Rheoliad 5
ATODLEN 9LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw cwningod
1. Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt—LL+C
(a)bod o faint digonol i ganiatáu i'r cwningod symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed yn ddidrafferth, ac i ganiatáu iddynt i gyd orwedd ar eu hochrau yr un pryd; a
(b)o uchder digonol i ganiatáu i'r cwningod eistedd yn gefnsyth ar eu pedwar troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Pan gedwir cwningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod lle iddynt gysgodi rhag y tywydd, gan gynnwys cysgod rhag golau uniongyrchol yr haul.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1