Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd
19.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor rhag bod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd —
(a)os yw'r flwyddyn honno'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu
(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs HCA ôl-radd hyblyg.