Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3573 (Cy.316)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007

Gwnaed

18 Rhagfyr 2007

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Rhagfyr 2007

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn ac eithrio rheoliadau 2(6) a 24 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau 2(6) a 24 drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(3).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i ddehongli unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Reoliad y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC(4) fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym—

(a)yn achos rheoliad 31(2), ar 1 Ionawr 2010; a

(b)fel arall, ar 11 Ionawr 2008.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC; ac

ystyr “system gofal iechyd” (“health care system”) yw cyrff neu sefydliadau sy'n ymwneud, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, â gofal iechyd i famau, babanod a menywod beichiog, ac mae'n cynnwys meithrinfeydd neu sefydliadau gofal plant a gweithwyr iechyd mewn practis preifat.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio un a ddiffinnir ym mharagraff (1), ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Ddeddf.

(3Er gwaethaf paragraff (2), mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb yr ystyr a roddir i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn y Gyfarwyddeb.

(4Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(7), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig;

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

(5Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad â Rhif yn gyfeiriad at yr Atodiad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Gyfarwyddeb.

(6Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i'r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Gwaharddiad ar farchnata fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol oni fo amodau penodol wedi'u bodloni

3.—(1Ni chaiff unrhyw berson farchnata fformiwla fabanod sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 15, 17 neu 19.

(2Ni chaiff unrhyw berson farchnata fformiwla ddilynol sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 16, 18 neu 19.

Gwaharddiad ar farchnata cynhyrchion ac eithrio fformiwla fabanod ar gyfer babanod normal iach

4.  Ni chaiff unrhyw berson farchnata neu gynrychioli fel arall fod cynnyrch yn addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod.

Cymaint o sylweddau ag i beryglu iechyd babanod a phlant ifanc

5.  Rhaid i fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol beidio â chynnwys unrhyw cymaint o unrhyw sylwedd ag i beryglu iechyd babanod a phlant ifanc.

Ffynonellau protein a chynhwysion bwyd eraill sy'n addas i fabanod o'u genedigaeth (fformiwla fabanod)

6.—(1Rhaid i fformiwla fabanod fod wedi'i gweithgynhyrchu—

(a)o'r ffynonellau protein a bennir ym mhwynt 2 o Atodiad I; a

(b)o gynhwysion bwyd eraill y cafodd eu haddasrwydd at ddefnydd maethol penodol gan fabanod o'u genedigaeth ei sefydlu drwy ddata gwyddonol a dderbynir yn gyffredinol ac a gafodd ei ddangos yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i addasrwydd gael ei ddangos drwy adolygiad systematig o'r data sydd ar gael sy'n ymwneud â'r buddiant a ddisgwylir ac ag ystyriaethau diogelwch yn ogystal â thrwy astudiaethau priodol, pan fo angen hynny, a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o'r fath.

Ffynonellau protein a chynhwysion bwyd eraill sy'n addas i fabanod dros chwe mis oed (fformiwla ddilynol)

7.  Rhaid i fformiwla ddilynol fod wedi'i gweithgynhyrchu—

(a)o'r adnoddau protein a bennir ym mhwynt 2 o Atodiad ll; a

(b)o gynhwysion bwyd eraill y cafodd eu haddasrwydd at ddefnydd maethol penodol gan fabanod dros chwe mis oed ei sefydlu drwy ddata gwyddonol a dderbynir yn gyffredinol ac a gafodd ei ddangos yn unol â rheoliad 6(2).

Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla fabanod

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i fformiwla fabanod gydymffurfio â'r meini prawf cyfansoddiadol a osodir yn Atodiad I gan gymryd ystyriaeth o'r manylebau yn Atodiad V.

(2Yn achos fformiwla fabanod sydd wedi'i gweithgynhyrchu o'r proteinau llaeth gwartheg a bennir ym mhwynt 2.1 o Atodiad I sydd â'u cynnwys protein rhwng y lleiafswm a 0.5g/100kJ (2g/100 kcal) rhaid i addasrwydd y fformiwla fabanod ar ei phen ei hun fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o'r fath.

(3Yn achos fformiwla fabanod sydd wedi'i gweithgynhyrchu o'r hydrolysatau protein hynny a bennir ym mhwynt 2.2 o Atodiad 1 â'u cynnwys protein rhwng y lleiafswm a 0.56g/100kJ (2.25g/100 kcal)—

(a)rhaid i addasrwydd y fformiwla fabanod ar ei phen ei hun fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol gael ei ddangos drwy astudiaethau priodol a wnaed gan ddilyn canllawiau arbenigol sy'n dderbyniol yn gyffredinol ar lunio a chynnal astudiaethau o'r fath; a

(b)rhaid i'r fformiwla fabanod fod yn unol â'r manylebau priodol a osodir yn Atodiad Vl.

Meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer fformiwla ddilynol

9.  Rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â'r meini prawf cyfansoddiadol a osodir yn Atodiad II gan gymryd ystyriaeth o'r manylebau a osodir yn Atodiad V.

Ychwanegu dŵr (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol )

10.  Er mwyn gwneud fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol yn barod i'w defnyddio ni fydd gofyn gwneud dim ond ychwanegu dŵr ati.

Gwaharddiadau a therfynau ar y defnydd o gynhwysion bwyd (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

11.  Rhaid cadw at y gwaharddiadau a'r terfynau ar y defnydd o gynhwysion bwyd mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol a osodir yn eu trefn yn Atodiadau I a ll.

Sylweddau rhestredig a'u meini prawf purdeb (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

12.—(1Dim ond y sylweddau a restrir yn Atodiad III y ceir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion Atodiadau I a II yn eu trefn ar—

(a)sylweddau mwynol;

(b)fitaminau;

(c)asidau amino a chyfansoddion nitrogen eraill; ac

(ch)sylweddau eraill sydd â diben maethol penodol.

(2Rhaid i sylweddau a ddefnyddir i weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol yn unol â pharagraff (1) fodloni'r meini prawf purdeb perthnasol.

(3Y meini prawf purdeb perthnasol at ddibenion paragraff (2) yw—

(a)y meini prawf ar gyfer sylweddau, fel y darperir ar eu cyfer yn neddfwriaeth y Gymuned ynghylch y defnydd o sylweddau a restrir yn Atodiad III, wrth weithgynhyrchu bwydydd at ddibenion ac eithrio'r rheini a gwmpesir gan y Gyfarwyddeb; a

(b)yn absenoldeb meini prawf purdeb o'r fath, meini prawf purdeb sy'n dderbyniol yn gyffredinol a argymhellir gan gyrff rhyngwladol.

Hysbysiad o fformiwla fabanod

13.  Ni chaiff unrhyw weithredydd busnes bwyd osod fformiwla fabanod ar y farchnad nad yw eto wedi'i gosod ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig oni bai bod y gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi rhoi hysbysiad i'r Asiantaeth drwy anfon ati fodel o'r label a ddefnyddir ar gyfer y cynnyrch.

Gweddillion plaleiddiaid (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefelau uwch na 0.01 mg/kg o weddillion plaleiddiaid unigol.

(2Ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefelau uwch na 0.003 mg/kg o unrhyw weddillion plaleiddiad a restrir yn Nhabl 1 neu yn Nhabl 2 o Atodiad VIII.

(3Ni chaiff fformiwla fabanod na fformiwla ddilynol gynnwys lefelau uwch o unrhyw weddillion plaleiddiad a restrir yn Atodiad IX nac uchafswm lefel y gweddillion a restrir yn yr Atodiad hwnnw.

(4Mae'r lefelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) i (3) yn gymwys o ran fformiwla fabanod neu fformiwla ddilynol—

(a)a weithgynhyrchwyd i fod yn barod i'w bwyta; neu

(b)os nad yw wedi'i weithgynhyrchu ar gyfer hynny, fel y mae wedi'i hailgyfansoddi yn ôl cyfarwyddyd y gweithgynhyrchydd.

(5Rhaid i ddulliau dadansoddi ar gyfer pennu lefelau gweddillion plaleiddiaid at ddibenion y rheoliad hwn fod yn ddulliau wedi'u safoni sy'n dderbyniol yn gyffredinol.

Enwi fformiwla fabanod

15.  Ni cheir gwerthu fformiwla fabanod onis gwerthir o dan yr enw—

(a)yn achos cynnyrch nad yw wedi ei weithgynhyrchu yn gyfan gwbl o broteinau llaeth gwartheg , yr enw “infant formula”; neu

(b)yn achos cynnyrch sydd wedi ei weithgynhyrchu yn gyfan gwbl o broteinau llaeth gwartheg , yr enw “infant milk”;

Enwi fformiwla ddilynol

16.  Ni cheir gwerthu fformiwla ddilynol onis gwerthir o dan yr enw—

(a)yn achos cynnyrch nad yw wedi'i weithgynhyrchu yn gyfan gwbl o broteinau llaeth gwartheg, yr enw “follow-on formula”; neu

(b)yn achos cynnyrch sydd wedi'i weithgynhyrchu yn gyfan gwbl o broteinau llaeth gwartheg, yr enw “follow-on milk”.

Labelu fformiwla fabanod

17.—(1Ni cheir gwerthu fformiwla fabanod oni bai bod y labelu arno yn dangos y manylion a ganlyn—

(a)datganiad i'r perwyl fod y cynnyrch yn addas i'w ddefnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod o'u genedigaeth pan nad ydynt yn cael eu bwydo ar y fron;

(b)y gwerth egni sydd ar gael, wedi'i fynegi mewn kJ a kcal a'r cynnwys o broteinau, carbohydradau a lipidau, wedi'i fynegi ar ffurf rifyddegol, ym mhob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio;

(c)pa faint ar gyfartaledd o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin a grybwyllir yn Atodiad I ac, os yw'n gymwys, o golîn, inositol a charnitîn, wedi'i fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio;

(ch)cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, storio a chael gwared â'r cynnyrch yn briodol a rhybudd rhag peryglon posibl i iechyd o'i baratoi a'i storio yn amhriodol; a

(d)y geiriau “Important Notice”, neu eiriau cyfatebol iddynt yn cael eu dilyn yn union gan—

(i)datganiad ynghylch rhagoriaeth bwydo ar y fron, a

(ii)datganiad yn argymell mai dim ond wedi cael cyngor gan bersonau annibynnol sydd â chymwysterau mewn meddygaeth, maethiad neu fferylliaeth, neu weithwyr proffesiynol eraill sy'n gyfrifol am ofal mamau a gofal plant i wneud hynny y dylid defnyddio'r cynnyrch.

(2Rhaid i labelu fformiwla fabanod—

(a)fod wedi'i lunio i roi'r wybodaeth angenrheidiol ynghylch y defnydd priodol o'r cynnyrch mewn modd nad yw'n annog menywod i beidio â bwydo ar y fron; a

(b)peidio â chynnwys y termau “humanised”, “maternalised”, “adapted” nac unrhyw derm cyffelyb.

(3Ni chaiff fformiwla fabanod gynnwys—

(a)unrhyw lun o faban; na

(b)unrhyw lun arall a ddichon ddelfrydu defnyddio'r cynnyrch,

ond caiff gynnwys delweddau graffig er mwyn adnabod y cynnyrch yn rhwydd neu er mwyn dangos dulliau paratoi.

(4Dim ond dan yr amodau isod y caiff labelu fformiwla fabanod ddwyn honiadau o ran maeth ac iechyd—

(a)mae'r hyn a honnir wedi'i restru yng ngholofn gyntaf Atodiad IV ac wedi'i fynegi yn y termau a osodir yno; a

(b)mae'r amod a bennir yn yr ail golofn i Atodiad IV mewn perthynas â'r honiad perthnasol a wneir yn y golofn gyntaf wedi'i fodloni.

(5Caiff labelu fformiwla fabanod ddwyn manylion o ba faint ar gyfartaledd o'r maetholion a grybwyllir yn Atodiad III, pan nad yw gwybodaeth o'r fath yn ofynnol gan baragraff (1)(c),wedi'i fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio.

Labelu fformiwla ddilynol

18.—(1Ni cheir gwerthu fformiwla ddilynol oni bai bod y labelu arno yn dangos y manylion a ganlyn—

(a)datganiad i'r perwyl—

(i)mai dim ond i'w ddefnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod dros chwe mis oed y mae'r cynnyrch yn addas,

(ii)na ddylai fod yn ddim ond rhan o ddeiet amrywiol,

(iii)nad yw i gael ei ddefnyddio yn lle llaeth y fron yn ystod chwe mis cyntaf bywyd y baban, a

(iv)mai dim ond wedi cael cyngor gan bersonau annibynnol sydd â chymwysterau mewn meddygaeth, maethiad neu fferylliaeth, neu weithwyr proffesiynol eraill sy'n gyfrifol am ofal mamau a gofal plant i wneud hynny y dylid gwneud y penderfyniad i ddechrau bwydo ategol, gan gynnwys unrhyw benderfyniad o ran gwneud eithriad i'r egwyddor o beidio â defnyddio fformiwla ddilynol cyn chwe mis oed, a hynny ar sail anghenion twf a datblygiad penodol y baban dan sylw;

(b)y gwerth egni sydd ar gael, wedi'i fynegi mewn kJ a kcal a'r cynnwys o broteinau, carbohydradau a lipidau, wedi'i fynegi ar ffurf rifyddegol, ym mhob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio;

(c)pa faint ar gyfartaledd o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin a grybwyllir yn Atodiad II ac, os yw'n gymwys, o golîn, inositol a charnitîn, wedi'i fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio;

(ch)cyfarwyddiadau ar gyfer paratoi, storio a chael gwared â'r cynnyrch yn briodol a rhybudd rhag peryglon posibl i iechyd o'i baratoi a'i storio yn amhriodol.

(2Rhaid i labelu fformiwla ddilynol—

(a)fod wedi'i lunio i roi'r wybodaeth angenrheidiol ynghylch y defnydd priodol o'r cynnyrch mewn modd nad yw'n annog menywod i beidio â bwydo ar y fron; a

(b)peidio â chynnwys y termau “humanised”, “maternalised”, “adapted” nac unrhyw derm cyffelyb.

(3Caiff labelu fformiwla ddilynol ddwyn manylion—

(a)o ba faint ar gyfartaledd o'r maetholion a grybwyllir yn Atodiad III, pan nad yw gwybodaeth o'r fath yn ofynnol gan baragraff (1)(c), wedi'i fynegi ar ffurf rifyddegol, sydd ym mhob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio; a

(b)yn ychwanegol at wybodaeth rifyddegol, gwybodaeth ar fitaminau a mwynau sydd wedi'u cynnwys yn Atodiad VII, wedi'i mynegi fel canran o'r gwerthoedd cyfeiriadol a roddir yn yr Atodiad hwnnw, am bob 100ml o'r cynnyrch sy'n barod i'w ddefnyddio.

Osgoi'r perygl o ddryswch rhwng fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol

19.  Rhaid labelu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol mewn modd sy'n galluogi defnyddwyr i wahaniaethu'n glir rhwng y cyfryw gynhyrchion er mwyn osgoi unrhyw risg o ddryswch rhwng fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol.

Cyflwyno (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)

20.—(1Mae darpariaethau rheoliadau 17(1)(d), (2), (3) a (4) a 19 hefyd yn gymwys o ran cyflwyno fformiwla fabanod.

(2Mae darpariaethau rheoliadau 18(2) a 19 hefyd yn gymwys o ran cyflwyno fformiwla ddilynol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn mae “cyflwyno” yn cynnwys siâp, gwedd neu ddull pacio'r cynhyrchion dan sylw, y deunyddiau pacio a ddefnyddiwyd, y ffordd y cawsant eu trefnu a'r man lle maent yn cael eu harddangos.

Cyfyngiadau ar hysbysebu fformiwla fabanod

21.—(1Ni chaiff unrhyw berson hysbysebu fformiwla fabanod—

(a)ac eithrio—

(i)mewn cyhoeddiad gwyddonol, neu

(ii)at ddibenion masnach cyn y cyfnod manwerthu, mewn cyhoeddiad a fwriedir ar gyfer darllenwyr gwahanol i'r cyhoedd yn gyffredinol; ac

(b)oni bai bod yr hysbyseb yn cydymffurfio â darpariaethau rheoliad 17(1)(d) (2), (3) a (4), rheoliad 19 a pharagraff (2) a (3).

(2Ni chaiff hysbysebion ar gyfer fformiwla fabanod gynnwys ond gwybodaeth o natur wyddonol a ffeithiol.

(3Ni chaiff yr wybodaeth mewn hysbysebion ar gyfer fformiwla fabanod awgrymu neu greu cred fod bwydo â photel yn cyfateb i neu'n rhagori ar fwydo ar y fron.

Cyfyngiadau ar hysbysebu fformiwla ddilynol

22.  Ni chaiff unrhyw berson hysbysebu fformiwla ddilynol os yw'r hysbyseb yn mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â darpariaethau rheoliad 18(2) neu 19.

Cyfyngiadau ar hybu fformiwla fabanod

23.—(1Yn unrhyw fan lle gwerthir fformiwla fabanod drwy ei manwerthu ni chaiff unrhyw berson—

(a)hysbysebu unrhyw fformiwla fabanod;

(b)gwneud unrhyw arddangosiad arbennig o fformiwla fabanod sydd wedi'i llunio i hybu gwerthiant;

(c)wneud rhodd—

(i)o unrhyw fformiwla fabanod fel sampl am ddim, nac

(ii)o unrhyw gwpon y gellir ei ddefnyddio i brynu fformiwla fabanod ar ddisgownt;

(ch)hybu gwerthiant fformiwla fabanod drwy bremiymau, gwerthiannau arbennig, gwerthiannau islaw cost neu werthiannau rhwym; na

(d)ymwneud ag unrhyw weithgaredd hyrwyddol arall i gymell gwerthiant o fformiwla fabanod.

(2Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchydd na dosbarthwr fformiwla fabanod roi unrhyw fformiwla fabanod am ddim neu am bris gostyngol neu ar ddisgownt er mwyn ei hyrwyddo, na rhoi unrhyw rodd gyda'r bwriad o hyrwyddo gwerthiant fformiwla fabanod—

(a)i'r cyhoedd yn gyffredinol;

(b)i fenywod beichiog;

(c)i famau; nac

(ch)i aelodau o deuluoedd personau a grybwyllir yn is-baragraffau (b) ac (c),

naill ai yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy'r system gofal iechyd neu drwy weithwyr iechyd.

Darparu deunydd at ddibenion gwybodaeth ac addysg yn ymwneud â bwydo babanod

24.—(1Ni chaiff unrhyw berson gynhyrchu na chyhoeddi deunydd at ddibenion gwybodaeth neu addysg, p'un ai ar ffurf ysgrifenedig neu glyweledol, sy'n ymwneud â bwydo babanod ac y bwriedir iddo gyrraedd menywod beichiog a mamau babanod a mamau plant bach onid yw'r deunydd hwnnw'n cynnwys gwybodaeth glir ar bob un o'r pwyntiau a ganlyn—

(a)manteision a rhagoriaeth bwydo ar y fron;

(b)maethiad y fam;

(c)paratoi ar gyfer a chynnal bwydo ar y fron;

(ch)effaith negyddol bosibl cyflwyno bwydo rhannol â photel ar fwydo ar y fron;

(d)anhawster newid y penderfyniad i beidio â bwydo ar y fron; ac

(dd)os oes angen, y defnydd priodol o fformiwla fabanod.

(2Pan fydd y deunydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y defnydd o fformiwla fabanod rhaid iddo gynnwys gwybodaeth ynghylch—

(a)y goblygiadau cymdeithasol ac ariannol o'i ddefnyddio;

(b)y peryglon posibl i iechyd oddi wrth fwydydd neu ddulliau bwydo amhriodol; ac

(c)y peryglon posibl i iechyd oddi wrth ddefnyddio fformiwla fabanod yn amhriodol.

(3Pan fydd y deunydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cynnwys gwybodaeth ynghylch y defnydd o fformiwla fabanod rhaid iddo beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau a ddichon ddelfrydu defnyddio fformiwla fabanod.

(4Ni chaiff unrhyw weithgynhyrchydd neu ddosbarthwr fformiwla fabanod wneud rhodd o unrhyw gyfarpar na deunyddiau at bwrpas addysg neu wybodaeth ac eithrio yn unol â'r amodau a ganlyn—

(a)rhaid bod y rhodd wedi ei rhoi ar ôl cael cais amdani gan y sawl sy'n bwriadu ei derbyn;

(b)rhaid bod y rhodd wedi ei rhoi gydag awdurdod ysgrifenedig Gweinidogion Cymru neu'n unol â chanllawiau a luniwyd gan Weinidogion Cymru;

(c)rhaid peidio â marcio na labelu'r cyfarpar na'r deunyddiau gydag enw brand perchnogaethol o fformiwla fabanod; ac

(ch)dim ond drwy'r system gofal iechyd y ceir dosbarthu'r cyfarpar neu'r deunyddiau.

Fformiwla fabanod ddi-dâl neu am bris gostyngol

25.  Rhaid i gorff neu sefydliad sy'n cael unrhyw fformiwla fabanod heb dalu amdani neu am bris gostyngol—

(a)os yw'r fformiwla fabanod honno i gael ei defnyddio o fewn y corff neu'r sefydliad hwnnw, ei defnyddio yn unig ar gyfer babanod y mae'n rhaid eu bwydo ar fformiwla fabanod a dim ond cyhyd ag y mae hynny'n angenrheidiol i'r babanod hynny; neu

(b)os yw'r fformiwla fabanod honno i gael ei dosbarthu y tu allan i'r corff neu'r sefydliad hwnnw, ei dosbarthu yn unig ar gyfer babanod y mae'n rhaid eu bwydo ar fformiwla fabanod a dim ond cyhyd ag y mae hynny'n angenrheidiol i'r babanod hynny.

Allforio fformiwla fabanod i drydydd gwledydd

26.—(1Ni chaiff unrhyw berson allforio i drydedd wlad unrhyw fformiwla fabanod sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â—

(a)rheoliad 5, 6, 8, 10, 11, 12, 14(1), (2) neu (3), 17 neu 19;

(b)safonau Codecs ar gyfer fformiwla fabanod a sefydlwyd gan y Codecs Alimentarius(8);

(c)Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996(9).

(2Ni chaiff unrhyw berson allforio i drydedd wlad gynnyrch a gynrychiolir fel cynnyrch sydd yn addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod pedwar i chwe mis cyntaf eu bywyd oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod.

Allforio fformiwla ddilynol i drydydd gwledydd

27.  Ni chaiff unrhyw berson allforio i drydedd wlad unrhyw fformiwla ddilynol sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â—

(a)rheoliad 5, 7, 9, 10, 12, 14(1), (2) neu (3), 18 neu 19;

(b)safonau Codecs ar gyfer fformiwla ddilynol a sefydlwyd gan y Codecs Alimentarius(10);

(c)Rheoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996.

Tramgwyddau a gorfodi

28.—(1Os oes unrhyw berson yn mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3, 4, 13, 21(1), 22, 23, 24, 25, 26 neu 27 bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso amryfal adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

29.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(11), gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) i fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 28 sy'n mynd yn groes i reoliad 3, 4 neu 13 neu'n methu â chydymffurfio â hwy fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 ac yn is-adran (4)(b) dylid barnu bod y cyfeiriadau at “sale or intended sale” yn gyfeiriadau at “marketing or as the case may be placing on the market”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d);

(e)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(12), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (d);

(f)adran 35(2) a (3)(13), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(14); ac

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu yn ddidwyll).

Diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000

30.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000(15) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder y diffiniad canlynol

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig(16) fel y'i diwygiwyd gan—

yr Act sy'n ymwneud ag amodau ymaelodaeth y Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a Gweriniaeth Slofacia a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(17);

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/82/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 91/321 ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilynol a Chyfarwyddeb 1999/21/EC ar fwydydd deietegol at ddibenion meddygol arbennig, oherwydd ymaelodaeth Bwlgaria a Romania(18); a

Cyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141 ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol ac sy'n diwygio Cyfarwyddeb 1991/21/EC..

Dirymu a threfniadau trosiannol

31.—(1Dirymir rheoliadau 4, 5, 6, 7, 13, 14, 14A, 15, 16, 17, 18, 19, 20 a 21 o Reoliadau 1995 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2Dirymir Rheoliadau 1995 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Ni fydd unrhyw berson yn cyflawni tramgwydd o dan reoliad 28(1) sy'n mynd yn groes i'r canlynol neu'n methu â chydymffurfio â'r canlynol—

(a)rheoliad 3(1)

(i)os yw'r weithred a fyddai fel arall yn ffurfio'r tramgwydd yn farchnata fformiwla fabanod sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 5,6, 8, 10, 11, 12 neu 14(1), (2) neu (3), a

(ii)os nad oes tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad (2)(a)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny;

(b)rheoliad 3(2)—

(i)os yw'r weithred a fyddai fel arall yn ffurio'r tramgwydd yn farchnata fformiwla ddilynol sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 5, 7, 9, 10, 11, 12, neu 14(1), (2) neu (3), a

(ii)os nad oes tramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r darpariaethau a geir yn rheoliad 3(a) neu (b) o'r Rheoliadau hynny; neu

(c)rheoliad 4, pan nad oes unrhyw dramgwydd o dan reoliad 22(1) o Reoliadau 1995 sy'n mynd yn groes i neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 2(b)(i) neu (ii) o'r Rheoliadau hynny.

(4Diwygir Rheoliadau 1995 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â pharagraff (5).

(5Ychwanegir y paragraff canlynol ar ddiwedd rheoliad 22 (tramgwyddau a gorfodi) o Reoliadau 1995—

(4) No person commits an offence under paragraph (1) consisting of a contravention of or a failure to comply with—

(a)regulation 2(a)(i) or (ii), where there is no offence under regulation 3(1) of the of the 2007 Regulations consisting of a contravention of or a failure to comply with regulation 5, 6, 8, 10, 11, 12 or 14(1), (2) or (3) of those Regulations;

(b)regulation 2(b)(i) or (ii), where there is no offence under regulation 4 of the 2007 Regulations; or

(c)regulation 3(a) or (b), where there is no offence under regulation 3(2) of the 2007 Regulations consisting of a contravention of or a failure to comply with regulation 5, 7, 9, 10, 11, 12 or 14(1), (2) or (3) of those Regulations.

(5) In this regulation “the 2007 Regulations” means the Infant Formula and Follow-on Formula (Wales) Regulations 2007..

(6Yn y rheoliad hwn ystyr “Rheoliadau 1995” yw Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol 1995(19).

G. Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Rhagfyr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn rhoi ei heffaith i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/141/EC ar fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol ac yn diwygio Cyfarwyddeb 1999/21/EC (OJ Rhif L401 20.12.2006, t.1) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/52/EEC ar fformiwlâu babanod a fformiwlâu dilynol a fwriedir ar gyfer eu hallforio i drydydd gwledydd (OJ Rhif L179, 1.7.1992, t.129).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68) ac mae cyfeiriadau at yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2006/141/EC i'w dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(6)).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn gwahardd marchnata fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol sy'n mynd yn groes i reoliadau penodedig neu'n methu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 3);

(b)yn gwahardd marchnata neu gynrychioli fel arall fod cynnyrch yn addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod misoedd cyntaf eu bywyd hyd nes y cyflwynir bwydo ategol priodol oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod (rheoliad 4);

(c)yn darparu bod rhaid i fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylweddau ag i beryglu iechyd babanod a phlant ifanc (rheoliad 5);

(ch)yn darparu bod rhaid i fformiwla fabanod fod wedi'i gweithgynhyrchu o ffynonellau protein penodol a chynhwysion bwyd addas eraill (rheoliad 6);

(d)yn darparu bod rhaid i fformiwla ddilynol fod wedi'i gweithgynhyrchu o ffynonellau protein penodol a chynhwysion bwyd addas eraill (rheoliad 7);

(dd)yn darparu bod rhaid i fformiwla fabanod gydymffurfio â meini prawf cyfansoddiadol penodedig (rheoliad 8);

(e)yn darparu bod rhaid i fformiwla ddilynol gydymffurfio â meini prawf cyfansoddiadol penodedig (rheoliad 9);

(f)yn darparu na fydd gofyn gwneud dim ond ychwanegu dŵr ati er mwyn gwneud fformiwla babanod neu fformiwla ddilynol yn barod i'w defnyddio (rheoliad 10);

(ff)yn darparu bod rhaid i'r defnydd o gynhwysion bwyd mewn fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gadw at waharddiadau a therfynau penodedig (rheoliad 11);

(g)yn darparu mai dim ond sylweddau penodedig a gaiff eu defnyddio wrth weithgynhyrchu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol er mwyn bodloni gofynion penodedig Cyfarwyddeb 2006/141/EC a bod rhaid i'r sylweddau hynny fodloni meini prawf purdeb penodedig (rheoliad 12);

(ng)yn gwahardd gweithredydd busnes bwyd rhag gosod fformiwla fabanod ar y farchnad nad yw eto wedi'i gosod ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig oni bai bod y gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi rhoi hysbysiad ymlaen llaw i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (rheoliad 13);

(h)yn darparu na chaiff fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol gynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodedig (rheoliad 14);

(i)yn darparu mai dim ond o dan enwau penodol y caiff fformiwla fabanod ei gwerthu (rheoliad 15);

(j)yn darparu mai dim ond o dan enwau penodol y caiff fformiwla ddilynol ei gwerthu (rheoliad 16);

(l)yn darparu ar gyfer labelu fformiwla fabanod (rheoliad 17);

(ll)yn darparu ar gyfer labelu fformiwla ddilynol (rheoliad 18);

(m)yn darparu bod rhaid labelu fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol mewn modd sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng y cyfryw gynhyrchion er mwyn osgoi unrhyw risg o ddryswch rhyngddynt (rheoliad 19);

(n)yn cymhwyso darpariaethau rheoliadau penodedig i gyflwyno fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol (rheoliad 20);

(o)yn gwahardd hysbysebu fformiwla fabanod ac eithrio mewn cyhoeddiadau penodedig oni bai bod yr hysbyseb yn cydymffurfio â darpariaethau rheoliadau penodedig (rheoliad 21(1));

(p)yn gosod cyfyngiadau ar gynnwys hysbysebion am fformiwla fabanod (rheoliad 21(2) a (3));

(ph)yn gwahardd hysbysebu fformiwla ddilynol os yw'r hysbyseb yn mynd yn groes i reoliadau penodedig neu'n methu â chydymffurfio â'u darpariaethau. (rheoliad 22);

(r)yn gosod cyfyngiadau ar hybu fformiwla fabanod (rheoliad 23);

(rh)yn gosod cyfyngiadau ar gynhyrchu neu gyhoeddi deunydd at ddibenion gwybodaeth neu addysg sy'n ymwneud â bwydo babanod ac y bwriedir iddo gyrraedd menywod beichiog a mamau babanod a mamau plant bach (rheoliad 24(1), (2) a (3));

(s)yn gwahardd cynhyrchwyr neu ddosbarthwyr fformiwla fabanod rhag gwneud rhodd o gyfarpar na deunyddiau at ddibenion gwybodaeth neu addysg oni bai bod amodau penodol wedi'u bodloni (rheoliad 24(4));

(t)yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gall corff neu sefydliad ei wneud gyda fformiwla fabanod y mae wedi ei chael heb dalu amdani neu am bris gostyngol (rheoliad 25);

(th)yn gwahardd allforio i drydedd wlad fformiwla fabanod sy'n groes i reoliadau penodedig neu i safon ryngwladol benodedig neu i Reoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 (O.S. 1996/1502) neu'n methu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 26(1));

(u)yn gwahardd allforio i drydedd wlad gynnyrch a gynrychiolir fel cynnyrch sy'n addas ar ei ben ei hun i fodloni gofynion maethol babanod normal iach yn ystod pedwar i chwe mis cyntaf eu bywyd oni bai bod y cynnyrch hwnnw yn fformiwla fabanod (rheoliad 26(2));

(w)yn gwahardd allforio i drydedd wlad fformiwla ddilynol sy'n groes i reoliadau penodedig neu i safon ryngwladol benodedig neu i Reoliadau Bwyd (Marcio Lotiau) 1996 neu'n methu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 27);

(y)yn darparu bod person sy'n mynd yn groes i reoliadau penodedig neu'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd ac yn darparu cosb am fynd yn groes iddynt neu am fethu â chydymffurfio â hwy (rheoliad 28(1));

(aa)yn darparu bod rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal (rheoliad 28(2));

(bb)yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) gydag addasiadau (rheoliad 29);

(cc)yn diwygio Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1866 (Cy. 25)) (rheoliad 30); ac

(chch)yn dirymu Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (O.S. 1995/77) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (mae O.S. 1995/77 yn gymwys i'r cyfan o Brydain Fawr) ac yn darparu trefniadau trosiannol o ran O.S. 1995/77 (rheoliad 31) .

4.  Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar yr effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei gael. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999.

(2)

1972 p.68. O ran Cymru, cafodd y swyddogaethau a arferid gynt gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol â'r cyfrifoldeb yn eu trefn dros iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru ac o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac a drosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adrannau 58 a 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).

(4)

OJ Rhif L401, 30.12.2006, t.1.

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(6)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

(7)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(8)

Codex Stan 72-1981, cyfrol 4, Codex Alimentarius, 1981.

(10)

Codex Stan 156-1987, cyfrol 4, Codex Alimentarius, 1987.

(11)

Diwygiwyd adran gan O.S. 2004/3279.

(12)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(13)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(14)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.

(16)

OJ Rhif L91, 7.4.99, t.29.

(17)

OJ Rhif L236, 23.9.2003, t.33.

(18)

OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.94.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill