xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
25.—(1) Mae gweithredwr sy'n atebol am wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth baratoi unrhyw hysbysiad o dan Ran 2, neu wrth sicrhau cydymffurfedd â'r Rhan honno.
(2) Mae'r gweithredwr cyfrifol yn gyfrifol am y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi o dan Ran 3, sef costau—
(a)asesu a yw'r difrod yn ddifrod amgylcheddol;
(b)darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;
(c)darganfod pa waith adfer sy'n briodol;
(ch)gwneud unrhyw ymgynghori sy'n angenrheidiol; a
(d)monitro'r adferiad, yn ystod y gwaith ac ar ei ôl.
(3) Mae costau'n golygu costau, y mae'r angen i sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol ac yn effeithiol, yn eu cyfiawnhau.