xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1341 (Cy.141)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008

Gwnaed

21 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mai 2008

Yn dod i rym

1 Gorffennaf 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn.

Esemptiadau rhag y Rheoliadau hyn

3.—(1Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, onid oes, a hyd oni fydd, penderfyniad gan Gydbwyllgor yr AEE i ddiwygio Cytundeb yr AEE o dan Erthygl 98 fel y bydd yn cyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr AEE yn gymwys iddo ac—

(a)y daethpwyd ag ef i Gymru —

(i)o Wladwriaeth AAE (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon, neu

(ii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig os daethpwyd â'r braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth AAE o'r fath; a

(b)sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y braster taenadwy.

(2Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn —

(a)y daethpwyd ag ef i Gymru —

(i)o Wladwriaeth AAE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon,

(ii)o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon, neu

(iii)o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle'r oedd yn cael ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon neu mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon; a

(b)sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y margarîn.

(3At ddibenion paragraff (2), mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd.

Cynnwys margarîn o ran fitaminau

4.  Ni chaiff neb fanwerthu unrhyw fargarîn onid yw'n cynnwys ym mhob 100 gram —

(a)dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1,000 o ficrogramau o fitamin A, a

(b)dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 ficrogram o fitamin D,

a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.

Gorfodi

5.  Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau a chosb

6.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r canlynol, neu'n methu â chydymffurfio â'r naill neu'r llall ohonynt, sef —

(a)rheoliad 4; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Y darpariaethau Cymunedol yw —

(a)Erthygl 114(1) o Reoliad y Cyngor (disgrifiadau rhagnodedig ar gyfer llaeth a chynhyrchion llaeth) fel y'i darllenir gydag Atodiad XII i'r Rheoliad hwnnw;

(b)Erthygl 115 o Reoliad y Cyngor (safonau marchnata sy'n gymwys i frasterau taenadwy, gan gynnwys meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer disgrifiadau neilltuedig), fel y'i darllenir gydag —

(i)Atodiad XV i Reoliad y Cyngor,

(ii)Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I iddo, neu

(iii)Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad II iddo; ac

(c)Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (gofynion sy'n ymwneud â defnyddio'r dynodiad “butter” ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd) fel y'i darllenir gydag Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

7.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)adran 2 (ystyr estynedig “saleetc.);

(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);

(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;

(d)adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33 (rhwystro swyddogion);

(f)adran 35(1) i (3) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).

(2Bydd adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn yr adran honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol.

Dirymiadau

8.  Mae'r offerynnau canlynol wedi'u dirymu —

(a)Rheoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) 1990(5), i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru;

(b)Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001(6);

(c)Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007(7).

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

21 Mai 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, o ran Cymru, ddarpariaethau penodol yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (OJ Rhif L299, 16.11.2007, t.1) (“Rheoliad y Cyngor”).

2.  Mae Rheoliad y Cyngor yn diddymu nifer o offerynnau eraill yr Undeb Ewropeaidd (“UE”) ac yn ailddeddfu eu darpariaethau heb eu diwygio. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau a gynhwyswyd gynt yn nau o offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd (“CE”) a ddiddymwyd ac a orfodwyd o'r blaen mewn dau offeryn statudol ar wahân.

3.  Mae darpariaethau Rheoliad y Cyngor yn cynnwys:

(a)y gofyniad bod rhaid i laeth a chynhyrchion llaeth sy'n cael eu marchnata i bobl eu hyfed neu eu bwyta gydymffurfio â manylebau penodol ynghylch enwau a chyfansoddiad (Erthygl 114(1) ac Atodiad XII); a

(b)y gofyniad bod rhaid i frasterau taenadwy penodol sydd wedi'u bwriadu i bobl eu bwyta gydymffurfio â manylebau ynglyn â'u disgrifiad at ddibenion gwerthu, dull eu labelu a'u cyflwyno, a'r defnydd o derminoleg (Erthygl 115 ac Atodiad XV).

4.  Mae'r darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliad y Cyngor ynghylch brasterau taenadwy wedi'u hategu gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 (OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24).

5.  Mae'r Rheoliadau yn yr offeryn hwn —

(a)yn darparu esemptiad ar gyfer brasterau taenadwy a fewnforir o wladwriaeth AAE ac eithrio Aelod-wladwriaeth (rheoliad 3(1));

(b)yn pennu'r lefelau gofynnol ar gyfer fitaminau penodol mewn margarîn (rheoliad 4), yn ddarostyngedig i esemptiad ar gyfer margarinau y deuir â hwy i Gymru o fannau eraill yn yr AAE neu'r DU ac nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau cenedlaethol hyn (rheoliad 3(2));

(c)yn dynodi'r awdurdodau sy'n gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliadau UE a grybwyllwyd ym mharagraffau 3 a 4 uchod (rheoliad 5);

(ch)yn creu tramgwydd diannod o fethu â chydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn neu ddarpariaethau perthnasol yr UE (rheoliad 6); a

(d)yn cymhwyso darpariaethau penodol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn.

6.  Nid oes asesiad rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a wnaed yn arferadwy wedi hynny gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(3)

OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24.

(4)

OJ Rhif L299, 16.11.2007, t.1. Mae diwygiadau i'r Rheoliad hwn ond nid yw unrhyw un ohonynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.

(5)

O.S. 1990/607, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486.