xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 591 (Cy.60) (C.22)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn) (Cymru) 2008

Gwnaed

3 Mawrth 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 245(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (Cychwyn) (Cymru) 2008.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac eithrio mewn perthynas ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007;

ystyr “Deddf 1999” (“the 1999 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999(2); ac

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(3).

2.  Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2008—

(a)adran 137;

(b)adran 140;

(c)adran 210; ac

(ch)adran 241, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Rhan 8 o Atodlen 18 i—

(i)adrannau 5 a 6(2)(c), (d) ac (l) o Ddeddf 1999;

(ii)y gair “5,” yn adran 28(2) o Ddeddf 1999;

(iii)y geiriau “Subject to subsection (5),” yn adran 21(4) o Ddeddf 2000; a

(iv)adran 21(5) o Ddeddf 2000.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 (“Deddf 2007”) i rym o ran Cymru ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud ag awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2007 i rym ar 1 Ebrill 2008:

(a)adran 137, sy'n mewnosod adran 3(4) newydd yn Neddf Llywodraeth Leol 1999 (“Deddf 1999”) fel bod rhaid i awdurdod, wrth benderfynu ar sut i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 3(1) o Ddeddf 1999 ac wrth benderfynu â phwy i ymgynghori o dan adran 3(2) o'r Ddeddf honno ac ar ffurf, cynnwys ac amseriad y cyfryw ymgynghoriadau, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru;

(b)adran 140, sy'n hepgor adran 5 o Ddeddf 1999 (dyletswydd ar awdurdod i gynnal adolygiadau gwerth gorau);

(c)adran 210, sy'n galluogi Gweinidogion Cymru, i wneud darpariaeth o ran Cymru, drwy orchymyn, yn cymhwyso unrhyw ddarpariaethau o adrannau 205 i 208 o Ddeddf 2007 sy'n ymwneud â chydawdurdodau gwastraff; ac

(ch)adran 241, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Rhan 8 o Atodlen 18 o ddarpariaethau yn Neddf 1999 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 ynghylch adran 5 o Ddeddf 1999.