RHAN 9Amrywiol
Cyflwyno dogfennau, etc
39.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), cyflawnir unrhyw ofyniad neu bŵer yn y Rheoliadau hyn neu mewn cynllun trwyddedau i anfon dogfen neu wybodaeth ac eithrio hysbysiad cosb benodedig drwy anfon y ddogfen neu'r wybodaeth honno gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig.
(2) Pan fo person —
(a)wedi darparu i Awdurdod Trwyddedau gyfeiriad i hysbysiadau cosb benodedig gael eu cyflwyno iddo drwy ddefnyddio dull penodol ar gyfer trawsyrru cyfathrebiad electronig; a
(b)heb hysbysu'r Awdurdod Trwyddedau bod y cyfeiriad wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw;
rhaid i hysbysiad cosb benodedig gael ei roi iddo drwy ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r dull hwnnw, yn unol â'r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
(3) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991, pan fo cyfathrebu electronig yn cael ei ddefnyddio at ddibenion anfon dogfen neu wybodaeth, yna, oni phrofir y gwrthwyneb, bernir bod y ddogfen neu'r wybodaeth wedi'i rhoi ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodwyd gan yr offer trawsyrru fel y diwrnod a'r amser y cwblhawyd y trawsyriant yn foddhaol.
(4) Rhaid i gyfathrebiad electronig fod —
(a)yn un y mae modd i'r person yr anfonwyd ef ato ei gyrchu;
(b)yn ddarllenadwy; ac
(c)ar ffurf sy'n ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.
(5) Pan na fo'n bosibl defnyddio cyfathrebiad electronig neu, mewn perthynas â hysbysiad cosb benodedig, pan na fo paragraff (2) yn gymwys, caniateir i'r cyflwyno gael ei wneud drwy unrhyw un o'r moddion canlynol —
(a)traddodi'r hysbysiad hwnnw i'r person y mae i'w roi iddo;
(b)ei adael yn ei briod gyfeiriad;
(c)ei anfon ato yn ei briod gyfeiriad drwy bost dosbarth cyntaf; neu
(ch)unrhyw fodd arall y bydd yr anfonydd a'r derbynnydd yn cytuno arno.
(6) Priod gyfeiriad unrhyw berson at ddibenion y rheoliad hwn, a hynny'n ddarostyngedig i baragraff (7)—
(a)pan fo'r person hwnnw wedi darparu i'r anfonydd gyfeiriad ar gyfer cyflwyno at ddibenion cynlluniau trwyddedau, yw'r cyfeiriad hwnnw;
(b)fel arall —
(i)yn achos corfforaeth, yw swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r gorfforaeth honno; neu
(ii)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw.
(7) Caiff person ddarparu cyfeiriadau gwahanol ar gyfer hysbysiadau gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o hysbysiad.
(8) Pan na fo gan Awdurdod Trwyddedau drefniadau ar gyfer derbyn cyfathrebiadau ar unrhyw adeg y tu allan i oriau busnes, bernir bod unrhyw ofyniad a osodir gan neu o dan gynllun trwyddedau i anfon dogfen neu wybodaeth at yr Awdurdod Trwyddedau erbyn diwrnod penodol wedi'i fodloni os yw'r ddogfen neu'r wybodaeth wedi'i derbyn gan yr Awdurdod Trwyddedau cyn 10.00 o'r gloch ar y diwrnod gwaith canlynol.
(9) Ym mharagraff (8), ystyr “oriau busnes” (“business hours”) yw'r cyfnod o 08.00 o'r gloch tan 16.30 o'r gloch ar ddiwrnod gwaith.
Peidio â chamwahaniaethu
40. Heb ragfarnu gweithrediad Rhannau 5 a 6 o'r Rheoliadau hyn, rhaid i Awdurdod Trwyddedau weithredu cynllun trwyddedau a wnaed ganddo heb gamwahaniaethu rhwng gwahanol ddosbarthiadau o geisydd am drwyddedau neu am flaenawdurdodiadau dros dro.