xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 3144 (Cy.279)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

CADWRAETH PYSGOD MÔR

Gorchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

8 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

2 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno(3), o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yng Ngorchymyn 2008 fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3(1) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(4), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 2 Ionawr 2009.

Diwygiadau

2.—(1Diwygir Gorchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) 2008(5) fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3, paragraff 1(d), o'r testun Saesneg yn lle “or” rhodder “of”, ac yn erthygl 3, paragraff 1(ch) o'r testun Gymraeg dileer y gair “ac”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 3(1)(ch) o Orchymyn Rhwydi Pysgota Berdys (Cymru) 2008 (“Gorchymyn 2008”).

(1)

O.S. 2005/2766 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329). Yn rhinwedd adrannau 59(1) ac 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)) yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(4)

1967 p.84. Diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Terfynau Pysgodfeydd 1976 (p.86), adran 9(1) ac Atodlen 2, paragraff 16(1); Deddf Pysgota'r Glannau (Yr Alban) 1984 (p.26), adran 10 (1) ac Atodlen 1 ac O.S. 1999/1820, erthygl 4, Atodlen 2, Rhan1, paragraff 43(1), (2) a (4). Gweler adran 22(2)(a) am ddiffiniadau o “the Ministers” at ddibenion adran 3; diwygiwyd adran 22(2) gan Ddeddf Pysgodfeydd 1981 (p.29), adrannau 19(2)(d) a 45(b) ac (c) a chan O.S. 1999/1820, erthygl 4, paragraff 43(12) o Atodlen 2. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidogion yn adrannau 3(1) o Ddeddf 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (fel y'i cyfansoddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998) gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.38) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.