- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff cynllun ddarparu ar gyfer talu i aelod o'r awdurdod sy'n gynghorydd lwfans (“lwfans gofal”) mewn cysylltiad â'r cyfryw dreuliau y mae'n angenrheidiol eu tynnu wrth drefnu gofal i blant neu ddibynyddion er mwyn i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod.
(2) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon beidio â darparu ar gyfer talu —
(a)lwfans gofal mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn dros bymtheg oed neu ddibynnydd onid yw'r aelod yn bodloni'r awdurdod fod angen ar y plentyn neu'r dibynnydd oruchwyliaeth sydd wedi peri i'r aelod dynnu treuliau a oedd yn angenrheidiol mewn cysylltiad â gofalu am y plentyn neu'r dibynnydd hwnnw er mwyn i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod;
(b)lwfans gofal i fwy nag un aelod o'r awdurdod mewn perthynas â gofalu am yr un plentyn neu ddibynnydd; neu
(c)mwy nag un lwfans gofal i unrhyw aelod o'r awdurdod nad yw'n gallu dangos er boddhad rhesymol yr awdurdod fod yn rhaid i'r aelod wneud trefniadau ar wahân ar gyfer gofalu am wahanol blant neu ddibynyddion.
(3) Ni chaniateir i'r swm y mae gan aelod sy'n un o gynghorwyr awdurdod hawl iddo o ran lwfans gofal, yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraffau (1) i (3) o reoliad 12, fod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw—
(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(iii);
(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.
(4) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans gofal sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys