Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010

Pa Fersiwn

 Help about what version

Status:

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “is-ddeddfwriaeth ym maes addysg” yw is-ddeddfwriaeth a wnaed yn gyfan gwbl o dan y pwerau sydd yn unrhyw un o'r Deddfau Addysg (o fewn ystyr Deddf Addysg 1996) ac mae ystyr “is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes addysg” i'w ddehongli yn unol â hynny.

Diwygio Is-ddeddfwriaeth ym maes Addysg

2.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys o ran Cymru.

(2Diwygir yr is-ddeddfwriaeth ym maes addysg a bennir yn Atodlen 1 yn unol â'r Atodlen honno.

(3Mewn unrhyw ddarpariaeth o is-ddeddfwriaeth ym maes addysg nas pennir yn Atodlen 1 ac yn nheitlau'r cyfryw is-ddeddfwriaeth, yn lle “awdurdod addysg lleol” ac “AALl” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “awdurdodau addysg lleol” ac “AALlau” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “awdurdodau lleol” ond os yw'r testun yn Saesneg yn unig yn lle “local education authority” ac “LEA” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authority” ac yn lle “local education authorities” ac “LEAs” ym mhob man lle y mae'r geiriau hynny'n digwydd rhodder “local authorities”.

Diwygio Is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes Addysg

3.  Diwygir yr is-ddeddfwriaeth nad yw ym maes addysg ac a bennir yn Atodlen 2 (sy'n ymwneud ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru) yn unol â'r Atodlen honno.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2010

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg:Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill