xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 7 ac 8

ATODLEN 3Y TRAMGWYDD O BEIDIO Å RHOI CI AR DENNYN A'I GADW ARNO, DRWY GYFARWYDDYD A FFURF Y GORCHYMYN

1—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cŵn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel “Gorchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd” yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.

(2Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

2  Mewn unrhyw Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

3  Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cŵn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

1  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X](4).

2  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1](5).

Y Tramgwydd

3—(1Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2](6), ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno (7), oni bai—

(a)bod gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu

(b)bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

(2At ddibenion yr erthygl hon —

(a)cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

(b)ni chaiff swyddog awdurdodedig o Awdurdod roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a'i gadw arno oni fo'r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o beri aflonyddwch i unrhyw berson arall neu o darfu arno [ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo] neu o beri trafferth i unrhyw anifail neu unrhyw aderyn neu o aflonyddu arnynt.

(3Yn y Gorchymyn hwn ystyr “swyddog awdurdodedig o Awdurdod” yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.

Y Gosb

4  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(1)

Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(2)

Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.

(3)

Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.

(4)

Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.

(5)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(6)

Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.

(7)

Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.

(8)

Penner pa un sy'n berthnasol.

(9)

Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.

(10)

Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.