xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 52

ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

1.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â'r Atodlen hon.

2.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—

(a)ei fod yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;

(b)bod ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(c)ei fod yn cymryd cwrs cymhwysol—

(i)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y myfyriwr yn parhau i'w fynychu ar ôl 31 Awst 2008; neu

(ii)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2008;

(ch)ei fod yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;

(d)ei fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac

(e)nad oes dim o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys iddo.

3.  Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Ran 2 Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Myfyrwyr anabl

4.  Ymdrinnir â myfyriwr anabl sy'n ymgymryd â chwrs cymhwysol yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd ei fod yn anabl i fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd fel pe bai'n bresennol ar y cwrs cymhwysol at y diben o gymhwyso ar gyfer benthyciad at ffioedd coleg.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

5.  Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd —

(a)gall myfyriwr gael yr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

6.  Y digwyddiadau yw —

(a)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

7.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.

8.  Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

9.  Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac a fyddai'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.

10.  I gael benthyciad at ffioedd coleg rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo mewn contract â Gweinidogion Cymru.

Swm y benthyciad at ffioedd coleg

11.—(1Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu i'w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Os yw'r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

12.  Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi terfynu;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (c) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo ar yr amod bod yr amodau ym mharagraff 13 wedi'u bodloni ac nad yw'n gallu cymhwyso i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno;

(c)os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, nid yw'n gallu wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae'n trosglwyddo iddo.

Talu

13.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—

(a)cyn eu bod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a

(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ar unrhyw ffurf y caiff Weinidogion Cymru ofyn amdani a rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai eu bod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” yr un ystyr ag yn rheoliad 61.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol —

(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a

(b)os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl y digwydd, yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg bod yn rhaid i'r myfyriwr cymhwysol roi iddynt rif ei yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o'r benthyciad i'r myfyriwr cymhwysol cyn eu bod wedi'u bodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymhwysol os ydynt wedi'u bodloni oherwydd amgylchiadau eithriadol y byddai'n briodol gwneud taliad o'r fath heb fod y myfyriwr cymhwysol wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan baragraff (1).

Gofynion gwybodaeth

15.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am wybodaeth y maent o'r farn bod ei hangen i adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymhwysol ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymhwysol am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i'r person ddarparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull ad-dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i'r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.

Gordaliadau

16.  Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol.