma'r wybodaeth ynghylch person sy'n rhedeg neu'n rheoli sefydliad neu asiantaeth ('P') y mae'n rhaid i'r awdurdod cofrestru ei rhoi i bob awdurdod lleol yn yr amodau a bennir—
(a)pan fo hysbysiad wedi ei gyflwyno i P o dan adran 30A(2)(a) (hysbysiad o benderfyniad i fabwysiadu cynnig o dan adran 17(4)(a) o'r Ddeddf) a phan yw P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw —
(i)y ffaith bod P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw; a
(ii)canlyniad apêl P.
(b)o ran hysbysiad a gyflwynwyd i P o dan adran 30A(2)(aa) neu (ab) o'r Ddeddf (penderfynu i fabwysiadu neu hysbysiad i atal dros dro neu i ymestyn yr ataliad dros dro) a phan yw P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw —
(i)y ffaith bod P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw; a
(ii)canlyniad apêl P.
(c)o ran hysbysiad a gyflwynwyd i P o dan adran 30A(2)(b) o'r Ddeddf (hysbysiad o achos am dramgwydd perthnasol) —
(i)canlyniad yr achos yn erbyn P am y tramgwydd perthnasol hwnnw; a
(ii)pan yw P wedi apelio yn erbyn y canlyniad hwnnw, canlyniad yr apêl.
(ch)o ran hysbysiad a gyflwynwyd i P o dan adran 30A(2)(c) o'r Ddeddf (hysbysiad yn cyfyngu ar leoedd mewn sefydliadau penodol o dan adran 22B o'r Ddeddf) —
(i)y ffaith bod P wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw; a
(ii)canlyniad apêl P.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) ac maent yn gymwys o ran Cymru. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cofrestru o ran Cymru at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf.
Mae adran 30A(2) o'r Ddeddf yn darparu bod rhaid i'r awdurdod cofrestru hysbysu, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr os yw'n cymryd unrhyw un neu ragor o'r camau a bennir yn adran 30A(2) yn erbyn person ('P') sy'n rhedeg neu'n rheoli sefydliad neu asiantaeth a bennir yn adran 30A(6) (sef cartrefi plant, canolfannau preswyl i deuluoedd, asiantaethau maethu, asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol, asiantaethau cymorth mabwysiadu a darparwyr gwasanaethau gwaith cymdeithasol). Rhoddir yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr hysbysiadau hynny yn rheoliad 2.
Mae adran 30A(3) yn darparu ar gyfer anfon hysbysiadau pellach ynghylch P pan fo'r awdurdod cofrestru'n dod yn ymwybodol o'r amodau rhagnodedig. Rhagnodir yr amodau yn rheoliad 3.
2000 p.14. Mewnosodwyd adran 30A i'r Ddeddf Safonau Gofal (“y Ddeddf”) gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008. Ystyr “rhagnodedig” yw wedi ei ragnodi mewn rheoliadau a wnaed o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Weinidogion Cymru drwy baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Mae adran 30A(6) o'r Ddeddf yn rhestru'r sefydliadau a'r asiantaethau y mae adran 30A yn gymwys iddynt.
Mae adran 30A(7) o'r Ddeddf yn diffinio “tramgwydd perthnasol”.