xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005

17.—(1Diwygir Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(1) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliadau 3(2)(c) a 4(2)(a) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

(3Yn lle rheoliad 4(2)(b), rhodder —

(b)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â'i swyddogaethau addysg;.

(4Yn lle rheoliad 7, rhodder —

Llywodraethwyr Awdurdod

7.(1) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “llywodraethwr awdurdod” yw person a benodir yn llywodraethwr gan yr awdurdod lleol.

(2) Mae person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi neu rhag parhau i ddal swydd yn llywodraethwr awdurdod ar ysgol os yw'n gymwys i fod yn athro-lywodraethwr neu'n staff-lywodraethwr ar ysgol..

(5Yn rheoliadau 8(3), 9(1) a 10(2)(ch) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

(6Yn lle rheoliad 10(2)(d) rhodder—

(d)yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â'i swyddogaethau addysg..

(7Yn y Tablau yn rheoliadau 13, 14 a 15 yn lle “Llywodraethwyr AALl” rhodder “Llywodraethwyr awdurdod”.

(8Yn rheoliad 15(4) a (5)(a) yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

(9Yn y Tablau yn rheoliadau 16, 17, 18 a 19 yn lle “Llywodraethwyr AALl” rhodder “Llywodraethwyr awdurdod”.

(10Yn rheoliad 21(5) yn lle “llywodraethwr AALl” rhodder “llywodraethwr awdurdod”.

(11Yn y pennawd i reoliad 27 yn lle “AALl” rhodder “awdurdod”.

(12Yn rheoliad 27(1) yn lle “llywodraethwr AALl” rhodder “llywodraethwr awdurdod”.

(13Yn rheoliad 32 yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.

(14Yn rheoliadau 34 i 37, 42, 45, 47, 51, 55 a 61 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol ”.

(15Yn Atodlenni 1, 2 a 3 yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol ”.

(16Yn y Tabl yn Atodlen 6 yn lle “Llywodraethwr AALl” yn yr ail golofn rhodder “Llywodraethwr awdurdod”.