xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 8Amodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw moch

RHAN 2Amodau ychwanegol cyffredinol

Archwilio

2.  Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Tenynnau

3.  Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.

4.—(1Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(2Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.

Llety

5.—(1Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.

(2Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —

(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;

(b)cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;

(c)gweld moch eraill, ac eithrio—

(i)pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu

(ii)yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;

(ch)cynnal tymheredd cysurus; a

(d)cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.

6.—(1Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—

(a)tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;

(b)at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;

(c)tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;

(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;

(d)tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu

(dd)tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,

ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.

(4Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.

Adeiladau â golau artiffisial

7.  Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.

Atal ymladd

8.—(1Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.

(2Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.

Glanhau a diheintio

9.—(1Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Gwasarn

10.  Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.

Lloriau

11.  Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—

(a)fod yn llyfn heb fod yn llithrig;

(b)gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac

(ch)os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

12.—(1Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —

(a)11 mm ar gyfer perchyll;

(b)14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;

(c)18 mm ar gyfer moch magu; ac

(ch)20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.

(2Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—

(a)50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a

(b)80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.

Bwydo

13.—(1Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.

(2Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.

Dwr yfed

14.  Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.

Gwella'r amgylchedd

15.  Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.

Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysu

16.  Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y “system blwch-chwysu”).

Lefelau swn

17.  Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.

18.  Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.