xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 311 (Cy.33)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2009

Gwnaed

17 Chwefror 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Chwefror 2009

Yn dod i rym

11 Mawrth 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2009 sy'n dod i rym ar 11 Mawrth 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997

2.  Yn y diffiniad o “NHS sight test fee” yn rheoliad 1(2) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(2)

(a)yn lle “£53.34” rhodder “£54.67”; a

(b)yn lle “£19.32” rhodder “£19.80”.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

17 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 er mwyn cyfeirio at godiad yn y ffioedd ar gyfer profion golwg GIG o 2.5%.

(2)

O.S. 1997/818 fel y'i diwygiwyd.