Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 215 (Cy.26)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Wedi'u gwneud

2 Chwefror 2008

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Chwefror 2008

Yn dod i rym

1 Medi 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau sydd yn adrannau 132, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 (1) ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 132(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Medi 2008.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(2).

Diwygio'r Prif Reoliadau

3.  Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn:

4.  Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 hepgorer y gair “ac” ar ddiwedd (b).

5.  Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 mewnosoder ar ôl (b) y paragraff canlynol—

(c)dim ond o ran personau sy'n dechrau ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ar neu ar ôl 1 Medi 2008 sydd wedi dilyn unrhyw gyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw o hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn ysgol, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru; ac.

6.  Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle “(c)” rhodder “(ch)”.

7.  Ym mharagraff 11(3)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 ar ôl “y drwydded;” mewnosoder “a”.

8.  Hepgorer paragraff 11(3)(b) o Ran 1 o Atodlen 2.

9.  Yn is-baragraff 11(3) o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle “(c)” rhodder “(b)”.

10.  Ym mharagraff (4) o reoliad 6 ac yn is-baragraff 11(1), is-baragraff 11(2) a pharagraff 11(3)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle “Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey” rhodder “Adran Addysg Taleithiau Guernsey”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

2 Chwefror 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, (sy'n gymwys o ran Cymru), yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004. Gwnaed newidiadau i nifer o'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn ennill statws athrawon cymwysedig yng Nghymru. Diwygir y cyfeiriadau at Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey, a beidiodd â bodoli ar 6 Mai 2004 ac a ddisodlwyd gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey.

(1)

2002 p.32; rhoddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn Neddf Addysg 2002 a'u trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).