xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1

Tabl 1

Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant

Y SwyddogaethRhychwant
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (fel y bo'n gymwys drwy weithrediad a.28A o'r Ddeddf honno) (Darparu Gwasanaethau Lles)I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) i blant sydd mewn angen (“in need”) at ddibenion adran 17 o Ddeddf Plant 1989 ac i'w teuluoedd, gan gynnwys cyflawni unrhyw asesiadau at y dibenion hynny.
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)
a.17 ac Atodlen 2, rhan 1 o Ddeddf Plant 1989 (Darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill)
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol)

Tabl 2

Swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas ag oedolion

Y SwyddogaethRhychwant
a.29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 a'r cyfarwyddiadau a wnaed odani (Trefniadau lles)I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau (gan gynnwys cymorth, cwnsela neu gefnogaeth) neu gyfleusterau i hybu lles personau dros 18 oed sy'n gymwys i gael gwasanaethau o dan yr adrannau hynny am eu bod yn ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, yn ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, yn rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam– drin neu am eu bod yn rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y gwasanaethau neu'r cyfleusterau hynny.
a.2 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 (Darparu Gwasanaethau Lles)
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)
a.6 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (Asesiadau: personau â chyfrifoldeb rhiant)
a.192(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac Atodlen 15 iddi (Awdurdodau Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol)

Tabl 3

Swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas â phlant

Y SwyddogaethRhychwant
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd i blant, neu â thrin plant, sydd mewn angen at ddibenion a.17 o Ddeddf Plant 1989 ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau neu gyfleusterau.
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)
a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd)
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol)
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu-gwasanaethau penodol)
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau gyda chyrff eraill)
a.38(6) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i roi ar gael wasanaethau a ddarperir gan berson sy'n cael ei gyflogi yn y gwasanaeth iechyd i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni swyddogaethau)

Tabl 4

Swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol mewn perthynas ag oedolion

Y SwyddogaethRhychwant
a.117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (Ôl-ofal)I'r graddau y maent yn ymwneud â darparu gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd ar gyfer personau, neu â thrin personau, sy'n ddibynnol ar alcohol neu gyffuriau, neu sy'n ddioddefwyr trais neu gamdriniaeth domestig, sy'n rhai a chanddynt hanes ymddygiad treisiol neu ymddygiad o gam-drin neu'n rhai a chanddynt anhwylder meddwl, ac mae hyn yn cynnwys asesu'r angen am y cyfryw wasanaethau, cyfleusterau neu driniaeth.
a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)
a.1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Dyletswydd i hybu'r gwasanaeth iechyd)
a.2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Pwerau cyffredinol)
a.3(1) (c), (d), (e) ac (f) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Darparu gwasanaethau penodol)
a.10(1), (2), (3), (4) a (5) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Trefniadau â chyrff eraill)