xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
8.—(1) Rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw anifail neu garcas, neu unrhyw berson sy'n archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail neu garcas, ac sy'n gwybod neu'n amau bod yr anifail neu'r carcas hwnnw wedi'i heintio â'r tafod glas—
(a)hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith; a
(b)peidio â symud unrhyw anifail neu garcas i'r fangre neu o'r fangre lle y gwyddys bod yr anifail neu'r carcas, y mae'n hysbys neu yr amheuir ei fod wedi'i heintio, wedi'i leoli, ac eithrio yn ôl awdurdodiad arolygwr.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi sampl a gymerwyd o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n dod o hyd i dystiolaeth o wrthgorffynnau i feirws y tafod glas, neu antigenau neu asidau niwclëig ohono, neu unrhyw dystiolaeth o frechu ar gyfer y tafod glas, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.
(3) Ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru i gael gwybodaeth am anifeiliaid neu garcasau a'r clefyd arnynt neu yr amheuir bod y clefyd arnynt ar gyfer yr ardal lle mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.
9.—(1) Rhaid i arolygydd sy'n gwybod neu'n amau bod feirws y tafod glas yn bodoli ar unrhyw fangre gyflwyno ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol—
(a)na fydd unrhyw anifail, ofwm, semen neu embryo yn mynd i mewn i'r fangre nac yn ymadael â hi;
(b) bod stocrestr o'r holl anifeiliaid yn y fangre yn cael ei llunio, a honno'n cofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth—
(i)y nifer sydd wedi marw;
(ii)y nifer sy'n fyw ac y mae'n ymddangos bod y tafod glas arnynt; a
(iii)y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos nad yw'r tafod glas arnynt;
(c)bod y stocrestr yn cael ei chadw'n rhestr gyfoes;
(ch)bod pob anifail yn y fangre yn cael ei gadw dan do neu fel y cyfarwyddir gan arolygydd;
(d) bod y fangre a'r anifeiliaid ynddi yn ddarostyngedig i'r mesurau rheoli gwybed a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno os yw'r arolygydd milfeddygol yn amau bod anifeiliaid yn y fangre o fewn cyrraedd i feirws y tafod glas.
(3) Rhaid i'r person sy'n llunio'r stocrestr gadw cofnod ohoni am o leiaf ddwy flynedd.
10.—(1) Os yw arolygydd yn amau bod feirws y tafod glas yn bodoli yn unrhyw fangre, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth rheoli dros dro.
(2) Pan fo parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu yn Lloegr a bod y parth hwnnw'n cyffwrdd â ffin Cymru, caiff Gweinidogion Cymru sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru.
(3) Rhaid i leoliad a maint y parth rheoli dros dro fod yn briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, i atal y clefyd rhag lledaenu.
(4) Pan fo parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb symud unrhyw anifail i fangre neu o fangre sydd yn y parth ac eithrio'n unol â thrwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.
(5) Mae parth rheoli dros dro yn peidio â bod mewn unrhyw ardal sy'n cael ei hymgorffori wedyn mewn parth rheoli neu barth dan gyfyngiadau.
11. Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod y tafod glas yn bodoli mewn unrhyw fangre, caniateir iddo gyflwyno i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno hysbysiad—
(a)sy'n cadarnhau bod y tafod glas yn bodoli yn y fangre; a
(b)sy'n hysbysu'r meddiannydd, er gwaethaf rheoliad 8, nad oes angen hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o unrhyw achosion pellach lle'r amheuir bod y tafod glas yn y fangre.
12.—(1) Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod feirws y tafod glas yn cylchredeg yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fônt wedi'u bodloni ar sail epidemiolegol, daearyddol, ecolegol neu feteorolegol, fod hynny'n briodol at ddibenion rheoli'r clefyd, ddatgan bod ardal yn barth rheoli.
(2) Rhaid i'r parth rheoli gynnwys y fangre heintiedig, a bod o'r maint sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion rheoli'r clefyd.
(3) Ni chaiff neb symud anifail i fangre sydd mewn parth rheoli na'i symud ohoni.
13.—(1) Os bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod feirws y tafod glas yn cylchredeg yng Nghymru—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan bod ardal briodol yn barth dan gyfyngiadau;
(b)caiff Gweinidogion Cymru, oddi mewn i barth dan gyfyngiadau, ddatgan bod unrhyw ardal o amgylch mangre heintiedig yn barth gwarchod, a bod unrhyw ardal sydd y tu hwnt i'r parth gwarchod hwnnw'n barth gwyliadwriaeth.
(2) Ni chaiff neb symud anifail, semen, ofwm nac embryo allan o barth dan gyfyngiadau ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(3) Ni chaiff neb symud unrhyw anifail allan o barth gwarchod ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(4) Rhaid i arolygydd roi trwydded os yw'r symudiad yn un a ganiateir o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 fel y'i diwygir o dro i dro, a rhaid i amodau unrhyw drwydded fod yn rhai sy'n sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â'r Rheoliad hwnnw.
(5) Gwaherddir person rhag symud anifail oddi mewn i barth dan gyfyngiadau os bydd yr anifail yn amlygu arwyddion clinigol o'r tafod glas ar y diwrnod cludo.
14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi lladd-dŷ at ddibenion cigydda anifeiliaid a gludir allan o barth dan gyfyngiadau.
(2) Os caiff anifail ei gludo o barth dan gyfyngiadau i ladd-dŷ oddi allan i'r parth dan gyfyngiadau yn unol â thrwydded, rhaid i weithredydd y lladd-dŷ gigydda'r anifail hwnnw o fewn 24 awr iddo gyrraedd yno.
(3) Dim ond os yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan Weinidogion Cymru y caiff gweithredydd lladd-dŷ mewn parth gwyliadwriaeth gigydda anifail o barth gwarchod.
15. Os yw anifail, semen, ofwm neu embryo a fu mewn parth dan gyfyngiadau yn cael ei symud i fangre oddi allan i'r parth dan gyfyngiadau, caiff arolygydd gyflwyno i feddiannydd y fangre honno, ac i feddiannydd unrhyw fangre y caiff yr anifail, y semen, yr ofwm neu'r embryo ei symud iddi wedyn, hysbysiad sy'n gwahardd ei symud o'r fangre honno ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.
16. Os cadarnheir bod y tafod glas yn bresennol y tu allan i Gymru a bod Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol at ddibenion rheoli'r clefyd, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan yng Nghymru barth rheoli dros dro, parth rheoli, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth neu barth dan gyfyngiadau (y caniateir iddo gael ei ffurfio o barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth).