Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 4

ATODLEN 1Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol

1.—(1Yn achos rhywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol (ac eithrio difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae paragraff 4 yn gymwys iddo), rhaid i natur y difrod olygu bod ganddo effaith andwyol sylweddol ar gyrraedd neu gadw statws cadwraeth ffafriol y rhywogaeth a warchodir neu'r cynefin naturiol gan gymryd i ystyriaeth—

(a)y statws cadwraeth adeg y difrod;

(b)y gwasanaethau a ddarperir gan yr amwynderau y maent yn eu cynhyrchu;

(c)eu gallu i adfywio'n naturiol;

(ch)nifer yr unigolion, eu dwysedd neu'r ardal a gwmpesir;

(d)rôl yr unigolion penodol neu'r ardal a ddifrodwyd mewn perthynas â'r rhywogaeth neu gadwraeth y cynefin a phrinder y rhywogaeth neu'r cynefin a aseswyd ar y lefel berthnasol p'un ai'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled y Gymuned;

(dd)gallu'r rhywogaeth i luosogi, ei hyfywedd neu allu'r cynefin i adfywio'n naturiol; ac

(e)gallu'r rhywogaeth neu'r cynefin i ymadfer o fewn cyfnod byr i'r amser yr achoswyd y difrod i gyflwr a arweiniodd at ei gyflwr adeg y difrod neu gyflwr gwell heb unrhyw ymyrraeth ac eithrio cynyddu mesurau gwarchod.

Statws cadwraeth cynefinoedd naturiol

2.—(1Statws cadwraeth cynefin naturiol yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y cynefin hwnnw a'i rywogaethau nodweddiadol a'r rheini'n ddylanwadau a allai effeithio ar ddosbarthiad, strwythur a swyddogaethau naturiol hirdymor y cynefin hwnnw yn ogystal â goroesiad hirdymor ei rywogaethau nodweddiadol.

(2Mae ei statws cadwraeth yn ffafriol—

(a)os yw'r gwasgariad naturiol a'r ardaloedd sy'n cael eu cwmpasu yn y gwasgariad naturiol hwnnw yn sefydlog neu'n cynyddu;

(b)os yw'r strwythur a'r swyddogaethau penodol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith cynnal hirdymor ar y cynefin naturiol yn bodoli a'u bod yn debyg o barhau i fodoli hyd y gellir rhag-weld; ac

(c)os yw statws cadwraeth ei rywogaethau nodweddiadol yn ffafriol.

Statws cadwraeth rhywogaethau

3.—(1Statws cadwraeth rhywogaeth yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y rhywogaeth o dan sylw ac a allai effeithio ar ddosbarthiad a helaethrwydd ei phoblogaethau yn y tymor hir.

(2Mae statws cadwraeth yn ffafriol—

(a)os yw'r data am ddynameg poblogaeth y rhywogaeth o dan sylw yn dangos ei bod yn ymgynnal ei hun ar sail hirdymor fel cydran hyfyw o'i chynefin naturiol;

(b)os nad yw gwasgariad naturiol y rhywogaeth yn cael ei leihau nac yn debyg o gael ei leihau hyd y gellir rhag-weld; ac

(c)os oes, a'i bod yn debyg y bydd o hyd, gynefin digon mawr i gynnal ei phoblogaethau ar sail hirdymor.

Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

4.—(1Yn achos safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rhaid i'r difrod fod yn ddifrod—

(a)i'r rhywogaethau neu'r cynefinoedd a hysbyswyd o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Act 1981(1); neu

(b)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol.

(2Rhaid bod y difrod wedi cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle (hynny yw, cydlyniad ei strwythur ecolegol a'i swyddogaeth, ar draws ei arwynebedd cyfan, sy'n ei alluogi i gynnal cynefin, cymhlethfa o gynefinoedd neu lefelau poblogaethau'r rhywogaethau yr effeithiwyd arnynt).

Awdurdodiad pendant

5.  Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(2) neu Ran II o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Gweithgareddau sy'n achosi difrod

Gweithrediadau y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddynt

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r gweithgareddau y mae atebolrwydd amdanynt o dan reoliad 5(1).

Gweithredu gweithfeydd a ganiateir

2.  Gweithredu gweithfeydd sy'n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd(3) (pob gweithgaredd a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno ac eithrio gweithfeydd neu rannau o weithfeydd a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i gynhyrchion a phrosesau newydd, eu datblygu a'u profi).

Gweithrediadau rheoli gwastraff

3.—(1Gweithrediadau rheoli gwastraff, gan gynnwys casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff a gwastraff peryglus, goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-ofal dros safleoedd gwaredu, yn ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad yn unol â Chyfarwyddeb 2006/12/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff(4) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus(5).

(2Gweithredu safleoedd tirlenwi o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff(6) a gweithredu gweithfeydd hylosgi o dan Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylosgi gwastraff(7).

(3Nid yw hyn yn cynnwys taenu slwtsh carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol, sydd wedi'i drin yn unol â safon gymeradwy, at ddibenion amaethyddol.

Gwastraff mwyngloddio

4.  Rheoli gwastraff echdynnol o dan Gyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol(8).

Gollyngiadau y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer

5.—(1Pob gollyngiad i mewn i'r dŵr wyneb mewndirol y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 2006/11/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar lygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol a ollyngir i amgylchedd dyfrol y Gymuned(9).

(2Pob gollyngiad sylwedd i mewn i ddŵr daear y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 80/68/EEC ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol(10).

(3Pob gollyngiad neu chwistrelliad llygrydd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear y mae'n ofynnol cael trwydded, awdurdodiad neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(11).

Tynnu dŵr a'i gronni

6.  Tynnu dŵr a chronni dŵr yn ddarostyngedig i awdurdodiad ymlaen llaw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr.

Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol

7.  Gweithgynhyrchu, defnyddio, storio, prosesu, llenwi, gollwng i'r amgylchedd a chludo ar safle y deunyddiau canlynol—

(a)sylweddau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 67/548/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus (12);

(b)paratoadau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 1999/45/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu paratoadau peryglus(13);

(c)cynhyrchion diogelu planhigion fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynghylch rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad(14); ac

(ch)cynhyrchion bywleiddiol fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar y farchnad(15).

Cludiant

8.  Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy'r awyr nwyddau peryglus neu nwyddau llygru fel y'u diffinnir yn—

(a)Atodiad A i Gyfarwyddeb y Cyngor 94/55/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y ffordd(16);

(b)yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/49/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y rheilffordd(17); ac

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/75/EEC ynghylch isafswm y gofynion ar gyfer llestrau sy'n mynd i borthladdoedd Cymunedol neu'n ymadael â hwy ac yn cario nwyddau peryglus neu nwyddau llygru(18).

Organeddau a addaswyd yn enetig

9.—(1Unrhyw ddefnydd amgaeëdig, gan gynnwys cludo, sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC ar ddefnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(19)).

(2Unrhyw weithred o ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd, cludo a rhoi ar y farchnad organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd(20).

Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau

10.  Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau o fewn y Gymuned, i mewn iddi neu allan ohoni, a honno'n weithred y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar ei chyfer neu'n weithred sydd wedi ei gwahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff(21).

Rheoliad 19

ATODLEN 3Trwyddedau, etc.

1.  Mae'r canlynol yn drwyddedau at ddibenion rheoliad 19(3) i'r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd yn Atodlen 2—

(a)trwydded a roddir o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(22) neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hynny;

(b)trwydded a roddir o dan Ran II o Ddeddf Bwyd a Diogelu'r Amgylchedd 1985(23);

(c)cydsyniad gollwng dŵr, gorchymyn sychder cyffredin neu orchymyn sychder brys neu drwydded sychder o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(24);

(ch)awdurdodiad o dan Reoliadau Dŵr Daear 1998(25);

(d)trwydded tynnu dŵr neu drwydded cronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

(dd)cymeradwyaeth o blaleiddiad o dan Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986(26), awdurdodiad o gynnyrch bywleiddiol o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddiol 2001(27) neu awdurdodiad o blaleiddiad o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2005(28).

Rheoliad 18

ATODLEN 4Adfer

RHAN 1Adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir

Cymhwyso Rhan 1

1.  Mae'r Rhan hon yn ymwneud ag adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir.

Risg i iechyd dynol

2.  Rhaid i waith adfer ddileu unrhyw risg o bwys i iechyd dynol.

Yr amcan

3.  Amcan adfer yw sicrhau'r un lefel o adnoddyn neu wasanaethau naturiol â'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Adferiad sylfaenol ac adferiad cydategol

4.—(1Rhaid i'r adferiad gynnwys unrhyw adferiad sylfaenol neu adferiad cydategol a fydd yn sicrhau'r amcan neu'r ddau os bydd hynny'n ei sicrhau.

(2Mae adferiad sylfaenol yn unrhyw fesur adfer sy'n peri i'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig ddychwelyd i'r cyflwr, neu tua'r cyflwr, a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd (mae ymadferiad naturiol yn ffurf a ganiateir ar adferiad sylfaenol mewn achosion priodol).

(3Mae adferiad cydategol yn unrhyw fesur adfer a gymerir mewn perthynas ag adnoddau neu wasanaethau naturiol i wneud iawn am y ffaith nad yw adferiad sylfaenol yn arwain at edfryd yr adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig yn gyfan gwbl yn ôl i'r cyflwr a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Adferiad cydadferol

5.—(1Yn ychwanegol rhaid darparu adferiad cydadferol i wneud iawn am golledion interim o ran adnoddau neu wasanaethau naturiol sy'n digwydd o ddyddiad y difrod hyd nes y bydd yr adferiad wedi cyflawni ei amcan; ac yn y paragraff hwn ystyr “colledion interim” (“interim losses”) yw colledion sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd na'r gwasanaethau yn gallu cyflawni eu swyddogaethau ecolegol na darparu gwasanaethau i adnoddau naturiol eraill nac i'r cyhoedd hyd nes y bydd yr adferiad sylfaenol wedi'i gwblhau.

(2Nid yw adferiad cydadferol yn cynnwys iawndal.

Y dewis o ran adferiad

6.—(1Rhaid gwerthuso'r opsiynau adfer gan ddefnyddio'r dulliau gorau sydd ar gael, ac ar sail—

(a)effaith pob opsiwn ar iechyd a diogelwch y cyhoedd;

(b)y gost o weithredu'r opsiwn;

(c)yn achos pob opsiwn, pa mor debyg yw hi y byddai'n llwyddo;

(ch)i ba raddau y bydd pob opsiwn yn atal difrod yn y dyfodol, ac yn osgoi difrod ystlysol o ganlyniad i weithredu'r opsiwn;

(d)i ba raddau y mae pob opsiwn o fudd i bob un o gydrannau'r adnoddyn naturiol neu'r gwasanaeth;

(dd)i ba raddau y mae pob opsiwn yn cymryd i ystyriaeth bryderon cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol a ffactorau perthnasol eraill sy'n ymwneud yn benodol â'r lleoliad;

(e)faint o amser y bydd yn ei gymryd i'r gwaith edfryd a wneir i gywiro'r difrod amgylcheddol fod yn effeithiol;

(f)i ba raddau y mae pob opsiwn yn sicrhau bod safle'r difrod amgylcheddol yn cael ei edfryd; ac

(ff)y cysylltiad daearyddol â'r safle a ddifrodwyd.

Canfod adferiad cydategol ac adferiad cydadferol

7.—(1Os yw'n bosibl, rhaid i fesurau adfer cydategol a rhai cydadferol ddarparu adnoddau neu wasanaethau naturiol o'r un math, ansawdd a nifer â'r rhai a ddifrodwyd.

(2Pan na fo hynny'n bosibl, rhaid darparu adnoddau neu wasanaethau naturiol tebyg ond gwahanol (er enghraifft, drwy wrthbwyso lleihad yn ansawdd adnoddau neu wasanaethau naturiol drwy gynyddu'r nifer ohonynt).

(3Pan na fo hynny'n bosibl, caniateir i adnoddau neu wasanaethau naturiol gwahanol gael eu darparu, a rhaid i brisiad ariannol y mesurau adfer fod yr un fath â phrisiad ariannol yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(4Os yw'n ymarferol prisio'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd, ond nad oes modd prisio'r mesurau adfer o fewn cyfnod amser rhesymol neu am bris rhesymol, yna caniateir darparu mesurau adfer y mae eu cost (yn lle eu prisiad ariannol) yn gyfwerth â'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(5Yn achos adferiad cydategol ar safle newydd, pan fo'n bosibl ac yn briodol, dylai'r safle hwn fod yn ddaearyddol gysylltiedig â'r safle a ddifrodwyd.

Opsiynau

8.—(1Wrth werthuso'r gwahanol opsiynau adfer a ganfyddwyd, caniateir penderfynu ar fesurau adfer sylfaenol nad ydynt yn edfryd yn llawn y dŵr neu'r rhywogaethau a warchodir neu'r cynefin naturiol a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr neu i'w cyflwr adeg y digwyddiad neu benderfynu ar fesurau adfer sylfaenol sy'n ei edfryd neu'n eu hedfryd yn fwy araf (er enghraifft, pan ellid darparu'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol cyfwerth yn rhywle arall am gost is).

(2Dim ond os gwneir iawn am yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol sy'n cael eu hepgor o ganlyniad i'r penderfyniad drwy gynyddu'r camau cydategol neu'r rhai cydadferol i ddarparu lefel debyg o adnoddau neu wasanaethau naturiol y ceir gwneud y penderfyniad hwn.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi benderfynu ar unrhyw bryd nad oes angen cymryd unrhyw fesurau adfer pellach—

(a)os yw'r mesurau adfer sydd eisoes wedi'u cymryd wedi dileu unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol, dŵr neu rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol; a

(b)os byddai cost y mesurau adfer y mae eu hangen i edfryd yr hyn a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr cyn y digwyddiad yn anghymesur o'u cymharu â'r buddion amgylcheddol y gellid eu cael.

RHAN 2Adfer i gywiro difrod i dir

Adfer i gywiro difrod i dir

9.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â difrod i dir.

(2Rhaid i'r adferiad sicrhau, o leiaf, bod yr halogion perthnasol yn cael eu gwaredu, eu rheoli, eu cyfyngu neu eu lleihau fel na fydd y tir mwyach, gan ystyried y defnydd cyfredol cyfreithlon a wneir ohono neu unrhyw ganiatâd cynllunio a oedd yn bodoli adeg y difrod, yn peri unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol.

(3Rhaid i bresenoldeb risgiau o'r fath gael ei asesu drwy weithdrefnau asesu risg gan ystyried nodweddion a swyddogaeth y pridd, y math o sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau niweidiol a'r crynodiad ohonynt, y risg y maent yn ei beri a'r posibilrwydd o'u gwasgaru.

(4Mae ymadferiad naturiol yn ffurf ar adfer a ganiateir mewn achosion priodol.

Rheoliadau 19 a 21

ATODLEN 5Apelau

RHAN 1Apelau os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

1.  Mae'r Rhan hon yn gymwys os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.

2.  Rhaid i hysbysiad o apêl gynnwys—

(a)copi o'r hysbysiad neu'r hysbysiad adfer yr apelir yn ei erbyn; a

(b)seiliau'r apêl.

3.  Pan ddaw hysbysiad i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r hysbysiad am apêl i'r awdurdod gorfodi, a rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon copi ar unwaith at unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod ganddo fuddiant arbennig ym mhwnc yr apêl, a hysbysu Gweinidogion Cymru o bwy y mae wedi'i hysbysu.

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'r terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r apelydd ddarparu mewn ysgrifen—

(a)datganiad o achos; a

(b)pob gohebiaeth berthnasol.

5.  Pan ddaw'r rhain i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon yr holl ddogfennau i'r awdurdod gorfodi, gan roi i'r awdurdod gorfodi derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid iddo roi ymateb ysgrifenedig.

6.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r un pryd unrhyw berson a hysbyswyd o dan baragraff 3 o'r terfyn amser o dan baragraff 5 a'i wahodd i gyflwyno sylwadau erbyn y dyddiad hwnnw.

7.  Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu wedyn a oes angen tystiolaeth bellach, a rhoi cyfarwyddiadau'n unol â hynny.

8.  Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio'r apêl wedyn i berson a benodwyd ganddynt i ymdrin â'r apêl, gan ddatgan wrth y person penodedig a oes rhaid ymdrin â'r apêl drwy weithdrefn ysgrifenedig ai peidio ynteu a oes rhaid cynnal gwrandawiad.

9.  Ar ôl i'r apêl gael ei chwblhau gan y person penodedig, rhaid iddo benderfynu'r mater neu, os caiff ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn bod y penderfyniad wedi'i wneud, gyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r apêl.

10.  Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau'r partïon (gan gynnwys partïon sy'n cyflwyno sylwadau) y gwêl yn dda.

RHAN 2Apelau os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

11.  Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi, mae'r gweithdrefnau yn Rhan 1 yn gymwys ac eithrio—

(a)bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi person cyn gynted â bod hysbysiad o apêl yn dod i law;

(b)bod rhaid i'r person penodedig gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru a bennwyd yn y Rhan honno; ac

(c)bod rhaid i'r person penodedig benderfynu'r apêl ym mhob achos.

Rheoliad 30

ATODLEN 6Iawndal

Iawndal am ganiatáu hawliau

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhagnodi—

(a)y cyfnod pryd y caiff person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawliau yn unol â rheoliad 30 wneud cais am iawndal am ganiatáu'r hawliau hynny;

(b)y modd y caniateir i'r cais gael ei wneud, a'r person y caniateir i'r cais gael ei gyflwyno iddo; ac

(c)y modd o benderfynu'r iawndal, ar gyfer penderfynu swm yr iawndal ac ar gyfer gwneud darpariaeth atodol ynglŷn â'r iawndal.

Dehongli

2.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y mae hawl wedi'i ganiatáu ohono neu sy'n rhwym o dan hawl a ganiatawyd; ac

  • ystyr “y grantwr” (“the grantor”) yw'r person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawl.

Y cyfnod ar gyfer gwneud cais

3.  Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau—

(a)ar ddyddiad caniatáu'r hawliau yr hawlir iawndal amdanynt, neu

(b)pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad y caniatawyd yr hawliau hynny mewn perthynas ag ef, ar y dyddiad y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu'n ôl,

p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf.

Dull gwneud cais

4.—(1Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud mewn ysgrifen a'i draddodi yng nghyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person y rhoddwyd yr hawl iddo neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw.

(2Rhaid i'r cais gynnwys—

(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal amdano ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal amdano; ac

(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 5 a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy amdanynt

5.  Mae iawndal yn daladwy am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

(a)unrhyw ddibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo ac sy'n ganlyniad i ganiatáu'r hawl;

(b)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo—

(i)y gellir ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl honno;

(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a

(iii)sy'n golled neu'n ddifrod y byddai hawlogaeth wedi bod gan y grantwr i gael iawndal ar ffurf iawndal am aflonyddu amdani neu amdano, pe bai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981(29), yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynwyd ar y dyddiad y rhoddwyd y grant o'r hawl;

(c)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth i'w gael nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o grant yr hawl neu o arfer yr hawl;

(ch)unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gan y grantwr, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo, y gellir ei phriodoli neu ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl; a

(d)swm unrhyw brisiad a chostau cyfreithiol a dynnwyd yn rhesymol gan y grantwr wrth ganiatáu'r hawl ac wrth baratoi'r cais am iawndal ac wrth negodi swm yr iawndal.

Y sail ar gyfer asesu'r iawndal

6.—(1Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf Iawndal Tir 1961(30) (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwys ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(2Pan fo'r buddiant perthnasol y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais;

(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais); ac

(c)rhaid i unrhyw iawndal sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac, yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

Penderfynu materion sy'n destun dadl

7.—(1Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

(2Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn iawndal, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—

(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (1) o'r paragraff hwn; a

(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y rhoddwyd yr hawliau iddo.

(1)

1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).

(2)

O.S. 1994/2716 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/6.

(3)

OJ Rhif L 24, 29.1.2008, t. 8.

(4)

OJ Rhif L 114, 27.4.2006, t. 9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(5)

OJ Rhif L 377, 31.12.91, t. 20, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(6)

OJ Rhif L 182, 16.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).

(7)

OJ Rhif L 332, 28.12.2000, t. 91, fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t. 52.

(8)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15.

(9)

OJ Rhif L 64 ,4.3.2006, t. 52.

(10)

OJ Rhif L 20, 26.1.80, t. 43, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/692/EC (OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t. 48).

(11)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).

(12)

OJ Rhif L 196, 16.8.67, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(13)

OJ Rhif L 200, 30.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(14)

OJ Rhif L 230, 19.8.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/127/EC (OJ Rhif L 344, 20.12.2008, t. 89).

(15)

OJ Rhif L 123, 24.4.98, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 57).

(16)

OJ Rhif L 319, 12.12.94, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/89/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 4).

(17)

OJ Rhif L 235, 17.9.96, t. 25, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/90/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 6).

(18)

OJ Rhif L 247, 5.10.93, t. 19, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2002/84/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 324, 29.11.2002, t. 53).

(19)

OJ Rhif L 117, 8.5.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/174/EC (OJ Rhif L 59, 5.3.2005, t. 20).

(20)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(21)

OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2008 (OJ Rhif L 188, 16.7.2008, t. 7).

(23)

1985 p.48.

(24)

1991 p.57, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(25)

O.S. 1998/2746 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/3538.

(26)

O.S. 1986/1510 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(27)

O.S. 2001/880 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(28)

O.S. 2005/1435 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(29)

1981 p.67.

(30)

1961 p.33.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill