xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
35.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddynt sail resymol dros amau, fod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd gan y naill neu'r llall ohonynt bŵer i ddyroddi datganiad ysgrifenedig yn atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu yn gosod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.
(2) Rhaid i ddatganiad o'r fath gael ei gyhoeddi yn y modd y gwêl y person a'i dyroddodd yn dda a rhaid pennu'r cynnyrch a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.
(3) Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
(6) Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei ddirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.