xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 2494 (Cy.214)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) Gorchymyn 2007

Gwnaed

2.50pm ar 28 Awst 2007

Yn dod i rym

3.05 pm ar 28 Awst 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau o dan adrannau 1, 7 a 23(f) a (g) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Diwygio) (Cymru) Gorchymyn 2007:

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw'r Gorchymyn hwn rym am 3.05pm ar 28 Awst 2007.

Diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) Gorchymyn 1978

2.—(1Diwygier Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978(2) yn unol â'r Erthygl hon.

(2Yn y tabl yn Atodlen 1 (sy'n rhestru diheintyddion a gymeradwywyd) ar ôl y rhes sy'n cynnwys y cofnod ar gyfer VI-RID mewnosoder

Virkon Advanced200*250*200*

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Awst 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) Gorchymyn 1978 (“Gorchymyn 1978”), O.S. 1978/32.

Mae Atodlen 1 o Orchymyn 1978 yn rhestru'r diheintyddion a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 drwy ychwanegu Virkon Advanced at restr y diheintyddion a gymeradwywyd.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1981 p. 22; gweler adran 86(1) i gael y diffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r “Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044, ac maent yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(2)

O.S. 1978/32, a'r diwygiad perthnasol diwethaf i'r rhestri o ddiheintyddion a gymeradwywyd yw O.S. 2006/3166 (Cy.291).