Offerynnau Statudol Cymru
2007 Rhif 1710 (Cy.148)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud
12 Mehefin 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Mehefin 2007
Yn dod i rym
14 Mehefin 2007
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi (1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Gan arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2007.
Diwygio
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru)2007(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn y man priodol, mewnosoder—
“ystyr “cynnyrch cyfansawdd” (“composite product”) yw bwyd a fwriedir i'w fwyta gan bobl sy'n cynnwys cynhyrchion wedi'u prosesu sy'n dod o anifeiliaid yn ogystal â chynhyrchion sy'n dod o blanhigion ac mae'n cynnwys y cynhyrchion hynny pan fo prosesu cynnyrch sylfaenol yn rhan gyfannol o gynhyrchu'r cynnyrch terfynol, ond nad yw'n cynnwys bwydydd sy'n cynnwys unrhyw gynnyrch llaeth sy'n deillio o wledydd heb eu rhestru yn Atodiad 1 i Benderfyniad y Comisiwn 2004/438/EC (sy'n gosod amodau iechyd anifeiliaid ac amodau iechyd y cyhoedd ac ardystiadau milfeddygol ar gyfer dod â llaeth wedi'i drin â gwres, cynhyrchion wedi'u seilio ar laeth a llaeth amrwd a fwriedir i'w fwyta gan bobl i mewn i'r Gymuned) (OJ Rhif L92, 12.4.2005, t. 47) ac yr ymdrinir ag ef megis petai wedi ei ddarparu ar gyfer y cyfryw wledydd.”.
(3) Yn rheoliad 2 (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “cynnyrch” rhodder—
“ystyr “cynnyrch” (“product”) yw unrhyw gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid ac a restrir ym Mhennod 2, 3, 4, 5, 12, 15, 16, 17, 19, 20, 21, 23, 28, 30, 31, 35, 41, 42, 43, 51 neu 97 o'r Tabl yn Atodiad I i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC)(4), ond nad yw'n cynnwys—
cynhyrchion cyfansawdd a bwydydd a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC; neu
cynhyrchion cyfansawdd nad ydynt yn cynnwys cig neu gynhyrchion cig, pan fo llai na hanner y cynnyrch yn gynnyrch wedi'i brosesu sy'n dod o anifeiliaid, ar yr amod bod cynhyrchion o'r fath—
yn sefydlog ar gyfer y silff mewn tymheredd amgylchynol neu eu bod, wrth gael eu cynhyrchu, yn amlwg wedi bod drwy broses gyflawn o goginio neu driniaeth â gwres drwy gyfanrwydd eu sylweddau, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi'i annatureiddio;
wedi'u dynodi'n glir eu bod wedi'u bwriadu i'w bwyta gan bobl;
wedi'u pacio'n ddiogel neu wedi'u selio mewn cynwysyddion glân; a
bod dogfen fasnachol yn mynd gyda hwynt â'u bod wedi'u labelu mewn iaith sy'n iaith swyddogol i Aelod-wladwriaeth, fel bod y ddogfen honno a'r labelu gyda'i gilydd yn rhoi gwybodaeth ar natur, ansawdd a nifer y pecynnau o'r cynhyrchion cyfansawdd, gwlad eu tarddiad, y gweithgynhyrchydd a'r cynhwysyn;”.
(4) Yn lle paragraff (8) o reoliad 4 (Esemptiad ar gyfer cynhyrchion a awdurdodwyd a mewnforion personol) rhodder—
“(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “cig” (“meat”) “cynhyrchion cig” (“meat products”) “llaeth” (“milk”) a “cynhyrchion llaeth” (“milk products”) yw cynhyrchion o'r mathau hynny a restrir ym Mhenodau 2 a 4 o'r Tabl yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC.”.
(5) Yn Atodlen 1 (Amodau Mewnforio), Rhan VIII (Cynhyrchion Amrywiol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder —
“Cynhyrchion cyfansawdd
20. Penderfyniad y Comisiwn 2007/275 (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd archwilio ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496 a 97/78/EC) (OJ Rhif L166, 4.5.2007, t. 9).”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig
12 Mehefin 2007
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2007(O.S. 2007/376 (Cy.36) (“y prif Reoliadau”). Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith i Benderfyniad y Comisiwn 2007/275 (ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion fydd yn ddarostyngedig i reolaethau mewn safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496 a 97/78/EC) (OJ Rhif L166, 4.5.2007, t. 9).
Mae Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC yn pennu'r cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid o drydydd gwledydd y bydd y prif Reoliadau a Chyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC (sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefniadaeth gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i mewn i'r Gymuned o drydydd gwledydd) (OJ Rhif L24, 30.1.98, t. 9) yn gymwys iddynt. Y cynhyrchion yw cig, pysgod (gan gynnwys pysgod cregyn), llaeth, a chynhyrchion sydd wedi'u gwneud o'r rhain, ynghyd â chynhyrchion wy, mêl a chynhyrchion mêl, cynhyrchion bwyd cyfansawdd a nifer fawr o sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys casinau, crwyn, esgyrn a gwaed.
Mae Rheoliad 2(2) a (3) yn ymestyn rhychwant y prif Reoliadau i gwmpasu cynhyrchion cyfansawdd.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.
OJ Rhif L116, 4.5.2007, t.9.