Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1090 (Cy.116)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008

Gwnaed

16 Ebrill 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Ebrill 2008

Yn dod i rym

26 Ebrill 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriad at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 (ar weithredu rheolau ar gyfer Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC ynghylch rheoli a monitro rhywogaethau penodol o anifeiliaid a allai gael eu heintio o ran y tafod glas, gwyliadwriaeth o'r rhywogaethau hynny a chyfyngiadau ar eu symud(3)) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno(4).

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 26 Ebrill 2008.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail sy'n cnoi cil (ac at ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod pob camelid yn anifail sy'n cnoi cil) ac ystyr “carcas” (“carcase”), “embryo” (“embryo”), “ofwm” (“ovum”) a “semen” (“semen”) yw carcas, embryo, ofwm a semen anifail o'r fath;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;

ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “brechlyn” (“vaccine”) yw brechlyn yn erbyn feirws y tafod glas;

ystyr “gwybedyn” (“midge”) yw pryfyn o'r genws Culicoides;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan neu le;

ystyr “mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle mae bodolaeth y tafod glas wedi'i chadarnhau; ac

ystyr “parth rheoli” (“control zone”) yw parth y cyfeirir ato yn rheoliad 12.

(2Rhaid i unrhyw awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu ddynodiad o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir diwygio, atal, neu ddirymu unrhyw un ohonynt drwy hysbysiad ar unrhyw bryd.

Esemptiadau

3.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)unrhyw beth y mae person wedi'i awdurdodi i'w wneud drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(5);

(b)unrhyw ganolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(6);

(c)rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2007(7).

Trwyddedau

4.—(1Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cario'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;

(b)dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd.

(2Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—

(a)cario, ar bob adeg yn ystod y symudiad, nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion am y canlynol—

(i)yr hyn sy'n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono;

(ii)dyddiad y symudiad;

(iii)enw'r traddodwr;

(iv)cyfeiriad y fangre y dechreuodd y symudiad ohoni;

(v)enw'r traddodai;

(vi)cyfeiriad mangre pen y daith;

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd.

Trwyddedau a roddwyd y tu allan i Gymru

5.  Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo fel arall a chan eithrio mewn cysylltiad â thrwydded i gael brechlyn neu drwydded i frechu, mae trwyddedau a roddwyd yn yr Alban neu yn Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Datgan parthau

6.  O ran datganiadau parthau—

(a)rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;

(b)caniateir eu diwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw adeg;

(c)rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth sy'n cael ei ddatgan; ac

(ch)ni chaniateir eu dirymu ond drwy ddatganiad pellach.

Mangreoedd sy'n pontio parthau

7.—(1Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro ac nad yw oddi mewn i unrhyw barth arall fel mangre sydd oddi mewn i'r parth rheoli dros dro.

(2Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.

(3Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth brechu fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.

(4Fel arall—

(a)os yw parth dan gyfyngiadau wedi'i rannu'n barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth, ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i'r parth gwarchod ac yn rhannol oddi mewn i'r parth gwyliadwriaeth fel petai oddi mewn i'r parth gwarchod;

(b)ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i ardal lle nad oes rheolaethau ar gyfer y tafod glas fel petai'r fangre honno oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau; ac

(c)ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro fel petai oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau.

RHAN 2Achosion lle'r amheuir y tafod glas ac achosion lle mae wedi'i gadarnhau

Y gofynion cychwynnol pan wyddys neu pan amheuir bod y tafod glas yn bresennol

8.—(1Rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw anifail neu garcas, neu unrhyw berson sy'n archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail neu garcas, ac sy'n gwybod neu'n amau bod yr anifail neu'r carcas hwnnw wedi'i heintio â'r tafod glas—

(a)hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith; a

(b)peidio â symud unrhyw anifail neu garcas i'r fangre neu o'r fangre lle y gwyddys bod yr anifail neu'r carcas, y mae'n hysbys neu yr amheuir ei fod wedi'i heintio, wedi'i leoli, ac eithrio yn ôl awdurdodiad arolygwr.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi sampl a gymerwyd o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n dod o hyd i dystiolaeth o wrthgorffynnau i feirws y tafod glas, neu antigenau neu asidau niwclëig ohono, neu unrhyw dystiolaeth o frechu ar gyfer y tafod glas, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.

(3Ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru i gael gwybodaeth am anifeiliaid neu garcasau a'r clefyd arnynt neu yr amheuir bod y clefyd arnynt ar gyfer yr ardal lle mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.

Mangreoedd a amheuir neu fangreoedd heintiedig

9.—(1Rhaid i arolygydd sy'n gwybod neu'n amau bod feirws y tafod glas yn bodoli ar unrhyw fangre gyflwyno ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol—

(a)na fydd unrhyw anifail, ofwm, semen neu embryo yn mynd i mewn i'r fangre nac yn ymadael â hi;

(b) bod stocrestr o'r holl anifeiliaid yn y fangre yn cael ei llunio, a honno'n cofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth—

(i)y nifer sydd wedi marw;

(ii)y nifer sy'n fyw ac y mae'n ymddangos bod y tafod glas arnynt; a

(iii)y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos nad yw'r tafod glas arnynt;

(c)bod y stocrestr yn cael ei chadw'n rhestr gyfoes;

(ch)bod pob anifail yn y fangre yn cael ei gadw dan do neu fel y cyfarwyddir gan arolygydd;

(d) bod y fangre a'r anifeiliaid ynddi yn ddarostyngedig i'r mesurau rheoli gwybed a bennir yn yr hysbysiad.

(2Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno os yw'r arolygydd milfeddygol yn amau bod anifeiliaid yn y fangre o fewn cyrraedd i feirws y tafod glas.

(3Rhaid i'r person sy'n llunio'r stocrestr gadw cofnod ohoni am o leiaf ddwy flynedd.

Parthau rheoli dros dro

10.—(1Os yw arolygydd yn amau bod feirws y tafod glas yn bodoli yn unrhyw fangre, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth rheoli dros dro.

(2Pan fo parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu yn Lloegr a bod y parth hwnnw'n cyffwrdd â ffin Cymru, caiff Gweinidogion Cymru sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru.

(3Rhaid i leoliad a maint y parth rheoli dros dro fod yn briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, i atal y clefyd rhag lledaenu.

(4Pan fo parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb symud unrhyw anifail i fangre neu o fangre sydd yn y parth ac eithrio'n unol â thrwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.

(5Mae parth rheoli dros dro yn peidio â bod mewn unrhyw ardal sy'n cael ei hymgorffori wedyn mewn parth rheoli neu barth dan gyfyngiadau.

Cadarnhau bod y tafod glas mewn mangre

11.  Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod y tafod glas yn bodoli mewn unrhyw fangre, caniateir iddo gyflwyno i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno hysbysiad—

(a)sy'n cadarnhau bod y tafod glas yn bodoli yn y fangre; a

(b)sy'n hysbysu'r meddiannydd, er gwaethaf rheoliad 8, nad oes angen hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o unrhyw achosion pellach lle'r amheuir bod y tafod glas yn y fangre.

Y mesurau pan fo presenoldeb feirws y tafod glas wedi ei gadarnhau

12.—(1Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod feirws y tafod glas yn cylchredeg yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fônt wedi'u bodloni ar sail epidemiolegol, daearyddol, ecolegol neu feteorolegol, fod hynny'n briodol at ddibenion rheoli'r clefyd, ddatgan bod ardal yn barth rheoli.

(2Rhaid i'r parth rheoli gynnwys y fangre heintiedig, a bod o'r maint sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion rheoli'r clefyd.

(3Ni chaiff neb symud anifail i fangre sydd mewn parth rheoli na'i symud ohoni.

Cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau goruchwyliaeth

13.—(1Os bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod feirws y tafod glas yn cylchredeg yng Nghymru—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan bod ardal briodol yn barth dan gyfyngiadau;

(b)caiff Gweinidogion Cymru, oddi mewn i barth dan gyfyngiadau, ddatgan bod unrhyw ardal o amgylch mangre heintiedig yn barth gwarchod, a bod unrhyw ardal sydd y tu hwnt i'r parth gwarchod hwnnw'n barth gwyliadwriaeth.

(2Ni chaiff neb symud anifail, semen, ofwm nac embryo allan o barth dan gyfyngiadau ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

(3Ni chaiff neb symud unrhyw anifail allan o barth gwarchod ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.

(4Rhaid i arolygydd roi trwydded os yw'r symudiad yn un a ganiateir o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 fel y'i diwygir o dro i dro, a rhaid i amodau unrhyw drwydded fod yn rhai sy'n sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â'r Rheoliad hwnnw.

(5Gwaherddir person rhag symud anifail oddi mewn i barth dan gyfyngiadau os bydd yr anifail yn amlygu arwyddion clinigol o'r tafod glas ar y diwrnod cludo.

Lladd-dai

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi lladd-dŷ at ddibenion cigydda anifeiliaid a gludir allan o barth dan gyfyngiadau.

(2Os caiff anifail ei gludo o barth dan gyfyngiadau i ladd-dŷ oddi allan i'r parth dan gyfyngiadau yn unol â thrwydded, rhaid i weithredydd y lladd-dŷ gigydda'r anifail hwnnw o fewn 24 awr iddo gyrraedd yno.

(3Dim ond os yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan Weinidogion Cymru y caiff gweithredydd lladd-dŷ mewn parth gwyliadwriaeth gigydda anifail o barth gwarchod.

Symud anifeiliaid wedyn

15.  Os yw anifail, semen, ofwm neu embryo a fu mewn parth dan gyfyngiadau yn cael ei symud i fangre oddi allan i'r parth dan gyfyngiadau, caiff arolygydd gyflwyno i feddiannydd y fangre honno, ac i feddiannydd unrhyw fangre y caiff yr anifail, y semen, yr ofwm neu'r embryo ei symud iddi wedyn, hysbysiad sy'n gwahardd ei symud o'r fangre honno ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.

Y tafod glas y tu allan i Gymru

16.  Os cadarnheir bod y tafod glas yn bresennol y tu allan i Gymru a bod Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol at ddibenion rheoli'r clefyd, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan yng Nghymru barth rheoli dros dro, parth rheoli, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth neu barth dan gyfyngiadau (y caniateir iddo gael ei ffurfio o barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth).

RHAN 3Brechu

Cael gafael ar frechlyn

17.  Ni chaiff neb ac eithrio deiliad awdurdodiad marchnata, awdurdodiad gweithgynhyrchu neu awdurdodiad deliwr cyfanwerthu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2007(8) gael gafael ar frechlyn ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwahardd brechu

18.  Ac eithrio pan fo rheoliad 19 yn gymwys, ni chaiff neb frechu anifail yn erbyn y tafod glas ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Brechu gorfodol

19.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle bydd yn rhaid i unrhyw feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu brechu a'u bod yn cydymffurfio ag unrhyw fesurau eraill sy'n ymwneud naill ai â'r brechu neu â'r brechlyn a bennir yn y datganiad hwnnw.

(2Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid mewn mangre hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad hwnnw sicrhau bod yr anifeiliaid yn y fangre yn cael eu brechu.

RHAN 4Arolygu, tramgwyddau a gorfodi

Pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion ac arolygwyr

20.—(1Ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos yr awdurdod sy'n ofynnol, caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre, cerbyd neu lestr er mwyn monitro feirws y tafod glas, gwrthgorffynnau i feirws y tafod glas neu wybed, neu er mwyn cadw gwyliadwriaeth amdanynt.

(2Ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, dogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos yr awdurdod sy'n ofynnol, caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru fynd, ar bob adeg resymol, i mewn i unrhyw fangre, cerbyd neu lestr er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r Rheoliadau hyn.

(3Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre, cerbyd neu lestr o dan baragraffau (1) neu (2) fynd â'r canlynol gydag ef—

(a)unrhyw gyfarpar; a

(b)unrhyw berson arall sy'n briodol.

(4Caiff unrhyw berson sy'n dod i mewn i fangre o dan baragraffau (1) neu (2) ddod â cherbyd gydag ef.

(5Caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru—

(a)cadw, ynysu neu atal unrhyw anifail;

(b)ei gwneud yn ofynnol i gadw, ynysu neu atal unrhyw anifail;

(c)marcio at ddibenion adnabod unrhyw anifail, unrhyw garcas neu unrhyw beth;

(ch)cadw neu ynysu unrhyw beth;

(d)ei gwneud yn ofynnol i gadw neu ynysu unrhyw beth;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gwybod am symudiadau anifail roi manylion am y symudiadau hynny ac am unrhyw anifail arall y mae wedi bod mewn cyffyrddiad ag ef;

(e)ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno roi manylion am anifeiliaid sydd naill ai yn y fangre honno neu mewn mangre arall lle mae gan y meddiannydd neu'r ceidwad anifeiliaid;

(f)ei gwneud yn ofynnol i ddangos unrhyw gofnod a gedwir o dan y Rheoliadau hyn, ar ba ffurf bynnag y mae'r cofnod hwnnw'n cael ei gadw;

(ff)copïo unrhyw gofnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (dd); neu

(g)arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir mewn cysylltiad â gwneud a chadw cofnodion o dan y Rheoliadau hyn.

(6Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol—

(a)archwilio unrhyw garcas neu beth;

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail gael ei drin;

(c)gwneud ymchwiliad epidemiolegol sy'n berthnasol i reoli'r tafod glas;

(ch)gwneud profion a chymryd samplau (gan gynnwys samplau gwaed) o unrhyw anifail, carcas neu beth at ddibenion diagnosis neu ymchwiliad epidemiolegol;

(d)trapio gwybed;

(dd)rhoi mesurau rheoli gwybed ar waith;

(e)ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, gwaredu neu drin unrhyw beth; neu

(f)ei gwneud yn ofynnol i lanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw berson, anifail, cerbyd, llestr neu beth yn y fangre.

(7Caiff arolygydd milfeddygol—

(a)ar ôl mynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd neu lestr o dan y rheoliad hwn, archwilio neu frechu unrhyw anifail;

(b)ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i feddiannydd mangre neu i geidwad unrhyw anifeiliaid mewn mangre —

(i)caniatáu i unrhyw anifail sy'n cael ei gadw yno gael ei frechu;

(ii) cadw anifeiliaid i'w defnyddio'n anifeiliaid rhybuddio neu ganiatáu i anifeiliaid rhybuddio gael eu cyflwyno i'r fangre honno; neu

(iii)symud anifail sydd wedi'i symud ac eithrio'n unol â rheoliadau 13 neu 15 i fan a bennir gan yr arolygydd milfeddygol.

(8Ystyr “anifail rhybuddio” (“sentinel animal”) yw anifail a ddefnyddir at ddibenion cadw gwyliadwriaeth am feirws y tafod glas ac nad oes ganddo wrthgorffynnau i feirws y tafod glas o'r math y mae gwyliadwriaeth yn cael ei chadw mewn cysylltiad ag ef pan gafodd yr anifail hwnnw'n ei gyflwyno neu ei gadw am y tro cyntaf yn y fangre.

Rhwystro

21.—(1Ni chaiff neb—

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; neu

(b)rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.

(2Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth i berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed, onid oes ganddo achos rhesymol dros wneud fel arall.

Ymyrryd â thrapiau a marciau

22.  Ni chaiff neb—

(a)difrodi unrhyw drapiau a osodwyd ar gyfer gwybed o dan y Rheoliadau hyn, ymyrryd â hwy na'u symud ymaith; neu

(b)difwyno, dileu na symud ymaith unrhyw farc a wnaed gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn.

Costau cydymffurfio

23.  Oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen, rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau sydd wedi'u gwahardd gan neu o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

24.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y byddai'r gofyniad yn cael ei fodloni, a'u cymryd ar draul y person hwnnw.

Tramgwyddau a chosbau

25.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw ofyniad neu waharddiad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i gyfnod o garchar nad yw'n hwy na thri mis neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

26.—(1Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw yw'n euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

27.—(1Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag achosion penodol, mai hwy yn hytrach fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

RHAN 5Amrywiol

Amgylchiadau eithriadol

28.  Caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn sicrhau iechyd neu les unrhyw anifail—

(a)trwyddedu person i gymryd unrhyw gamau a fyddai fel arall wedi'u gwahardd o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)esemptio person, drwy hysbysiad, rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau hyn.

Dirymu

29.  Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Rhif 2) (Cymru) 2007(9) wedi'i ddiddymu (ac eithrio erthygl 17).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Ebrill 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer rheoli a difodi'r tafod glas a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007(10). Maent yn dirymu ac yn ail-wneud gyda newidiadau Orchymyn y Tafod Glas (Rhif 2) (Cymru) 2007(11).

Mae'r newidiadau fel a ganlyn—

(a)caiff Gweinidogion Cymru, o fewn parth dan gyfyngiadau, ddatgan bod unrhyw ardal o amgylch mangre heintiedig yn barth gwarchod, a bod unrhyw ardal y tu hwnt i'r parth gwarchod hwnnw'n barth gwyliadwriaeth (rheoliad 13(1)(b)).

(b)gwaherddir person rhag symud anifail mewn parth dan gyfyngiadau os yw'r anifail yn amlygu arwyddion clinigol o'r tafod glas ar y diwrnod cludo (rheoliad 13(5)).

(c)rhaid i weithredydd lladd-dŷ mewn parth gwyliadwriaeth gael trwydded os yw'n bwriadu cigydda anifeiliaid o barth gwarchod (rheoliad 14(3)).

(ch)os cadarnheir bod y tafod glas yn bresennol y tu allan i Gymru, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth yng Nghymru (rheoliad 16).

(d)onid yw'n perthyn i gategori a eithrir, mae'n ofynnol bod gan berson drwydded i gael gafael ar frechlyn y tafod glas (rheoliad 17). Ni chaniateir brechu ond os yw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru (rheoliad 18) neu pan fo brechu'n ofynnol naill ai mewn parth brechu neu drwy hysbysiad a gyflwynwyd ar gyfer mangre benodol (rheoliad 19).

(dd)rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru ganiatáu i berson gymryd neu osgoi cymryd cam nad yw'r unol â darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn a hynny ddim ond er mwyn sicrhau iechyd a lles unrhyw anifail (rheoliad 28).

Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiadau rhag gofynion y Rheoliadau, ar gyfer trwyddedau ac ar gyfer datgan parthau (rheoliadau 3 i 7).

Mae rhan 2 o'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer hysbysu o symptomau'r tafod glas (rheoliad 8), sefydlu cyfyngiadau ar fangreoedd (rheoliad 9), sefydlu parthau rheoli dros dro (rheoliad 10), cadarnhau bod y tafod glas mewn mangre (rheoliad 11), a sefydlu parthau a rheolaethau ar symudiadau anifeiliaid oddi mewn ac oddi allan i'r parthau hynny (rheoliadau 12 a 13). Rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru drwyddedu neu ddynodi lladd-dai penodol (rheoliad 14). Gwaherddir symud heb drwydded anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i feddiannydd mangre pen y daith (rheoliad 15). Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn datgan parthau yng Nghymru pan fo presenoldeb y tafod glas wedi'i gadarnhau y tu allan i Gymru.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer brechu (rheoliadau 17 i 19).

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi ac yn nodi'r tramgwyddau o rwystro ac o ymyrryd â thrapiau a marciau (rheoliadau 20 i 24 a rheoliad 26). Mae methiant â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu fethiant ag ufuddhau i unrhyw waharddiad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt yn dramgwydd (rheoliad 25). Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol, oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall (rheoliad 27).

Mae Rhan 5 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ganiatáu unrhyw beth a fyddai fel arall yn cael ei wahardd neu i esemptio person rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau, er mwyn sicrhau iechyd neu les unrhyw anifail (rheoliad 28).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i'w harfer gan Weinidogion Cymru.

(3)

OJ Rhif L283, 27.10.2007, t. 37.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(10)

OJ Rhif L283, 27.10.2007, t. 37.