xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 94/35, 94/36 neu 95/2, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu ag y sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb dan sylw.

(3Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(11), i awdurdod iechyd porthladd;

(b)drwy orchymyn o dan adran o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(12), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(13), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)lefel uchaf o liw a ganiateir mewn neu ar fwyd, yn gyfeiriad at y lefel uchaf, mewn miligramau, o'r sylwedd lliwio a gynhwysir yn y lliw a ganiateir hwnnw, am bob cilogram neu, yn ôl fel y digwydd, pob litr, o fwyd sy'n barod i'w fwyta ac wedi ei baratoi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio;

(b)lefel uchaf o ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd, neu mewn perthynas ag ychwanegyn bwyd, yn gyfeiriad at y lefel uchaf o'r ychwanegyn amrywiol a ganiateir hwnnw sydd yn neu ar y bwyd, neu mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd, pan werthir y bwyd neu'r ychwanegyn bwyd, oni ddynodir fel arall; neu

(c)quantum satis, mewn perthynas â defnyddio lliwiau a ganiateir neu ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd, yn golygu na phennwyd lefel uchaf o liw a ganiateir neu o ychwanegyn amrywiol a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar fwyd penodol, ond ceir defnyddio lliw a ganiateir neu ychwanegyn amrywiol a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, ar lefel nad yw'n uwch na'r lefel sydd ei hangen i gyflawni'r diben a fwriedir, a hynny yn unig os nad yw defnydd o'r fath yn camarwain y defnyddiwr.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i offeryn UE a bennir ym mharagraff (6) yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(6Yr offerynnau UE yw Cyfarwyddeb 94/35, Cyfarwyddeb 95/2 a Rheoliad 1333/2008.

Defnyddio lliwiau mewn neu ar fwyd

3.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd, unrhyw liw ac eithrio lliw a ganiateir.

(2Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 94/36 ac eithrio yn unol â pharagraff (3)(a).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i reoliadau 4 a 5, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd onid yw'r bwyd—

(a)yn un a restrir—

(i)yn y golofn gyntaf o Atodiad III i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn ail golofn yr Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf ar gyfer y cyfryw liw a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodiad hwnnw,

(ii)yn yr ail golofn o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yng ngholofn gyntaf yr Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf ar gyfer y cyfryw liw a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodiad hwnnw; neu

(iii)yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Rhan 2 o Atodiad V i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir yn Rhannau I neu 2 o'r Atodiad hwnnw, yn unol â'r amodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw sy'n llywodraethu'r defnydd o'r cyfryw liw yn y cyfryw fwyd neu arno; neu

(b)yn un nas rhestrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 94/36 nac yn y golofn gyntaf o Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, ac os felly ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw un neu ragor o'r lliwiau a ganiateir a restrir yn Rhan I o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno, hyd at y maint quantum satis (ym mhob achos).

(4Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir, a restrir yn y golofn gyntaf o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 94/36, mewn neu ar unrhyw fwyd ac eithrio'r bwyd neu fwydydd a restrir, mewn perthynas â'r lliw a ganiateir hwnnw, yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw.

Marcio iechyd etc. cigoedd a chynhyrchion cig penodol

4.  Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw at ddiben y marcio iechyd sy'n ofynnol gan Erthygl 5.1(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(14) nac unrhyw farcio arall sy'n ofynnol ar unrhyw gynnyrch cig, ac eithrio'r lliwiau a ganiateir canlynol—

(a)E155 Brown HT;

(b)E133 Brilliant Blue FCF;

(c)E129 Allura Red AC; neu

(ch)cymysgedd priodol o (b) ac (c).

Defnyddio lliwiau ar blisgyn wyau

5.  Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw ar gyfer—

(a)lliwio addurniadol ar blisgyn wyau, neu

(b)marcio plisgyn wyau (fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO))(15),

ac eithrio lliw a ganiateir.

Gwerthu lliwiau a bwyd sy'n cynnwys lliwiau

6.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw liw i'w ddefnyddio mewn neu ar fwyd onid yw'r lliw hwnnw yn lliw a ganiateir.

(2Ni chaiff neb werthu yn uniongyrchol i'r defnyddiwr unrhyw liw ac eithrio lliw penodedig a ganiateir.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw liw wedi ei ychwanegu ynddo neu arno, ac eithrio lliw a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd hwnnw neu arno heb dorri unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3, 4 neu 5.

Darpariaeth drosiannol

7.  Mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dorri rheoliad 3, 4, 5 neu 6, mae'n amddiffyniad os profir—

(a)bod y lliw neu'r bwyd sy'n destun yr achos wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 1 Ebrill 2005; a

(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(16) fel yr oeddent yn union cyn i Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005(17) ddod i rym.

Defnyddio ychwanegion amrywiol

8.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn yr Atodiad hwnnw mewn neu ar unrhyw fwyd sydd wedi ei restru yn Erthygl 2.3(a) o'r Gyfarwyddeb honno, ond nid yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn yr Atodiad hwnnw mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir neu y cyfeirir ato mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf (os oes un) ar gyfer y cyfryw ychwanegyn, yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn y drydedd golofn o'r Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2 mewn neu ar unrhyw fwyd nad yw wedi ei restru yn Erthygl 2.3(a) o'r Gyfarwyddeb honno nac yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno ac nad yw'n fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, mewn maint sy'n fwy na quantum satis nac mewn modd nad yw'n cydymffurfio â Nodyn 2 ac ail baragraff Nodyn 3 i Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno.

(5Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn Atodiad III neu IV i Gyfarwyddeb 95/2 mewn neu ar unrhyw fwyd nad yw'n fwyd i fabanod neu blant ifanc, ac eithrio bwyd a restrir yn y naill neu'r llall o'r Atodiadau hynny mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw ac yn unol â'r darpariaethau a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny, sy'n llywodraethu'r defnydd o'r cyfryw ychwanegyn yn y bwyd hwnnw neu arno

(6Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn hwnnw yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 95/2, ac y mae ei ddefnyddio yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau (os oes rhai) a grybwyllir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn y drydedd golofn o'r Atodiad hwnnw.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc onid yw'r ychwanegyn hwnnw wedi ei restru yn Atodiad VI i Gyfarwyddeb 95/2 , ac os felly caniateir ei ddefnyddio yn unol â'r amodau hynny yn unig, a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw.

(8Ni chaiff neb ddefnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc, unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad gydag ychwanegyn amrywiol sydd wedi ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn amrywiol hwnnw wedi ei restru yn Atodiad VI i Gyfarwyddeb 95/2 a'i bresenoldeb yn y bwyd neu arno yn unol â'r amodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw.

Gwerthu ychwanegion bwyd a bwyd sy'n cynnwys ychwanegion amrywiol

9.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn amrywiol ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar fwyd onid yw'r ychwanegyn hwnnw'n ychwanegyn amrywiol a ganiateir.

(2Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn amrywiol ar gyfer ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn hwnnw'n ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 95/2.

(3Ni chaiff neb werthu yn uniongyrchol i'r defnyddiwr unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw ychwanegyn amrywiol ynddo neu arno, onid yw'r ychwanegyn yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir ac wedi ei ddefnyddio, neu'n bresennol, yn y bwyd hwnnw neu arno heb dorri unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1), (2), (3), (4), (5), (7) neu (8).

(5Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad gydag ychwanegyn amrywiol sydd wedi ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn amrywiol hwnnw wedi ei ddefnyddio mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd perthnasol hwnnw heb dorri darpariaethau rheoliad 8(6).

Darpariaethau trosiannol ac esemptiad

10.—(1Mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dorri rheoliad 8(1) pan honnir nad yw ychwanegyn amrywiol wedi bodloni'r meini prawf purdeb ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw, mae'n amddiffyniad os yw'r cyhuddedig yn dangos—

(a)mai'r ychwanegyn amrywiol dan sylw yw E431-E43 neu polyethylen glycol 000 a bod yr ychwanegyn amrywiol dan sylw, neu unrhyw fwyd y'i defnyddiwyd ynddo neu arno, wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 1 Tachwedd 2004; neu

(b)mai'r ychwanegyn amrywiol dan sylw yw E407, E407A, E1517 neu E1519 ac y rhoddwyd yr ychwanegyn amrywiol neu'r bwyd sydd dan sylw ar y farchnad, neu y'i labelwyd, cyn 1 Ebrill 2005,

ac na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(18) pe na bai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 3 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005(19) wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd y mater hwnnw.

(2Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 8 neu 9 mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn, mae'n amddiffyniad os profir bod—

(a)yr ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn dan sylw wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 27 Ionawr 2006; a

(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 pe na bai'r diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau hynny gan reoliadau 3 i 6, 7(b), 8(a) a (b), 9(a), 10 ac 11(a) i (c), (d) i (ff) a (h) i (i) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005(20) wedi bod mewn grym pan roddwyd yr ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn ar y farchnad neu y'i labelwyd.

(3Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 8 neu 9 mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn bwyd neu fwyd, mae'n amddiffyniad os profir bod—

(a)yr ychwanegyn bwyd neu'r bwyd dan sylw wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 15 Awst 2008; a

(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 pe na bai'r diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau hynny gan reoliadau 5(a), 6(a), (b) ac (ch), ac 8 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008(21) wedi bod mewn grym pan roddwyd yr ychwanegyn bwyd, neu'r bwyd ar y farchnad neu y'i labelwyd.

Rhoi melysyddion ar y farchnad, a'u defnyddio

11.—(1Ni chaiff neb roi ar y farchnad felysydd y bwriedir—

(a)ei werthu i'r defnyddiwr terfynol; neu

(b)ei ddefnyddio mewn, neu ar, unrhyw fwyd,

ac eithrio melysydd a ganiateir.

(2Ni chaiff neb ddefnyddio melysydd mewn, neu ar, unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir—

(a)a ddefnyddir mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn y drydedd golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 mewn maint nad yw'n fwy na'r dos defnyddiadwy mwyaf ar gyfer y melysydd hwnnw, a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y bedwaredd golofn o'r Atodiad hwnnw; a

(b)a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw.

Gwerthu bwyd sy'n cynnwys melysyddion

12.  Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd sydd â melysydd ynddo neu arno, ac eithrio melysydd a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd hwnnw neu arno heb dorri paragraff (2) o reoliad 11.

Darpariaeth drosiannol

13.  Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 11 neu 12, mae'n amddiffyniad os profir—

(a)bod y weithred sy'n peri'r tramgwydd wedi ei chyflawni cyn 29 Ionawr 2006;

(b)mai'r weithred sy'n peri tramgwydd oedd—

(i)gwerthu melysydd neu fwyd, neu

(ii)defnyddio melysydd mewn neu ar fwyd,

a oedd, yn y naill achos neu'r llall wedi ei roi ar y farchnad cyn 29 Gorffennaf 2005; ac

(c)na fyddai'r weithred sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(22) pe na bai'r diwygiadau a wnaed gan reoliadau 3(1)(a) ac (c) a (2) a 4, 5, 6 a 7 o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005(23) wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd y weithred.

Tramgwyddau a chosbau

14.—(1Mae person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o reoliad 3, 4, 5, 6, 8, 9, 11 neu 12 yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 34 o Reoliad 1333/2008, mae person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag—

(a)unrhyw ddarpariaeth benodedig o Reoliad 1333/2008;

(b)cyn 1 Ionawr 2011, Erthygl 4.2 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 12, 13.2, 18.3 a 35) o Reoliad 1333/2008 (gofyniad i ddefnyddio, mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd neu gyflasynnau bwyd, yr ychwanegion bwyd hynny yn unig a gynhwysir yn Rhan 1 neu 4 o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw ac i'w defnyddio yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Atodiad hwnnw);

(c)ar neu ar ôl 1 Ionawr 2011, Erthygl 4.2 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 12, 13.2, 18.3 a 35) o Reoliad 1333/2008 (gofyniad i ddefnyddio, mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd neu gyflasynnau bwyd, yr ychwanegion bwyd hynny yn unig a gynhwysir yn Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw ac i'w defnyddio yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Atodiad hwnnw);

(ch)ar neu ar ôl 20 Ionawr 2011, Erthygl 23.4 o Reoliad 1333/2008 (gofyniad bod gweithgynhyrchwyr melysyddion pen-bwrdd yn rhoi ar gael, mewn ffyrdd priodol, yr wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu i'r defnyddwyr eu defnyddio'n ddiogel); neu

(d)ar neu ar ôl 20 Gorffennaf 2010, Erthygl 24.1 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24.2 a'r trydydd paragraff o Erthygl 31) o Reoliad 1333/2008 (gofyniad bod y labeli ar fwyd sy'n cynnwys y lliwiau bwyd a restrir yn Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw yn cynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodiad hwnnw),

yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gweithredu a gorfodi

15.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi, o fewn ei ardal, y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1333/2008.

Cymhwyso amrywiol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

16.—(1Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(24) gyda'r addasiad bod—

(i)is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a

(ii)yn is-adran (4)(b) ystyrir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market” ;

(ch)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);

(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(25), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b);

(e)adran 35(2) a (3)(26), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(c);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(27).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad), at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli'r cyfeiriadau at y Ddeddf yn is-adran (1) fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1333/2008.

(3Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn y darpariaethau hynny i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1333/2008 a'r Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market”, yn eu trefn;

(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)adran 33(2), gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); ac

(ch)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(4Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau cosbadwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Condemnio bwyd

17.  Pan fo dadansoddwr bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ei ddefnyddio, ei werthu neu ei roi ar y farchnad,ceir trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (sy'n caniatáu ymafael mewn bwyd a'i ddinistrio ar orchymyn ynad heddwch) fel bwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

Diwygiadau canlyniadol

18.—(1Yn Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966(28) yn rheoliad 3 (esemptiadau), yn lle is-baragraff (d) o baragraff (1), i'r graddau y mae'r ddarpariaeth honno'n gymwys o ran Cymru, rhodder yr is-baragraff canlynol—

(d)any food containing mineral hydrocarbon that is used in the food as a miscellaneous additive as defined in the Food Additives (Wales) Regulations 2009 in compliance with the provisions of those Regulations..

(2Yn Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(29), yn lle paragraff o Atodlen 3 (cynhwysion ychwanegol a ganiateir mewn cynhyrchion dynodedig penodol) rhodder y paragraff canlynol—

6.  Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd..

(3Yn Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003(30) yn lle paragraff (a) o Nodyn 1 i Atodlen 1 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—

(a)Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys—

(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd, a

(ii)fitaminau a mwynau yn unol â gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (31)..

(4Yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004(32), yn lle'r Nodyn cyntaf i Atodlen 3 (cynhwysion ychwanegol nad oes angen eu dynodi yn enw'r bwyd mewn achos cynnyrch cig y mae rheoliad 5 yn gymwys iddo) rhodder y Nodyn canlynol—

(5Yn Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004(34)

(a)ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) rhodder y diffiniad canlynol—

(b)yn Atodlen 2 (cynhwysion ychwanegol a ganiateir a thriniaethau awdurdodedig ar gyfer cynhyrchion a ddisgrifiwyd yn eitemau 1 i 7 o Atodlen 1), yn lle is-baragraff (i) o baragraff (1) rhodder yr is-baragraff canlynol—

(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd..

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr enodedig (Cymru) 2003

19.  Yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003(35), yn lle Nodyn 7 i Atodlen 1 (cynhyrchion siwgr penodedig a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—

7.  Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (Ail-luniwyd)(36) neu Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd..

Dirymiadau

20.  Dirymir y Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(37);

(b)Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995;

(c)Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995; ac

(ch)Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2009