- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
8.—(1) Rhaid i werthwr gadw cofnod cywir o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.
(2) Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.
(3) Yr wybodaeth yw—
(a)nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir gan y gwerthwr sy'n denu'r tâl;
(b)y swm gros a gafwyd gan y gwerthwr drwy godi taliadau am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;
(c)enillion gros y tâl(1);
(ch)enillion net y tâl(2);
(d)dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng enillion gros ac enillion net y tâl, gan gynnwys (yn benodol)—
(i)y dosraniad rhwng unrhyw TAW briodoladwy a chostau rhesymol;
(ii)y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;
(dd)at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net a gafwyd o'r tâl.
(4) Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008(3)—
(a)swm unrhyw TAW briodoladwy;
(b)swm unrhyw gostau rhesymol.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—
costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid;
mae i “TAW” yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 1994(4);
ystyr “TAW briodoladwy” (“attributable VAT”) yw'r TAW ar gyflenwad gan y gwerthwr o fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl.
9.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person a grybwyllir ym mharagraff (4) yn gwneud cais i werthwr yn ysgrifenedig i gyflenwi cofnod am flwyddyn adrodd.
(2) Os daw cais i law yn ystod y cyfnod y delir gafael ar y cofnod sydd o dan sylw, rhaid i'r gwerthwr ddarparu copi o'r cofnod hwnnw i'r person a wnaeth gais amdano o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl iddo gael y cais ysgrifenedig.
(3) Y cyfnod dal gafael yw'r cyfnod o dair blynedd y mae'n rhaid dal gafael ar unrhyw gofnod penodol o dan reoliad 8(2).
(4) Y personau yw—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)aelod o'r cyhoedd.
10.—(1) Rhaid i werthwr gyhoeddi'r cofnod ar gyfer blwyddyn adrodd os bodlonir yr amodau ym mharagraff (2) gan y gwerthwr mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd o dan sylw.
(2) Yr amodau yw—
(a)bod y gwerthwr yn berson trethadwy at ddibenion Deddf Treth ar Werth 1994;
(b)bod y gwerthwr yn cyflenwi 1000 neu fwy o fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl.
(3) Rhaid i werthwr gyhoeddi'r cofnod ar neu cyn 31 Mai yn y flwyddyn adrodd sy'n dilyn honno y mae'r cofnod yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid i'r cofnod barhau i fod wedi ei gyhoeddi hyd at 31 Mai yn y flwyddyn adrodd ddilynol.
(5) Rhaid i'r cyhoeddi fod yn y dull a ganlyn—
(a)ar wefan y gwerthwr; neu
(b)drwy arddangos hysbysiad sy'n cynnwys y cofnod yn holl fangreoedd y gwerthwr yng Nghymru y mae gan gwsmeriaid fynediad iddynt.
(6) Os bydd gwerthwr yn cyhoeddi'r cofnod ar ei wefan—
(a)rhaid i'r cofnod gael ei arddangos yn amlwg ar dudalen gartref y gwerthwr; neu
(b)os yw'r cofnod i gael ei arddangos yn rhywle arall ar wefan y gwerthwr, rhaid i ddolen i'r cofnod gael ei harddangos yn amlwg ar dudalen gartref y gwerthwr.
(7) Os bydd gwerthwr yn cyhoeddi'r cofnod yn y dull a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b), rhaid i'r hysbysiad gael ei arddangos mewn lle amlwg, fel bod cwsmeriaid yn gallu ei weld yn eglur ac yn gallu ei ddarllen.
I gael ystyr “gross proceeds of the charge” gweler paragraff 7(4) o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008.
I gael ystyr “net proceeds of the charge” gweler paragraff 7(4) o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.
1994 p.23; mae diwygiadau i adran 96 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys