xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1. Cario drosodd wargedau a diffygion sy'n codi o ran cyfrannau ysgolion o'r gyllideb o un cyfnod cyllido i gyfnod cyllido arall.
2. Symiau y gellir codi amdanynt yn erbyn cyfrannau ysgolion o'r gyllideb.
3. Symiau a dderbyniwyd gan ysgolion y caiff eu cyrff llywodraethu eu dal a'r dibenion y ceir defnyddio'r symiau hynny ar eu cyfer.
4. Gosod amodau, drwy neu o dan y cynllun, y mae'n rhaid i ysgolion gydymffurfio â hwy o ran rheoli eu cyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i gyrff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig, gan gynnwys amodau sy'n rhagnodi rheolaethau a gweithdrefnau ariannol.
5. Y telerau y mae'r awdurdod yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau odanynt i ysgolion a gynhelir ganddo.
6. Talu llog gan neu i'r awdurdod.
7. Yr adegau pan drefnir y bydd symiau sy'n hafal i gyfanswm cyfran yr ysgol o'r gyllideb ar gael i gyrff llywodraethu a pha ran o'r gyfran o'r gyllideb fydd ar gael ar bob adeg o'r fath.
8. Y trosglwyddiad rhwng penawdau cyllideb o fewn y gyllideb ddirprwyedig.
9. Yr amgylchiadau y caiff awdurdod ddirprwyo i'r corff llywodraethu y pŵer i wario unrhyw ran o gyllideb AALl yr awdurdod neu ei gyllideb ysgolion yn ychwanegol at y rhai a nodir yn adran 49(4)(a) i (c)(1) o Ddeddf 1998.
10. Y defnydd o gyllidebau dirprwyedig a symiau y trefnodd yr awdurdod eu bod ar gael i'r corff llywodraethu nad ydynt yn ffurfio rhan o'r cyllidebau dirprwyedig.
11. Benthyca gan gyrff llywodraethu.
12. Trefniadau bancio y gall fod cyrff llywodraethu yn eu gwneud.
13. Datganiad o ran atebolrwydd personol y llywodraethwyr mewn perthynas â chyfrannau ysgolion o'r gyllideb gan ystyried adran 50(7) o Ddeddf 1998.
14. Datganiad o ran y lwfansau sy'n daladwy i lywodraethwyr ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig yn unol â'r cynllun a wnaed gan yr awdurdod at ddibenion adran 519 o Ddeddf 1996(2).
15. Cadw cofrestr o unrhyw fuddiannau busnes y llywodraethwyr a'r pennaeth.
16. Darparu gwybodaeth gan y corff llywodraethu a darparu gwybodaeth iddo.
17. Cynnal a chadw stocrestrau o asedau.
18. Cynlluniau gwario corff llywodraethu.
19. Datganiad o ran y defnydd y mae corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud o warged yn y fantolen ysgol sy'n fwy na 5% o gyfran yr ysgol o'r gyllideb neu £10,000, pa swm bynnag yw'r mwyaf.
20. Darpariaeth y caiff awdurdod wneud y canlynol oddi tani—
(a)cyfarwyddo'r corff llywodraethu sut i wario gwarged yn y fantolen ysgol ar gyfer cyfnod cyllido,—
(i)os yw'r gwarged, yn achos ysgol gynradd, yn £50,000 neu'n fwy, a
(ii)os yw'r gwarged, yn achos ysgol uwchradd neu ysgol arbennig, yn £100,000 neu'n fwy;
(b)ei gwneud yn ofynnol i'r corff llywodraethu, os nad yw'r corff llywodraethu'n cydymffurfio â chyfarwyddyd o'r fath, dalu'r gwarged cyfan neu ran ohono i'r awdurdod i'w ddefnyddio fel rhan o'i gyllideb ysgolion am y cyfnod cyllido o dan sylw.
21. Datganiad o ran trethu'r symiau a dalwyd neu a gafwyd gan gorff llywodraethu.
22. Yswiriant.
23. Defnyddio cyllidebau dirprwyedig gan gyrff llywodraethu fel y byddant yn bodloni dyletswyddau'r awdurdod a osodwyd gan neu o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974(3).
24. Darparu cyngor cyfreithiol i'r corff llywodraethu.
25. Cyllid ar gyfer materion amddiffyn plant.
26. Prydau ysgol.
27. At bwy yn yr awdurdod y dylid anfon cwynion a wneir gan bobl sy'n gweithio yn yr ysgol neu gan lywodraethwyr ysgol ynghylch rheoli ariannol neu briodoldeb ariannol yn yr ysgol a sut y byddir yn ymdrin â chwynion o'r fath.
28. Gwariant a dynnir gan gorff llywodraethu wrth arfer y pŵer a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg 2002.
29. Y ddarpariaeth gan gyrff llywodraethu o ffurflenni a gwybodaeth at ddibenion pensiynau athrawon.
Diwygiwyd adran 49 gan baragraff 100(2) o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002.
Diwygiwyd adran 519 gan baragraffau 57 a 139 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.