xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17. Ni chaiff neb ac eithrio deiliad awdurdodiad marchnata, awdurdodiad gweithgynhyrchu neu awdurdodiad deliwr cyfanwerthu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2007(1) gael gafael ar frechlyn ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
18. Ac eithrio pan fo rheoliad 19 yn gymwys, ni chaiff neb frechu anifail yn erbyn y tafod glas ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
19.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle bydd yn rhaid i unrhyw feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu brechu a'u bod yn cydymffurfio ag unrhyw fesurau eraill sy'n ymwneud naill ai â'r brechu neu â'r brechlyn a bennir yn y datganiad hwnnw.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid mewn mangre hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad hwnnw sicrhau bod yr anifeiliaid yn y fangre yn cael eu brechu.