xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
26. Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel parhaol a'i enw fydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
27.—(1) Rhaid i gyfansoddiad y Panel a benodir o dan reoliad 26 fod fel a ganlyn: Cadeirydd ac Is-gadeirydd, ynghyd â thri aelod arall.
(2) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi un aelod o'r Panel yn Gadeirydd y Panel.
(3) Nid yw unrhyw berson i fod yn aelod o'r Panel os yw wedi'i anghymwyso yn rhinwedd paragraff (4).
(4) Mae'r personau a ganlyn wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel —
(a)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o Dy'r Cyffredin, o Dŷ'r Arglwyddi, o Senedd Ewrop, o awdurdod, o gyngor tref neu gyngor cymuned; neu
(b)person sydd wedi'i anghymwyso(1) rhag bod yn aelod o awdurdod neu rhag cael ei wneud yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog yng nghyflogaeth awdurdod.
28.—(1) Rhaid i berson a benodir yn aelod o'r Panel ddal swydd ac ymadael â swydd yn unol ag amodau'r offeryn sy'n penodi'r person hwnnw i'r swydd honno fel a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni chaniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.
(3) Bydd person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel yn gynwys i'w ailbenodi.
(4) Mae aelod a benodir i sedd sy'n digwydd bod yn wag i wasanaethu yn y swydd honno hyd y dyddiad y byddai tymor mewn swydd y person yr etholir yr aelod hwnnw yn ei le wedi dod i ben.
29.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Panel gyfarfod unwaith y flwyddyn o leiaf.
(2) Rhaid i gyfarfod cyntaf y Panel gael ei gynnal o fewn cyfnod o chwe wythnos sy'n cychwyn ar ddyddiad yr offerynnau sy'n penodi personau'n aelodau o'r Panel (neu ar y cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno arno).
(3) Yng nghyfarfod cyntaf y Panel, neu pan fydd swydd Is-gadeirydd yn digwydd bod yn wag, rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith (ac eithrio'r Cadeirydd) i fod yn Is-gadeirydd y Panel.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y Cadeirydd sydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.
(5) Os bydd y Cadeirydd yn absennol o un o gyfarfodydd y Panel, Is-gadeirydd y Panel sydd i lywyddu.
(6) Mae Cadeirydd neu Is-gadeirydd i ddal y cyfryw swydd hyd oni ddaw tymor mewn swydd y person hwnnw fel aelod i ben.
(7) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau a wneir gan y Rheoliadau hyn, caiff aelodau'r Panel reoleiddio'i gweithdrefn eu hunain.
30.—(1) Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu gan fwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw gan yr aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.
(2) Os bydd nifer y pleidleisiau'n gyfartal, bydd y person sy'n llywyddu cyfarfod y Panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
31. Cworwm o dri fydd i'r Panel a rhaid iddynt gynnwys—
(a)y Cadeirydd; neu
(b)yr Is-gadeirydd.
32.—(1) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau a dynnir gan y Panel wrth iddo gyflawni'i swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r Panel y cyfryw lwfansau neu dreuliau ag y byddo'n penderfynu arnynt.
(2) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cefnogaeth weinyddol briodol ar gael i'r Panel.
33. Caiff y Panel, wrth iddo gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, geisio gwybodaeth neu gyngor gan unrhyw gorff neu berson.
34.—(1) Rhaid i'r Panel gynhyrchu adroddiad (“yr adroddiad cychwynnol”) sy'n rhagnodi mewn perthynas â phob awdurdod —
(a)y cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu —
(i)lwfans cyfrifoldeb arbennig; a
(ii)lwfans aelodau cyfetholedig,
mewn cysylltiad â hwy; a
(b)yr uchafsymiau sy'n daladwy o ran —
(i)lwfans sylfaenol;
(ii)lwfans cyfrifoldeb arbennig;
(iii)lwfans gofal;
(iv)lwfans teithio;
(v)lwfans cynhaliaeth; a
(vi)lwfans aelodau cyfetholedig.
(2) At ddibenion yr adroddiad cychwynnol, caiff y Panel —
(a)rhagnodi uchafsymiau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau gwahanol, a
(b)mewn perthynas â —
(i)lwfans cyfrifoldeb arbennig; a
(ii)lwfans aelodau cyfetholedig,
rhagnodi uchafsymiau gwahanol mewn cysylltiad â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau gwahanol.
(3) Wrth gynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, rhaid i'r Panel ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.
(4) Rhaid i'r Panel gynhyrchu'r adroddiad cychwynnol cyn 31 Gorffennaf 2008 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno arno).
35.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) , rhaid i'r Panel gynhyrchu adroddiad ym mhob blwyddyn (“adroddiad blynyddol”) sy'n rhagnodi mewn perthynas â phob awdurdod —
(a)uchafswm yr addasiad blynyddol y caniateir ei wneud gan yr awdurdod hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn ganlynol —
(i)i lwfans sylfaenol;
(ii)i lwfans cyfrifoldeb arbennig;
(iii)i lwfans gofal;
(iv)i lwfans teithio
(v)i lwfans cynhaliaeth; a
(vi)i lwfans aelodau cyfetholedig.
(b)mynegai y caniateir i'r awdurdod hwnnw addasu'n flynyddol, drwy gyfeirio ato, un neu fwy o'r lwfansau a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) i (vi) mewn perthynas â'r flwyddyn ganlynol.
(2) At ddibenion —
(a)paragraff (1)(a), caiff y Panel ragnodi uchafsymiau gwahanol mewn cysylltiad ag addasiadau blynyddol ar gyfer awdurdodau gwahanol; a
(b)paragraff (1)(b), caiff y Panel ragnodi mynegeion gwahanol ar gyfer awdurdodau gwahanol.
(3) Wrth gynhyrchu adroddiad blynyddol, rhaid i'r Panel—
(a)gymryd i ystyriaeth unrhyw adroddiad atodol a gynhyrchwyd gan y Panel cyn yr adroddiad blynyddol hwnnw ac sy'n rhagnodi materion sydd ar y pryd yn gymwys i unrhyw awdurdod; a
(b)ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r Panel gynhyrchu pob adroddiad blynyddol erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ymwneud â hi.
(5) Rhaid i'r Panel gynhyrchu'r adroddiad blynyddol cyntaf yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010 a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr 2009 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno).
36.—(1) Heb ragfarnu rheoliadau 34 neu 35, caiff y Panel ar unrhyw adeg ar ôl cynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, ac o bryd i'w gilydd ar ôl hynny, gynhyrchu adroddiad (“adroddiad atodol”) yn rhagnodi mewn perthynas ag un awdurdod neu fwy unrhyw un neu rai o'r materion y caiff y Panel eu rhagnodi yn unol â rheoliadau 34 a 35.
(2) Wrth benderfynu p'un ai i gynhyrchu adroddiad atodol ai peidio ac, os bydd wedi penderfynu gwneud hynny, wrth gynhyrchu adroddiad atodol, rhaid i'r Panel ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.
37.—(1) Caiff y Panel wneud argymhellion ynghylch pa aelodau o awdurdod sydd i fod â hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997(2).
(2) Wrth arfer ei swyddogaethau o dan baragraff (1), caiff y Panel wneud argymhellion gwahanol mewn perthynas â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer y swyddogaethau hynny mewn cysylltiad ag ef.
(3) Caiff argymhellion o dan baragraff (1) fod yn rhan o adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliadau 34 neu 36.
38.—(1) Caiff awdurdod —
(a)penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â hawl i bensiynau'n unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997; a
(b)darparu mewn cysylltiad â'r aelodau hynny y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yr ymdrinnir â lwfans sylfaenol a lwfans cyfrifoldeb arbennig fel symiau y mae pensiynau'n daladwy mewn cysylltiad â hwy.
(2) Rhaid i awdurdod wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn wneud hynny ddim ond mewn cysylltiad ag aelod a argymhellwyd gan y Panel fel aelod cymwys i gael y cyfryw hawl o dan reoliad 37.
39.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Panel gynhyrchu adroddiad o dan reoliad 34, 35 neu 36, rhaid i'r Panel anfon yr adroddiad hwnnw ymlaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel o dan reoliad 34 neu 35 ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad hwnnw at
(a)pob awdurdod;
(b)pob awdurdod Parc Cenedlaethol; ac
(c)pob awdurdod tân ac achub.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel o dan reoliad 36 ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad at —
(a)yr awdurdod y mae'r adroddiad hwnnw'n ymwneud ag ef;
(b)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae'r awdurdod hwnnw o fewn ei ardal; ac
(c)yr awdurdod tân ac achub y mae'r awdurdod hwnnw o fewn ei ardal.
(4) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru —
(a)cyhoeddi manylion adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1) mewn un papur newydd neu fwy sydd â chylchrediad trwy Gymru gyfan;
(b)os yr adroddiad cychwynnol neu os adroddiad blynyddol yw'r adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1), gynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad yn dweud y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar y cyfryw adegau ag y byddo'r awdurdodau hynny'n eu pennu;
(c)os adroddiad atodol yw'r adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1), gynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad -
(i)yn dweud y bydd copïau o'r adroddiad hwnnw ar gael i aelodau o'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod neu'r awdurdodau y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef neu â hwy ar y cyfryw adegau ag y byddo'r awdurdodau hynny'n eu pennu; a
(ii)yn pennu'r awdurdod neu'r awdurdodau y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef neu â hwy.
(5) Rhaid i bob awdurdod sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i un o adroddiadau'r Panel o dan baragraff (2) neu (3) ddod i law —
(a)bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar y cyfryw adegau rhesymol ag y byddo'r awdurdod yn eu pennu; a
(b)bod copi'n cael ei gyflenwi i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn penderfynu arni.
Gweler adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ac adrannau 79 a 83(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
O.S. 1997/1612, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/1613, O.S. 1998/1238, O.S. 1999/1212, O.S. 1999/3438, O.S. 2000/3025, O.S. 2001/3649, O.S. 2001/770, O.S. 2001/1481, O.S. 2001/2401, O.S. 2002/206, O.S. 2002/819, O.S. 2003/2249. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i Gymru.